Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dysgedydd y Plant. Rhif 110.] CHWEFROR, 1380. [Cyf. X. ANEECH I BLANT YE YSGOL SUL. CYRCHU AM Y GAMP. ' Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yn Nghrist Iesu."—-Paul. âNWYL GYFEILLION,—Yr wyf yn gwybod eich bod yn hoff o ddarllen hanes dygwyddiadau cynhyrfus, neu am- gylchiadau cyffrous. Y mae geiriau ein testun yn dwyn ger ein bron olygfa ag sydd yn orlawn o'r cyfryw ddygwyddiadau; ac os sefydlwch eich meddyliau arnynt am ychydig, fe'ch llen- wir, yr wyf yn teimlo yn sicr, â dyddordeb a pnleser. Gwyddai Paul yn dda am y campau Groegaidd, ac fel yr oedd y rhedeg- wyr yn y gyrfaoedd hyny yn ymdrechu am y wobr a ddelid o fiaen yr enillwyr; ac er pan oedd efe wedi ei ddychwelyd, a dechreu arwain bywyd newydd, yr oedd yntau wedi rhoddi ei droed ar yrfa ag yr oedd gwobr yn cael ei dal o'i fiaen yn ei phen draw, a phenderfynai beidio liwfrhau nes cyrhaedd y nôd. Y nôd hwnw oedd santeiddrwydd, a'r wobr o'i flaen ydoedd y nefoedd. Dymunem i chwi oll, àrwy ras Duw, fabwysiadu arwyddair yr Apostol, a giynu wrtho hyd ddiwedd eich oes. Y mae y plant sydd yn mýned y n mlaen yn ffordd pechod, heb geisio cyfnewidiad calon, a'r hyn sydd yn dilyn, sef cyfnewidiad bywyd, yn symud yn mlaen ar lwybr a arweinia nid i ogoniant, ond i gywilydd; nid i oleuni, ond i dj'wyllwch; nid i fÿw}>'d, ond i farwolaeth. Yr unig ffordd i gyrhaedd y nefoedd yw drwy ymdrechu byw yn santaidd; rhaid i ni ddyfod yn debyg i Dduw, os yn dymuno ei foddhau ef, a bod gydag ef pan y byddo ein heinioes wedi diflanu. Y syniad cyntaf y dymunwn alw eich sylw ato, yn ol awgrymiad y testun, ydyw, I. MYNWCH NOD O'CH BLAEN AR TfRFA RYWYD. Nis gallwch ddechreu yn rhy gynar wneud eich meddwl i fyny i fyw i ryw amcan. Y mae tuedd gref a naturiol mewn pobl ieu- ainc i fod yn ddifeddwl am y dyfodol, ac i ddeol o'u meddyliau bob gofal am yr amser i ddyfod: tybiant fod ganddynt fiynyddau