Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

106 Y CEONICL. mewn merch i un Mr Penry, boneddwr o Sir Frycheinio^, ac aetb ato i ofyn am dani. Gofynodd Mr Penry iddo, pa foddion oedd ganddo i gyfar- fod ag ef ? Ymaflorìd Lewis Rees mewn Beibl a ddygwyddai fod yn ymyl. a dywedodd, " Syr, y trysor penaf wyf fi yn feddu ydyw y llyfr hwn." Boddlonodd y boneddwr i'r etifeddiaeth, a chaniataodd ei ferch iddo yn rhwydd. Yr oedd ei gymeriad fel dyn a Christion yn enill serch pawb. Dywedir fod ei ddawn gwed.li yn anghyffredin, ae am ei bregethau yr oeddynt o nodwedd ymarferol yn fwy na<; athrawiaethoh Nid oedd pall ar ei lafur a'i ddiwydrwydd yn mhob ffordd i wneud daioni ac i enill eneidian at Grist. Gweithiodd yn ddiöino gydag adeiladu y capel cyntaf, a bu yn ddiwyd yn casglu ato Un tro pan yn yr Amwythig yn casglu ato, aeth i dŷ gwr bcneddig, a thra yn disgwyl cyfle i siarad ag ef, clywodd ef yn ceryddu ei forwyn yn llym am wastraffu ychydig o gauwyll. Tybiodd Lewis Rees yn y fan mai cybydd mawr ydoedd, ac nad oedd obaith am ddim at y capel, ond pan osododd ei achos ger bron, synwyd ef yn fawr pan edrycbodd y gwr boneddig yn llon arno, ac yr estynodd iddo bum' gini. Dywedodd Lewis Rees wrtho, ei fod wedi ofni na chai ddim pan yn ei glywed yn trin y forwyn am wastraffu y ganwyll. " O," ebai yntau, " wrth ofalu na byddo dim gwastraff yn fy nheulu mewn pethau bychain, y mae genyf bum'gini i roddi i chwi heddyw." Boddlonodd hyn Lewis Rees yn fawr, a mynych yr adroddai yr hanes am ei fod yn gwbl gyson a'i duedd, a'i ymddygiad ei hun dros ei holl fywyd. Yr oedd golwgalarus iawn ar Ogledd Cymru yn grefyddol pan ddaeth Lewis Rees i Lanbryn- mair. Nid oedd ond chwech o addoldai yn holl Ogledd Cymru gan bob enwad Ymneillduol, ac ambell i dỳ wedi ei recordio. Yr oedd y wlad oll mewn tywyllwch mawr. Pregethai Lewis Rees yn achlysurol yn y Bala, ac un tro daetb un Meirig Dafydd i wrandaw arno, a mawr hoffodd y bi*e- geth a'r pregethwr, a bu'n daer arno dd'od i'w dŷ yntau i bre^ethu. Addawodd Lewis Rees fyned, a phenodwyd dydd. Gwahoddodd Meurig Dafydd ei gymdogion i dd'od i wrandaw arno, gan ddyweud fod gwr dieithr yn d'od yno i ddarllen Yr oedd pregethu yn air anadnabyddus yn y wlad". Daeth Jluaws i'r oedfa, a dyna líe yr oedd y gwragedd yn brysur yn gwau hosanau, a Lewis Rees yn eistedd wrth y tân gan edrych gyda chil ei lygad ar ei ddarpar wrandawyr. Pan ddaeth yr amser cododd at y bwrdd i ddarllen penod, gan ddis^wyl iddynt roi y gwaith o wau hosanau heibio. ond glynent wrth eu gorchwyl yn ddyfaí. Cymerodd achlysur i wneud ychydig o sylwadau oddiwrth y benod, ond nid oedd yn llwyddo i gael eu bysedd mwy na'u meddyliau oddiar eu hosanau. Aeth i weddi, a'r olwg olaf a gafodd arnynt oedd yn prysur drin y gwëill. Ond ni adawodd yr Arglwydd ef yn ddigymorth, na'i weddi yn ddieffaith. Clywai ochen- eidiau yn eu plith yn mhen enyd, ac erbyn codi yr oedd pob hosan wedi syrthio i'r llawr. Cafodd hwy erbyn hyn i hwyl i wrandaw, a mawr oedd effaith y bregeth ar y bobl, ac yr oedd amryw yn barod i lefain allan, " Beth a wnawn i fod yn gadwedig ?" Anogodd Lewis Rees Meurig Dafydd i recordio ei dŷ, ond ofnai efe na chai neb i dd'od yno i bretjethu, a dywedai, "pe cawn rhywun a addawai dd'od yma unwaith yn y tiwyddyn mi wnawn. Addawodd Lewis Rees yr üi yno bedair gwaith yn y flwyddyD. Becordiwyd y tŷ, a bu Lewis Rees cystal a'i air, a dyma ddech-