Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ctf. 10, Rhif. 4.] EBRILL, 1849. [Rhif. oil, 112. î^tDaraffîîoM. BYWGRAFFIAD Y DIWEDDAR BARCH. T. PHILLIPS, NEUADDLWYD, D. D. (Terfyniad o Rifyn 3, tu dal. 66.) Gan mai gwneud daioni ddylai fod y nod i gyrchu ato wrth ysgrifenu hanes bywyd pob dyn, amcanwn at hynydrwy osod ger bron y cyhoeddus y cynghorion a roddwyd ganddo idd ei ysgolheig- ion ; diau y gallant fod o les mawr i bregethwyr ac eraill. Galwai gweinidogion Cymru am dan- ynt yn gyhoeddus, a dyma hwy,— 1. " Gofalwch i beidio ymgeisio at wneud eich hunain yn fawr, drwy gymeryd testynau a phynciau uwchlaw eich deall. 2. Peidiwch a bod yn rhy ëofn wrth bregethu. 3. Peidiwch ceisio trin testynau dyeithr a dyrus. y rhai mae y doethion a'r dysgedig yn methu eu penderfynu. 4. Byddwch ofalus i beidio llyncu ymadroddion dyeithr a glywir gan eraill, na fyddont sylweddol na doeth. 5. Byddwch ofalus i gadw amserau eich cy- hoeddiadau, a pheidiwch byth a thori cyhoeddiad heb reswm digonol. 6. Os bydd dau yn cyd-lefaru. ac i'r cyntaf ddy- gwydd bod yn rhy faith, bydded i'r ail i ofalu bod yn fyr iawn, neu beidio pregethu dim. 7. Peidiwch a phara yn rhy hir wrth weddio, megys sefyll yn rhy hir ar un o briodoliaethau Duw, neu ryw beth arall. 8. Os bydd dau gyda'u gilydd, ystyrier pa un Bydd addasaf i fod yn olaf, ac nid bob yn ail bob amser. » 9. Peidiwch ysgrechian, a gwneuthur ystumiau annaturiol ac anmhriodol ar y corph wrth breg- ethu; ond dyrchefwch eich llais yn beraidd, a gwnewch ystum briodol ac addas i'r mater. 10. Peidiwch enwi sectau eraill a'u beio, ac ar yr un piyd heb wybod eu golygiadau. 11. Byddwch ofalus am gael meddwl y testyn yn iawn, cyn cyfansoddi y bregeth. 12. Peidiwch a son am eich ieuenctid a'ch gwaeledd eich hunain wrth bregethu, yr hyn sydd bob amser megys gorchudd teneu di-os falchder. 13. Byddwch ofalus i beidio darllen pennodau annghyfarwydd, yn eglwysig na theuluaidd. 14. Na roddwch sain un lythyren i'r llall. megys \ pe byddai llediaith arnoch; neu falchder yn eich meddiannu. 15. Peidiwch ymyru a dadleuon ac ymrysonau eglwysig. Cyfarwyddiadau er ymddwyn yn weddus mewn pethau amgylchiadol'.— 1. Feidiwch chwerthin a gwneud gwawd o ar- ferion gwahanol ardaloedd a theuluoedd, mewn gwisgoedd, siarad, bwydydd, &c. 2. Byddwch yn dra gofalus mewn teuluoedd o barthed ymddyddan am sectau eraill; oblegid gall fod yno ryw uu yn perthyn i'r rhai y beiir amynt. 3. Gochelwch ganmol eich hunain na'ch preg- ethau mewn un dull. 4. Na chymerwch amoch, mewn un gymdei- thas, eich bod wedi dysgu pethau yn yr ysgol na wyddoch fawr am danynt. 5. Nac achwynwch am waelder yr achos gar- tref, pe byddai felly. 6. Na ddywedwch am syrfhiadau a beiau pro- ffeswyr, yn enwedig pregethwyr, o un ardal i'r llall. Dywedwch y goreu am bawb, neu ddim. 7. Os cyfarfyddwch a rhyw un yn beio ar y weinidogaeth, ueu'r ddysgyblaeth yn eu plith, ua chytunwch â hwynt. Mae'r fath ymddygiad yn ffiaidd. 8. Os cyfarfyddwch à rhyw rai tra siaradus am bawb, yn dyrchafu y naill ac yn iselhau y llall, yn edrych yn llon a gwenieithus arnoch, ac yn dang- os rhyw barch mawr i chwi, &c., na roddwch eich calon arnynt, na dim iddynt ond a ewyllys- iech i bawb gael ei wybod. Y mwyaf twyllodrus a chythreulig o bawb yw y rhai hyn. 9. Peidiwch ag aros yn rhy hir mewn un teulu na chymydogaeth. 10. Na chysgwch yn rhy hir y boreu, rhag y bydd y teulu yu eich dysgwyl at fwyd neu y ddy- ledswydd deuluaidd. 11. Siaradwch am bethau buddiol yn mhob teu- lu, ac nid pethau gweigion. 12. Na fyddwch yn rhy faith wrth ddarllen a gweddio yn y teulu. 13. Diwygiwch cich gilydd wrth bregethu. 14. Ceisiwch ryw bethau buddiol yn destyu eich ymddyddan ar hyd y ffordd. 15. Na wnewch y merched eich cyfeìllion penaf mewn teuluoedd, nac wrth fyned o fan i fan. Gall hyny eich dwyn i fagl a gwaradwydd mawr. 16. Peidiwch byth a beio eich gilydd yn absen- oldeb eich gilvdd.