Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

G W E RI N W R . Bhtf III.] MEHEFIN, 1855. [Llyfr I. LLAFUE A LLWYDDIANT. Llwyddiant ac aflwyddiant, sydd amgylehiadau gwrthgyferbyniol, cy- «ylltiedíg â dynolryw yn eu holl sefyíl- fäoedd, ac yn cynyrchu dedwyddwch neu drueni, pleser neu boen bob amser. Y naill a ddymunir gan bawb, a'r llall a ysgöir yr un mòr gyffredinol. Y mae dymunoldeb llwyddiant, yn achosi bywyd ac ysgogiad, egni ac ym- drech yn y gymdeithas ddynol. Er ei gyraedd gwnaeth dynion yr hunan-ym- wadiad llymdostaf, daethant trwy rwystrau dirfawr, a cbyflawnasant y gorchestion mwyaf anhygoel. Ond er mor ddymunol ydyw ìlwyddiant, nid pawb ag syddyn ei ddymuno sydd yn ei gyraedd; a hyny yn aml, o ddiffyg llafur ac ymdrech ; neu ynte o ddiffyg cymwysiadolafur ac ymdrech priodol. Y mae hanesiaeth y byd, profìad per- sonol, a Gair Duw, wedi ein dysgu mai nid rhywbethydyw llwyddiant sydd yn dyfod ar draws dynion yn ddamweiniol, heb reol na threfn, ond mai bendith y Goruchaf ydyw, yn gysylltiedig â llafur. Nid yw Duw yn caru nac yn bendithio diogi; ond yn y cyffredin y mae yn co- roni Uafur cyfreithlon, â Uwyddiant dy- naunol. " Y diog a ddeisyf, ond ni chaiff ddim." " Ond enaid y diwyd a a wneir yn fras—a 11 aw y diwyd a gy- foethoga." Y mae yn ddeddf gyffredinol, mai y Üafurus sydd yn cyfarfod â Uwyddiant, yn mhob dim; er fe ddicbon y gellir cy- farfod âg ambell un, oherwydd rhagor- iaeth ei athrylith a'i dalentau naturiol, yn lled ddysgedig, ac yn meddu gradd- au- helaeth o wybodaeth; ac eraill oblegid rhyw amgylchiadau damwein- iol, wedi cyraedd sefyllfáoedd anrhyd- eddus a dylanwadol; ac eraill, dra- chefn, wedi d'od i feddiant o gyfoeth mawr, a'r cwbl, o bosibl, heb gostio iddynt nemawr o lafur; ac yn annibynol hefyd ar eu rhinweddau personol. Ond wrth droi croniclau y gymdeithas ddynol, ceir profion digonol o wirion- edd yr haeriad,—Fod llwyddiant yn gysylltiedig â llafur. Ac nid egwydd- or yn perthyn yn unig i'r cyn-oes- oedd, ac yn gweddu yn unig i sefyllfa farbaraidd yr hynafiaid, ydyw; ond y mae yn dwyn perthynas a chysylltiad mòr agos â'r oes hon, er eu holl honiad- au i wareiddiad a choethder. Nid wrth hepian y cyflawnodd y gwroniaid eu gorchestion arwraidd, ac y cyraeddas- ant enwogrwydd addoladwy; nid wrth freuddwydio y treiddiodd athronyddion yr oesoedd i berfeddion anian, ac i ddir- gelion y meddwl dynol, ac y cawsant allan wirioneddau a ffeithiau pwysig a rhyfeddol, a'r deddfau grymus perthyn- ol iddynt, nad oeddynt hysbys i'wrhag- flaenwyr, er eu bod bob amser mewn bod ac yn gweithredu- A'r gwlad-wein- wyr hyny, a hynodasant eu hunain yn ffurfafen Uywodraethau y byd, trwy lunio cyfreithiau, a threfnu mesurau, er rheoleiddio bywyd a masnach y deiliaid •