Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y FWytLL (Jke Battle Axe.) Rhif. 2. Ebrill, 1895. Cyfrol II. ADGOFION FY MYWYD. ii. ^j^EN was gwr-honedclig wedi ei wneyd yn bensioner—dyn teneu ^rjb iawn, bychan ei asgwrn, heb fod yn fyr, ac mor ysgafn ar ei Iroed a milgi; wyneb cul, genau bychain mintan, yn gwisgo berwig gochddu ar ei goryn moel; gwargrymai gryn dipyn, fel pe wedi ei lunio o bwrpas i gerdded y rhiwiau, a chariai bob amser ffon daclus, olygus, dan ei law, tuag at droi draw ben ci brathog, yn gystal ag i'w gynorthwyo i droedio ei rodfeydd heb gael cam gwag. Yr oedd J. W. —canys dyna oedd ei enw—wedi gweled tipyn o'r byd, yn deall manners, Írn dra gofalus sut i gyfarch pobl o bob gradd, yn meddu ychydig o yfrau allan o'r cyflredin yn y wlad, ac o fewn cylch gweddol gyfyng yn ddyn deallus a seliad. Llais main a thyner oedd ganddo, a h}Tnodid ei ynganiad gan ddull "gwas boneddig " o dori ei eiriau oedd yn ymylu ar fursendod. Yr oedd swyn nodedig yn ei barabl, a medrai ei " dweyd hi" yn llyfn a pherseiniol pan ddechreuai arni o ddifrif. Yr oedd ei lais merchedaidd, ei wefus deneu, ei geg fechan, ei goes fain, ymgrym- iad moesgar ei ben, gydag ysgydwad arwyddocaol ei ftbn loew, " all in a 2)iece." Gwisgai yn daclus a phlaen, mewn elos pen-glin llwyd, siaced higfain fel cynftbn y [wenol o ddefnydd tywyll, gwasgod dywyll a blewyn coch ynddi, gydag un res o fotymau gloewon yn cau yn uchel, cadach du yn dorch am ei wddf o amgylch coler wen, uchel, hir-glustiog a hollol Gladstonaidd. Hen lanc cysetlyd y gelwid ef gan y Uanciau, a da nad oedd ganddynt ddim gwaeth i'w ddyweyd am dano. Cydna- byddid gan bawb a'i hadwaenai ei fod yn bictiwr o lanweithdra, a ;hrefnusrwydd a nioesgarwcli, ac nad oedd blotyn ar ei gymeriad. Annil>ynwr ydoedd o ran ei ymlyniad crefyddol, ond gan nad oedd Annibynwyr yn y gymydogaeth, efe a wnaeth ei gartref gyda'r Wesley- aid yn nghapel y Llan.