Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ctf. 11, Rhif. 3.] MAWRTH, 1850. [Rhif. oll, 123. (írefgìrbol. PEEGETH AR DDYDD Y PETHAU BYCHAIN. GAN T PARCH. JOHN MORGAN THOMAS, CAEREFROG NEWYDD. Zech. 4 : 10, " Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain 1" Y mae Duw wedi gwneud pob peth yn y modd goreu; ond ni wnaeth Duw—hyd yn nod Duw— bob peth i foddloni pawb: eithr y mae rhai o weithredoedd peuafy Duwdod wedi cael eu dir- naygu gan lawer o ddyuion fel pethau bychaìn. Mae y testyn yn cyfcirio at amser ag yr oedd gwaith mawr ar droed gan Ddwyfol ragluniaeth, eef, adeiladu Jerusalem a'r Deml; ond yr oedd llawer o'r bobl yn edrych ar y gwaith mor aruth- rol, y rhwystrau mor anorfod, a'r oíferynau mor waeíion, fel nad oedd pob ymdrech i ddwyn y gwaith i ben yn ddim amgen na chwareu plant yn eu golwg hwy. Yr oedd amser y caethiwed Babilonaidd yn awr wedi terfynu, yr oedd Cyrus y brenin wedi cy- hoeddi rhyddid hollol a ch;;-ffredinol i'r Iudtlewun, ac wedi rhoddi anogaethau cryfion iddynt i ddy- chwelyd i'w gwlad eu hunain, ac adeiladu Jerusa- lem a'r Deml. Ond er y gallesid dysgwyl i'r fath gyhoeddiad gogoneddus gael ei gyfarch gyda y gorfoledd, a'i ddefuyddio gyda y parodrwydd a'r egni mwyaf; eto, gan fod íìawer dau adain y gen- edl ag oedd wedi cael eu geni a'u brodori yn Bab- ilon, wedi cael eu dyrchafu i sefyllfa fanteisiol mewn cymdeithas yno, ac wedi myned yn hollol ddifater am grefydd; nid oedd ond llai na haner can' mil a fuasai yn defnyddio y cyhoeddiad. Ac y mae yn dra thebygol fod y rhai a arosasant yu Babilon yn edrych yn ddirmygus iawn ar Zorob:i- bel y ty wysog, Josua yr offeiriad, a'r bobì a aeth- ant allan dan eu gofal fel rhai hollol annigonol i gwblhau y gwaith. A dichon fod gwyneb y tes- tyn ar yr amgylchiad hwn. " Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain ?" Ar ol i feibion y gaethglud gyrhaedd Jcrusalem, ac aberthu i'r Arglwydd, yn'nghyda gwneud y parotoadau gofynol ar gyfer adeündu dros ddiw- edd y flwyddyn hono adechreu y llall; yna gosod- asant sylfaen y Dsml. Yr oedd yr offeiriaíd a'r Lefiaid yn eu gwisgoedd swyddol yn molianu yr Arglwydd àg udgyrn a symbalau, a bloeddiai y bobl gan orfoledd wrth weled tŷ Dduw yn cael ei ddechreu. Ond cyfarfod cymysgedig iawn oedd hwn ar y cwbl. Yr oedd yno ^rai hen bobl ag oedd we'di gweled Teml Solomon yn ei gogoniant mwyaf, ac wedi bod yn addoli yii ei chorau cy- segredig; ac wrth gymharu hono a'r Deml bres- enol, gweleut hon yu ddirmygus iawn mewn cym- hariaeth. Yna wylent gyda chalon chwerw, ac â llef uchel. Ac efallai fod gwyneb y testyn ar yr ynjddygiad hwn. " Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain ?" Anfonodd yr Arglwydd Haggai y prophwyd i geryddu y bobl hyn am eu bod yn cyfrif y tŷ hwn ond megys dyddim mewn cymhariaeth ì'r hen dŷ, a dywedai y byddai gogoniant y tŷ diweddaf yn fwy na'r cyntaf, neu y byddai i ddymuuiad yr hcíi Genedìoedd, sef, yr Arglwydd Iesu Grist, dalu yuiweliad corphorol iddo. Nid hir y cafodd y bobl lonyddweh i fyned a'r gwaith yn mlaen. Daeth rhyw bobl fastai'ddaidd o'r wlad at fiaenoriaid y gwaith, a chan wneud pròffes olygus dros ben o grefydd, a gynygiasant gynorthwyo yr luddewon i adeiladu. Ond gan fod Zorobabel a'i gyfeülion yn gwybod pa fath ddyn- ion oeddynt, gwrthodasant wneud uu gyfrinach á hwynt; a gweithredasant ar yr egwyddor fod crei'ydd yn alluog i godi a chynal ei huu. Ar ol i'r gelynion fethu yn yr amcan a nodwyd; gal- wasant gynghorwyr i'w cynorthwyo; ac ar ol i Cyrus farw, attaliwyd y gwaith i raddau, os nid yn hollol, am flynyddau. Yna aufonodd yr Arg- íwydd Haggai a Zechariah i gymhell y bobl at eu gwaith, a daeth Nehemiah i fyny o Babilon i'r uii perwyl; ac mewn canlyniad elai y gwaith rhag- ddo yn dra llwyddiannus. Ond nid oedd gelyn- ion yr achos wedi meir-w eto. Tywalltasant gaw- odydd o wawdiaeth ar y cychwyniad. Sambalat a Thobiah a wnaethant eu hunain yn g5"hoeddua yn hyny. " Beth y mae yr Iuddewon gwein- iaid hyn yn ei wneuthur X A adewir ìddynt hwy ? A aberthant ? A orpheuant niewn diwr- nod ? A godant hwy y cerig o'r tyraullwch wedì eu llosgi ?" medd Sambalat. Pic, ychwanegai Tobiah. " Er iddynt adeiladu eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerig hwynt." A diamheu fod pobl Samarîa yn cael Uawer o gymhorth i chweríhin wrth wrando dynion mor wìtty yn llefaru. Ond yr oedd Duw yn y nefoedd yn edrych, yn gwrando, ac yn teirnlo; 'ac mewu eiddigedd sanctaidd dros ei achos, gofynai, " Pwy a ddiysty-rodd ddydd y pethau bychain ?" I. Syíwadau cyffredinol ar achosion ac effeithiau y diy8tyrwch a deflir ar ddydd y pethau bychain. 1. Cyfyd y diystyrwch hwn oddiar feddwl cyf- eiliornus am natur, gwerth, a theilyngdod y pethatt ynddyni eu hunain. Y mae gan bob oes, pob gwlad, pob cenedl, pob teulu, a phob dyn (g\-dag ychydig eithriadau) feddwl uwch am eu pethau eu hunain na phethau ixeb eraill. Ac mewn canlyniad nid ydynt mewu sefyllfa fanteisiol i farnu yn gywir am ypetbau.ua gweithredu yn deilwng tuag atynt. Yr oedd llaw- er o Iuddewon yr oes dan sylw wedi gweled neu glywed hanes y mynediad allan o'r Aipht, a gwel- ent nad oedd dim cyffelyb i hwnw yn y mynediad allan o Babilon. Yr oedd dros chwe' chan' mil yn myned ?Blan o'r Aipht, pan nad oedd ond rhyw haner cau' mil yn myned allan o Babilon. Yr oedd gwyrthiau a rhyfeddodau yn cael eu cyflawni yn y myuediad o'r Aipht, ond dìrn o'r feth bethatt