Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyp. 17, Rhif. 10. HYDREF, 1856. Rhif. oll 202. Bncl)braìtl)oîíaröL WILLIAM JAY. [O'r OtBÌg.] "Y doethion a ddysgleiriant fel dysgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyfiawn- der, a fyddant fel y ser byth yn dragywydd." Dyma dystiolaeth y gyfrol ysbrydoledig, ae y wae holl hanesiaeth yn eadarnhau ei gwirion- edd. Mae pawb yn dymuno parhad eu coff- adwriaeth. Ac y mae rhai yn enill clod a chanmoliaethuehel yn eu bywyd,îel dysgawd- wyr, beirdd, gwladwyr, neu ryfelwyr, fel wedi iddynt farw "y gareg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith eoed." Adeiledir colofnau gorwych er coffadwriaeth am danynt. Ood i ddangos mai "geirwir yw Duw," er ymdrech perthynasau a chyfeillion, er adeiladau a chof- golofnau, uenw yr annuwiol a bydra; ond y cyfiawn a fydd oyth mewn cyffadwriaeth." " Y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant," felly y mae graddau yn enwog- rwydd coffadwriaethol y cyfiawnion. Ond yn bresenol cyfeiriwn eich llygaid at seren o'r "graddau cyntaf." Nid gormodedd ydyw dweyd hyny am ddyn enillodd ac a gadwodd enwogrwydd digyffelyb am yr ysbaid maith o 68 o flynyddoedd—oddiar pan yr esgynodd y pwlpud yn 16 oed, hyd y pryd y disgynodd i'r bedd yn 85 oed—enwogrwydd a gydnabyddid gan bawb yn ddiwahaniaeth, gwreng a bonedd- ig, hen ac ieuainc, dysgedig ac annysgedig—îe, enwogrwydd a gydnabyddid gan enwogion, nid y mwyaf parod, fel y dywedir, i gydnabod eu , gilydd. Ond y maent hwy yn dwyn tystiol- aeth iddo ef-—Wilberforoe, Beckford, Hannah Moore, Hall, Chalmers, a Foster, yr hwn a'i gosododd i sefyll ar ben y pinacl, heb neb yn agos ato, pan ei galwodd yn "dywywg y preg- ethwyr?1 Gan ein bod yn credu y bydd yehydig o hanes y fath wr yn dderbyniol gan ddarllenwyr ieuaino yr Obniö, rhoddwn i ohwi ychydig loffion wedi eu casglu o hanea ei fywyd, yr hwn s ysgrifenwyd gan mwyaf ganddo ef ei hun. Ganwyd William Jay, neu fel ei geîwid fyn- : yoliaf, Jay o Bath, Mai y 6ed, 1769, mew'n pentref byc'han o'r enw Tisbury. Nid oedd dím neillduol yn y dydd, y lle, nac amgylchiad- au ei enedigaeth. Nid oedd yn aHuog i rifo enwogion yn mysg ei hynafiaid. Ac yn hyn ni chywílyddiaí, ond ymffrostiai. Defnyddia eiriau Arg. Bacon, yr hwn a ddywedai fod y dyníon hyný nad oes ganddynt ddim i ym- ffrostio ydddo ond eu hynafiaid, "fel y pytatw, y rhan werthfawrocaf o ba rai sydd yn y ddae- ar." Y mae hefyd yn coffa beddargraff M. Prior y bardd:— "Princes and heralds, by yotrr leare Here lie the bones of Matthew Frior, The son of Adam saâ of Eve; Can Nassaa or Bourbon go higher." Ond dywed fod ei rieni yn "barchus; hyny yw, yn dlawd a duw%oV Y mae yn cydnabod manteision ac anfanteision ei enedigaeth. Yr oedd ei ddisgyniad o rieni tlawd, ond iachus a gweithgar^ yn debyeach o sicrhau iddo gyfan- soddiad bywiog, nerthol, a rhydd oddiwrth nychdod a chlefydau yr uchelradd. Ond y mae y» credu fod ei fagwraeth isel wedi ei ysbeilio o'i hyder a'i rwyddineb mewn cyfeillach. Ond yr oedd canlyniadau dai hyny drachefn, oblegid yr oedd yn cilio rhag cyfeillachau, ac yn treulio yr amser yn ei atudy, mewn myfyrdod. Pren- tisiwyd ef yn saer maen; dyna hefyd oedd galwedigaeth ei dad. Pan oedd tua phedair ar ddeg mlwydd oed, yr oedd yn gweithio gyda ei dad yn adeiladaeth Fonthill House, palas W. Beckford, Ysw., yr hwn ar ol hyn a ddaeth yn un o'i fawrygwyr penaf. Ond mae yn debyg na ddaeth byth i wybod fod y Uanc Jay wedi bod yn gweithio yn adeiladaeth ei balas. Yr ameer hwn nid oedd gan yr Ymneillduwyr yr un achos sefydlog yn Tisbnry, ond y gwahanol enwadau yn danfon eu cenhadau yno yn eu tro, ao yn pregethu nos Sadwrn a dydd Sabboth mewn tŷ a drwyddedwyd gan wr da o'r enw Mr. Turner, Trowbridge. Yr oedd y llanc Jay wedi cly wed am y Methodistiaid (Wesleyaidd) o'r blaen, a phan gly wodd eu bod yn pregethu yn y tý hwn, arbedodd y oyfleusdra cyntaf i'w gwrando. Tarawyd ef gaa ddifrifoldeb a