Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y * Çronicl Rhif. 783. GORFFENAF, 1908. [Cyf. LXVÍII. BYW YN PPOETtì. Gan Dr. Pan Jones, Mostyn. Ceisiais fyw yn ddoeth am flwyddi Fel dyn arall gyda'm gwaith ; Ond 'd oedd synwyr ddim yn talu Yn y god naV cylla chwaith. Yna penderfynais wed'yn Droi'n ynfytyn yn fy nhrefn, A daeth llwyddiant i fy nghanlyn, Fel pe'n rhedeg ar ffordd lefn. Mawr y siarad oedd am danaf Gan bob graddau yn y fro ; Synu'n ddwys y byddant ataf— Holent " Beth sydd arno fo? " Ond pan ddaethum yn gyfoethog Crynent o fy mlaen fel gwrach, Adywedent "Un talentog Ydoedd ef yn hogyn bach." Cynt y drysa y planedau, Dawnsia'r Wyddfa yn yr aig, Y distawa rhu y tonau Sydd yn golchi traed y graig, Nag y credir mai ynfydion Sy'n boblogaidd yn y byd; Llwyddiant sydd yn gwneuthur doethion Cyfoeth gwna ni'n ddoeth i gyd. Henffych fywyd yr ynfydion, Rhoer ynfydrwydd ar ei sedd; Diwerth ydyw synwyr doethion, I ddoethineb cloddiwch fedd, Nid yw'n talu. Yswain tirol, Dyna ddoethyn, dyna gawr, Dyna ddyn yr oes bresenol, Yn ol deddfau Prydain Fawr.