Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(h v!*V::3. i\!o..........7. No.............. Presented By Date—jgfeg^; i')/y (THE BALA STUDENTS' MAGAZINE.) Cyf. X. Tymor y Gaeaf, 1908. Rhif i. îj)r Bôlwçôt a'r fTDubíaò CçnẅeítbasoL Gan y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon. WRTH i ni graffu ar gwrs y byd a llifeiriant bywyd cym- deithas, annichon ydyw methu canfod yr anesmwythyd a'r anfoddogrwydd sydd yn ymweithio drwy holl ddosbarthiadau cymdeithas y blynyddoedd hyn. Ysbryd dibrisio'r hen ffyrdd a swn symud yr hen derfynau glywir ar bob llaw. Un o nodweddion amlycaf yr oes ydyw lledu ac eangu pob peth mewn llafur, gwleid- iadaeth, a chrefydd. Gynt, clywid am fraint a digon yr ychydig, ond erbyn hyn y mae y dyrfa wedi deffro, a chlywir am hawliau ac angen y werin a'r miloedd. Nid yw yr anesmwythyd yna i'w ganfod yn amlycach yn unlle nag ym mherthynas cyfalaf a llafur. Flynyddoedd maith yn ol bu y llafurwr, druan, yn gruddfan dan iau greulawn Arglwyddi y tir—The Feudal Aristocracy—ac ni budwy- law yr amaethwyr cefnogyn lân oddi wrth waed meibion llafur yn y cyfnod yna. Yn gynar yn y ganrif o'r blaen daeth pyllau glo Morganwg a chwareli Arfon, yn nghyd a gweithfeydd gwlân a chotwm Lloegr yn nawdd-leoedd i annibyniaeth meibion llafur am dymor byr. Ond yn fuan cymerodd y cyfalafydd goludog le yr Arglwydd tirionog, a rhoddodd yntau ei sawdl haiarn ar wddf y gweithiwr diamddiffyn. Gwn fod gan y llafurwr ryddid, mewn enw, i werthu ei wasanaeth i'r uchaf ei bris ym marchnad y byd ; ond mewn gwirionedd, ni bu caethion De yr America erioed yn fwy caeth i'w meistriaid nag yr oedd gweithwyr y wlad hon haner can' mlynedd yn ol. Felly, gani gyfalaf gamddefnyddio gallu aruthrol cyfoeth ac anghofio ei