Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GYLGHGRAWN \ - ■ - . ■ ' . - ' I i : YSGOL CYHOEDDIAD WYTHNOSOL, AT WASANAETH YR YSGOL SABBOTHOL A CHREFYDD. RlîIF 2.] MAWRTH 12FED, 1875. [Pris Dimai. CYNWYSIAD. TÜDAI. Mri Moody a Sanfcey, yn Lerpwl ......... ......... 1 Gwaredu y Gwehiüon ......... ......... ......... 2 Yr Bneth Ddall a*i Beibl...... ......... ......... 4 Gweithgarwch gyda yr Ysgol Sabbothol yn bleser ........ 4 Maes llafur wythnosol ......... ......... ......... 6 Nodion Ysgrytbyrol ......... ......... ......... 5 "Y Lindya" ......... ......... ......... 6 Bwyta yr Ysgrythyrau ......... ......... ......... 6 Barddoniaeth—"Û, dowch i'r Ysgol Sul."... ......... 6 Dirwesfc—Y Bhyfel Whiskey ... ......... ......... 7 Cardota fi llawer o Dafodau... ......... ......... 7 Hysbysiadau.................. ......... 8 Mtl moody a SANBEY YN lerpwl. EU GLANIAD CYNTAF YN LLOEGR. *'Yb ocddwn yn meddwl heddyw," meddai Mr. Sankey yr ail wythnos ar ol eu dyfodiad i Lerpwl, "am y cyfarfod gweddi cyntaf y buom ynddo yn y wlad hon. Bedwar mis ar bymtheg yn ol glanias- om yn eich tref—a cherddasom i fyny eich heolydd —yn unig. Aethom yn mlaen i York, a chynal- iasom gyfarfod gweddL Nid oedd ond pedwar o ddynion yn bresenol y diwrnod cyntaf, yr ail ddiwrnod pump, a'r diwruod drachefn daeth dwy neu dair o foneddigesau atom. Prin yr oedd yr ystafeil i gyd gymaint a'r platform y safwn arno yn awr. Ond amser dedv* ydd ydoedd hwnw. Nid dyfod i farnu, a chwilio am wallau yr oedd dynion, ond i weddio. A chai pawb gyfleustra i weddio y pryd hyny. Yr ydoedd yn un o'r cyfarfodydd gweddiau mwyaf melys a gawsom yn ein hoes. Daliasom ì lafurio, er fod pethau yn ymddangos yn ein herbyn. O'r diwedd agorodd yr Arglwydd galonau gweinidogion y dref hon, a dyna yr amser y dechreuodd y gwaith mawr. Ac yr wyf wedi sylwi, pa le bynag y mae plant Duw yn boddloni i ymuno a chydweithio, fod yr Arglwydd yn bendithio." Erbyn heddyw dyma Y GYNULLEIDFA O BEDWAR WEDI CHWYDDO YN FILOEDD. Cyfrifir fod yr adeilad lle y cynnelir eu cyfarfod- yn Lerpwl yn ddigon heláetb i gynnwys o ddeg i un mil ar ddeg o bobl; ào eto dyma fel y dywed y ' Lẁeì-pool Mercury' wrth roddi adroddiad am y cyfarfodydd yr 2il cyfisol,—" Yn mhell cyn yr adeg i'r gwasanaeth ddechreu, yr oedd y drysau wedi eu hamgylchynu gan dyrfa bryderus am gael myned i mewn. Llanwyd yr adeilad eang bob modfedd o hono, a pbe buasai gymaint dair gwaith ni buasai yn ddigon i gynnwys y rhai a ewyllysiënt ddyfod i mewn. Yr oedd y gynulleidfa yn gynnwysedig o ddynion o gredoau hynod wahanol i'w gilydd— Uchel ac Isel-Eglwyswyr, Orieinwyr, Wesleyaid, Undodwyr, Bedyddwyr, Presbyteriaid, Pabyddion, Iuddewon, Groegwyr, Ysbrydegwyr, &c, &e. A chynrychiolid pob dosbarth o fasnachwyr—o'r marsiandwr cotwm tywysogaiddi lawr at y prynwr a'r gwerthwr rags," &c. Ac mae'r cynnulleidfaoedd yh filoedd bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd. Llawer sydd wedi ei ysgrifenu i geisio esbonio DIE.GELWCH EU LLWYDDIANT, ond fel y dywed y Parch. R. W. Dale, Birming- ham, "jp esboniad mwyaf gwir, syml, a chyflawo, ydywr, fod gallu Duw yn cael ei amlygu i raddau