Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ì&aneaton STramor a öfl&artrẅî* TAHITI. Yn y Rhifyn am Mai, rhoisom ychydig adroddiad am y dygwyddiad annymunol a gymerodd le yn ddiweddar gyda golwg ar amgylchiadau tytnhorol ynys Tahiti, neu Otaheite, fel y gelwir hi yn fwyaf cyffredinol, sef y modd gorthrymus y gorfodogwyd Brenhines yr ynys i roddi ei threftadaeth i fyny i ddwylaw Llywodr- aeth Bahaidd Ffrainc. Eithr gan nad oedd yr amgylchiadau a fu yn arweiniol i hyny yn gwbl eglur i ni y pryd hwnw, barnwn y bydd yn foddhaol gan ein darllenwyr gael ychydig eglurhad yn mhellach ar y mater, yn enwedig gan mai yn y parth hwnw y bu y gweithrediadau Cenhadol cyntaf dan y Gymdeithas ag yr oedd a wnelai y Cymry fwyaf â hi yn y blynyddoedd a aethant heibio, a chan fod un o'n cydwladwyr (y Parch. John Davies, gwel ei lythyr yn y Rhifyn am Mai, dal. 145,) yn llafurio yn yr ynys liùno hyd heddyw. Yn mis Tachwedd, 1836, glaniodd llong fechan o ynys Gambier ar barth o ynys Tahiti, ar yr hwn barth yr oedd yn hysbys fod penaethiaid y lle wedi cy- hoeddi cyfraith yn gwahardd i ddyeithr- iaid lanio; ond yn groes i'r gyfraith hòno, y llong grybwylledig a ddyg i dir ddau offeiriad Pabaidd, priodorion o Ffrainc, a hyny heb ofyn caniatad y Frenhines na'i swyddogion. Felly, cyn gynted agy can- fyddwyd y dyeithriaid hyny, cymerwyd hwynt mewn dalfa, fel troseddwyr y gyfraith a soniwyd, ac hefyd am geisio cymhell crefydd ar y trigolion ag ydoedd hollol annghymeradwy ganddynt. O ganlyniad dychwelwyd yr offeiriaid yn ol i'r llong, heb na sarhad na niwed mewn un modd. Yn mhen dwy flynedd ar ol hyn ymddanghosodd y Cadben (yn awr Llyngesydd) Dupetit Thouars ardueddau Tahiti, gan hawl-ofyn iawn o ddwy fil o ddolars am y sarhad a gawsai y ddau offeiriad yno; ac o ddiffyg cyflawni ei ofyniad, bygythiodd ergydio 64 o fangnel- au ar y lle yn ddioed. Yn hytrach na myned i ryfel, rhyw nifer o ddyeithriaid, a ddygwyddasant fod ynTahitiar y pryd, a dalasant y swm, a'r Frenhines a orfu Wneyd rhyw fath o addefiad o'r trosedd, er nad oedd un trosedd wedi bod. Felly y cadben a aeth i'w ffordd. Hyn a fu yn rnis Awst, 1838; ac yn Ebrill canlynol, daeth liong Ffrengig arall i Tahiti, i gael ei hadgy weirio ; a bu yn y porthladd dair ^ythnos, a'r Tahitiaid a roddent bob cynorthwy a allent i'r dwylaw: ond, yn dâl am eu cymwynasgarwch, y Llywydd (La Place) a orfodogodd y Frenhines i üaiddymu y gyfraith oedd yn gwahardd dyfodiad Pabyddion i'r ynys, dan y by- gythiad o dirio 500 o'i wŷr yn ebrwydd, °sgommeddid ei gais. O'r pryd hwn allan rhoddwyd rhyddid i Genhadon Pabaidd, fel ereill. Ar yr lleg o Fai, 1842, rhyfel-long Ffrengig arall a ymwel- odd â'r ynys, athra yr ydoedd yno medd- wodd y Llywydd, ac aeth yn afreolus; ac am fod hyn yn drosedd o gyfraith yr* ynys, dodwyd ef yn ngharchar; ond ar ei ollyngiad yn rhydd, gorfodogodd y Fren- hines i beidio cadw police! Ar y dydd cyntaf o fis Medi canlynol, y Llyngesydd Dupetit drachefn, mewn llong o 64 o ỳnau, a ymwelodd â'r ynys, fel yr adroddasom yn ein Rhifyn o'r blaen. Ymddanghos- odd yn bur gyfeillgar ar y cyntaf; ond pan ddeallodd fod cyfreithiau yr ynys yn gwa- hardd i fenywaid Tahiti nesâu at longau dyeithr, rhag dwyn anair arnynt hwy eu hunain, ac ar y grefydd Brotestanaidd a sefydlesid yno, gorchymynodd i'r cyfreith- iau gael eu diddymu : ac er mwyn cyflawni ei amcan yn mhellach, hònodd ddarfod i 4 o benaethiaid yr ynys fyned ar fwrdd ei long ef un nosŵaith, a dywedyd eu bod yn analluog i iawn-lywodraethu y trigolion; ac felly eubodyn eu henwau eu hunain, ac yn enw y Frenhiues, yn deisyf ar " fod i gysgod Brenin y Ffrancod gael ei daflu drostynt." Ond y Frenhines a wrthododd gydnabod yfath delerauhyd yr awr ddi- weddaf, fel yr adroddwyd o'r blaen. Oddiwrth y byr adroddíad hwn, can- fyddir y fath ddull dichellgar a hocedus a ddefnyddiodd y Ffrancod i gymeryd meddiant o ynys annibynol Tahiti, fel hefyd, y mae yn debygol, y bwriadant wneuthur o holl ynysoedd y parth hwnw o'r byd. A chan nad oes eto ddim ar- wyddion y gwna Llywodraeth Lloegr un ymgais i wrthwynebu y gormes, bernir yr â yr amcan yn mlaen yn ddirwystr. Yn ngwyneb y trychineb hwn y mae Cym~ deithas Genhadol Llundain wedi derbyn cyfarchiadau o dosturi oddiwrth bron bob enwad o Gymdeithasau Cenhadol ereill yn Lloegr a Ffrainc, ac yn enwedig un oddiwrth y Gymdeithas Efengylaidd yn Genefa, yr hon a annogai fod i ddydd Llun, Mehefin 5ed, gael ei neillduo yn ddydd i ymbil ar Dduw pob gras am drefnu gwaredigaeth i drigolion Môr-y-de oddi- wrth ormes Pabyddiaeth, ac am enyn mwy o undeb cymdeithasol a chydymdrech egniol yn mysg yr holl eglwysi efengyl- aidd, er gwrthsefyll amcanion ystrywgar pleidwyr y grefydd annghristaidd hòno yn y dyddiau cythryblus hyn ! Felly y mae yn debygol y bydd i'r diwrnod crybwyll- edig gael ei neillduo i'r perwyl drwy holl barthau y deyrnas. [Gwel tudal. 187 o'r Rhifyn hwn.] YNYSOEDD Y MARQUESAS. Ychydig ddyddiau yn ol daeth newydd i Loegr, gyda llong a adawodd Otaheite ar y 23ain o fis Hydref, yn mynegu