Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

11 Cyf. 17, .Rhif. 8. AWST, 1856. Ehif. oll 200. ANERCHIAD AT Y OYMRY YN AMERTCA. Anwyl a pharchtts Gydgenedl,—Yr ydym ni y Cymry yn un o'r llawer cenedlaethau sydd yn gwneyd i fynu ddinasyddion America; ac er nad ydym ond cenedl fechan mewn cydmar^ iaeth, eto yr ydym yn "Benjamin fychan " yn mysg y llwythau, ac mae yr un rhwymedig- aethau pwysig yn gorphwys arnom ni, y rhai ydym ddinasyddion, ac ar eraill, er dwyn yn y blaen ddaioni, heddwch, a llwyddiant ein gwlad, ag sydd ar neb pwy bynag. Gallai y cyfan, neu y mesurau pwysicaf droi ar fwyafrif bychan, a gallwn ni fod yn gwneyd i fyny y mwyafrif hwnw. Ond beth bynag am hyny, dylai pob un o honom fod mor bryderus, aw- yddus, a difrifol, a phe byddai y cwbl i droi ar yr eiddom ni, bob un drosto ei hun. Oanys y mae ein Uwyddiant a'n dedwyddwch yn troi ar lwyddiant ein gwlad, ac mae llwyddiant ein gwlad yn ymddibynu ar lwyddiant egwydd- orion da, megys cyfiawnder, rhyddid a sobr- wydd, a phob rhinweddau teilwng eraill. 8EFYLLFA EIN GWLAD YN BEESENOL. Nyni a gymerwn yn ganiataol fod hyn yn dra bysbys i'n cenedl yn gyffredin; oblegid nid mewn congl y mae hyny yn cael ei gadw na'i gyflawni. Mae y weinyddiaeth bresenol, y waelaf, y greulonaf, a mwyaf un ochrog ag a welodd ein gwlad er pan ei sefydlwyd, ie ni fu un i'w chydmaru iddi erioed yn ein gwlad ni, os bu mewn nnrhyw wlad arall. Os oes neb yn amheu hyn, edryched ar ei gweithredoedd, o ddilead y "Missouri Compromise'1'1 hyd y dydd hwn. Darllenwch adroddiad y pwyllgor ymchwiliadol o eiddo y Gydgynghorfa yn Washingtoniamgylchiadau pethau yn Nhiriog- aeth Kansas; y llywodraethfa a orfodwyd ar- nynt yn Kansas gan filoedd o bleidleiswyr o Missouri,—y lladdiadau, a'r llofruddiaethau, yr yspeilio, y llosgi, a'r carcharu, a'r difetha sydd wedi bod yno ar ddinasyddion teilwng na enwir eu bod yn euog o ddim ond eu bod dros Ryddid, —ao yn parhau i fod yno eto; yn yspeilio ym- fudwyr ar ei teithiau yno o'r Talaethau Rhydd- 28 ion, pryd y mae pob rhyddid a chroesaw i rai o'r Talaethau Caeth i fyned yno, ac i fod yno yn yspeilio pobl y Talaethau Rhydd, heb neb yn eu gwarafun, na'u hattal, na chymaint a gofyn i neb o hynynt paham y gwnaethant hyn. Nid oes cosp i neb am ddim a wneir yno i'r bobl sydd dros ryddid; ac os cynygiant hwy amddiffyn eu hunain, mae yr awdurdod wein- yddol yno yn en gwahardd yn y fan, yn dwyn oddiarnynt bob moddion hunan ymddiffynol, gan eu gadael yn ysglyfaeth i gynddaredd eu gelynion. Edrycha y weinyddiaeth bresenol ar y Trychineb ofnadwy yma heb deimlo na chynhyrfu dim; ie ant heibio, fel hwnw wedi gweled y dyn yn "haner marw," ie mwy o lawer, mae eu llaw, eu dylanwad, a'u hawdur- dod yn pleidio y cyfan. Da y gwyr y Missour- iaid hyny, ac onite ni feiddient byth wneyd y gweithredoedd y maent yn eu gwneyd. "Nid rhyfedd dim ond gwybod yr achos." Yr un modd y mae pethau, nid yn Eansas yn unig, ond yn Washington ei hun. Edrychwch ar ymddygiadau pleidwyr y weinyddiaeth yn Nhŷ ein Cynddrychiolwyr at un o'r aelodau— yr Herbert hwnw a laddodd y gweinyddwr yn yr Hotel, trwy ei saethu trwy ei galon yn farw yn y fan, pryd yr oedd y bai yn gwbl arno ef ei hun, a'r wraig druan yn marw o galon doriad, a'u plant bach yn y mddifad, a'r Uofrudd yn rhydd yn eistedd yn ei le bob dydd yn y Tŷ, a gwaed y gwyddel druan ar hyd ei ddillad, ac yntau yn cydweithredu â'n cynddrychiolwyr o ddydd i ddydd hyd nes y cafwyd Bil yn ei erbyn gan y farnedigaeth yn erbyn troseddau, pan y rhodd- asant ef yn ngharchar am lofruddiaeth i aros ei brawf. Ond yn y Tŷ y mwyafrif a bleidiasant i beidio edrych i'w fatter. Edrychwch ar eu hymddygiadau at y Brooks hwnw o South Oarolina a geisiodd ladd yr enwog Oharles Sumner yn y Senedd, yn unig am draethu ei feddwl mewn araeth yn erbyn Caethiwed, trwy ei guro ar ei ben â fibn, hyd nes ydoedd fel marw, ac y mae yn aros hyd heddyw yn anabl i ddyledswyddau ei swydd, ac fe aílai na ddaw byth y peth a fu. Edrychweh ar yr holl gymeradwyaeth a chanmoliaeth mae yn ei