Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. 17, Rhif. 7. GORPHENAF, 185G. Rhif. oll 199. Utttl)ìrraUI)obatöl. PAROH. MICHAEL JONES, BALA, GTNT LLANUWOHLLYN.* [O'r Dysgedydd.] Mab i Daniel Jones a Mary ei wraig oedd Michael Jones. Ganwyd ef yn 1785, mewn ìle a elwir Tr Aifft, ger Neuaddlwyd, swydd Aber- teifi. Efe oedd y trydydd o bump o feibion a fu gan ei rieni. Dywedir fod ei dad a'i fam yn gryf iawn ìnewn corff a meddwl, &e felly hefyd yr oedd eu plant. Yr oeddynt fel teuhi yn nodedig am benderfynolrwydd diysgog. Y mae y brodyr oll, oddigerth yr ieuangaf, sef Daniel, wedi marw. Yn fuan ar ol geni Michaol, symudodd ei rieni i Ffosybontbren, lle y treuliodd gyfran fawr o'i ddyddiau boreuol. Yr-oedd efe ac Evan,t (yr ail frawd) yn hynod o anwyl o'u gilydd, a phan yu blant gartref, cymerasant i'w penau i ddysgu y Tabl Lluosiant (MuUiplicatìon Tàblë) yn y gwely cyn cysgu. EM oedd y rhieni yn proffesu crefydd hyd yn ddiweddar yn nhymor eu hoes; ond yr oeddynt fel y cyff- redin o genedl Oymru yn teimlo yn dra ffafriol iddi. Dysgàsant i'w plant weddeiddiwch ym- ddygiad. Yr oedd eu preswylfa o fewn cylch dylanwad gweinidogaeth y diweddar Dr. Phil- lips, Neuaddlwyd, ac yr oedd duwiolfrydedd ac hyawdledd hynod y gwr da hwnw yn taflu llewyrch drwy yr holl fro. Bu y tad farw mewn cymundeb gyda'r "Wesleyaid, yn nghapel y Ficer, ac yr oedd y fam yn aelod gyda'r Tref- nyddion Oalfinaidd yn Ffosyffin. Bu farw y ddau mewn oedran mawr, a chladdwyd hwynt yn mynwent Eglwys Hen Fenyw. Daeth tyddyn Ffosybontbren yn fuan yn rhy fychan i gynal teulu cynyddol Daniel Jones, a gorfu i'r plant hynaf droi allan i ehwilio am eu * Casglwyd y ffeithiau banesyddol o'r Chri&tian Witne*8 am January 1855, ond nid ydym wedidilyn yr ysgrif hono yn mhob peth. Gadawsom heibio rai pethau a farnem yn alrcidiol, a chwanogasom bethau erailJ a dybiem yn fuddiol. t Bu Evato Jonos farw ar ol ei f'rawd, o'r geriinar- wol, yn Llundáin, lle yr oedd yu byw. ' ' • ' ' 25 ' bara eu hunain. Aeth Michael i wasanaeth, fel y dygwydda yn fynych fod angenrheidrwydd ar fechgyn llawer o amaethwyr Oymru, pan y mae y teulu yn fawr a'r tyddyn yn fychan. Yr oedd yn ddyn o daldra cyffredin, ond yn gryf inwn, ac o asgwrn anferth. Gan ei fod bob amser yn dra dichlyn, ao yn fwy na chyffredin \ o ddiwyd, daeth yn gryn gyfaill gyda'i feistr, ì ac ymddiriedid y prynu a'r gwerthu yn gwbl iddo. > Ar ol rhyw gymaint o amser, meddyliodd am Ladael gwasanaeth, ac ymaflyd yn y gorchwyl o l sner maen; ond yr oedd ei frawd Evan erbyn ì hyn wedi enill swm go weddol o arian, ac add- ì awodd ei helpio, os ai efe i'r ysgol. Felly yr ì aeth, a daeth yn fuan mor hoffus o ddysgeid- ì, iaeth, fel y parhaodd i'w dìlyn ar hyd ei oes. Gan ei fod er yn ieuanc o dan argraff grefyddol, hawdd barnu fod y cariad hwn at ddysg yn dylanwadu arno er troi ei feddwl at weinidog- aeth yr efengyl. Yn fuan ar ol hyn aeth i Laiibedi-, a dysgodd y gelfyddyd o rwymo llyf- rau. Y mae y ffeithiau hyn yn dangos ei ym- drech difiin, a'i benderíyniad diwyro, i fyned rhagddo. Llefarant yn anrhydeddus am dano, a nodant ef allau fel dyn o ymroddiad a rhin- wedd. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn mis Medi, 1807, gan y Parch. Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Oddiar ei dystiolaeth ef ei hun, ni ellid nodi nac amser na lle penodol ei ddych- weliad. Nid peth disymwth ar unwaith yd- oedd, ond graddol ac esmwyth fel toriad gwawr y dydd. Gwelodd y Dr. Phillips cyn hir fod Mr. Jones yn meddu cymhwysderau mwy na'r cyffredin, a chymhellodd ef i droi ei sylw at weinidogaeth yr efengyl. Eibregeth gjmtaf a draddodwyd mewn tyddyndy, a eiwir Penrhiw. Yn fuan wedi hyn, aeth i ysgol Mr. Davies, Oastell Hy- wel, enw a berchir byth yn Nghynirn, fel "yn gysylltiedig â dysgeidiaeth o'r radd uchaf, or fod golygiadan crofyddol y sofydliad o duedd Undodaidd. Dywedai Mr. Jones am Mr. Da- vies, Oastell líywel, mai efo oedd yr ysgollmig ponaf a gyfarfyddodd erioed. Gan nad óedd Mr. Jonos yn porchen moddion i aros yn yr