Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CEffiÀDWR AMEMCAMIDD. Oyf. 18, Rhie. 4. EBRILL, 1857. Rhif. oll 208. Üloesol a Cljref^ìrol. Mae TRAITHAWD AE "EWTMEDIGAETHAU DTN I'E, YSBRYD GLAN, A'I WEINIDOGAETH." GAN E. D. THOMA8, EOME. Pai-had o tudalen 84. "Wrth " Rwymedigaethau dyn i'r Ysbryd Glân," y golygwn—JEi holl Ddylediost iddo, fel creadnr rhesymol, ac yn enwedig fel pech- adur andwyol, mewn amser a thros byth; pa rai sydd yn codi oddiar ei berthynas âg Ef fel un o bersonau anfeidrol yr Hanfod Ddwyfoî, ac fel yr unig Weinyddydd effeithiol o foddion gras er sicrhau eì iechydwriaeth; ac sydd yn cynyddu yn barhaus fel y byddo ei ragorfreint iau crefyddol yn lluosogi, a'i gyflëusderau i'w mwynhau yn ychwanegu. Y mae y rhwymau hyn yn ddifrifol bwysig. Nid dieuog gan yr Arglwydd fydd y dyn sydd heb eu hystyried; neu y sydd yn edrych arnynt gyda dirmyg; neu a geisia eu taflu ymaith fel pethau dibwys. Y mae rhwymedigaethau dyn i Dduw, i Grist, ac i'r Tsbryd Glân, yr un o ran eu seiliau gwreiddiol, ond yn wahaniaethol yn wyneb yr amlygiadau a roddwyd i ni yn yr Ysgrythyrau o weithrediadau priodol a swyddau neillduol y Personau Dwyfol yn nhrefn achub. Rhwymau cyfiawn, santaidd, a da, ydynt; wedi eu rhoddi arnom gan Dduw ei hunan—yn cael ei\, gofyn gan ei ddeddf a'i efengyl—yn gedyrn fel gor- sedd Iôr—yn hysbys i'r cread rhesymol oll— yn cael eu haddef a'u cymeradwyo gan ein cydwybodau—ac yn annileuadwy byth. Gor- chwyl hawddach fyddai i ddyn ddiddymu ei hunan, na dileu ei rwymau i'r personau dwyfoh Ysgrifenwyd hwynt gan Dduw ei hun ar lech- au ei galon; rhoddwyd hwynt yn fwy amlwg yn Neddf-lyfr Sinai; a chyhoeddwyd hwynt yn eglurach fyth gan y Messia a'i apostolion Y maent mor eglur yn awr fel y gallo yr hwn aredo eu darllen. Ddyn! y mae y personau dwyfol—y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân— 12 yn dy ofyn di ! Ydynt yn dy ofyn Di! ganddynt Ilwy eu hiawnderau goruchel; ac y mae genyt tithau dy rwymedigaetJiau moesol —y mae ganddynt Ewy eu hawliau mwyaf cysegredig i ofyn; ac nid oes genyt ti yr un esgus digonol dros beidio talu. Dywedi—"Yr wyf yn ddyn rlíydd? Gwir; ond cofia nad yw dy ryddid yn dy ryddhau oddiwrth dy rwymau. Ychwanegi—"Kid oes genyf duedd i garu Duw, i gredu yn ei Eab, ae i geisio dy- lanwadau ei Ysbryd." Os yw hynyna yn wir, y mae yn wir cywüyddus'&c arsicydol, ac yn dy gollfarnu yn euog o'r bai mwyaf adAvythig! Bod heb dtjedd at santeiddrwydd yw "anallu moesol" dyn; a'i anallu moesol yw ei balliant mwyaf anesgusodol, a'i bechod mwyaf dinystr- iol. Nid yw tueddfryd dyn, na'i ewyllys, na'i farn, na'i chwaeth, na'i sefyllfa, na'i gymeriad, na'i raddau, na'i amgylchiadau, yn cyfnewid dim ar seiliau ei ddyledion a'i gyfrifolder. Dylai addoli a gwasanaethu Duw. Ei ddy- ledion yw ei rwymau. Ond er eu bod yn 11rhwymau^ nid ydynt yn orfodaeth; ac er nad ydynt yn oríbdaeth, byddant yn rhwymau byth. Y mae y pwnc hwn—" Bhwymedigaethau dyn iyr Tsbryd Glân a'í weinidogaeth" yn perthynu yn fwy neillduol i drigolion y gwled- ydd efengylaidd, nag i breswylwyr y byd yn gyffredinol; oblegid hwynt-hwy yw "plant y deyrnas,"—iddynt hwy y rhoddwyd ymad- roddion Duw—atynt hwy yr anfonwyd cen- hadau y nef—yn eu heolydd hwy y mae yr " Ysbryd a'r briodasferch yn dywedyd Tyre^d," o flaen eu Uygaid hwy y darfelwyd Iesu Grist wedi ei groeshoelio—ac â'u calonau hwy y mae Ysbryd Duw yn "ymryson" trwy yr efengyl. Nis gwyddom i ba raddau y mae paganiaid y ddaiar dan rwymau i'r Ysbeyd Glan. Ond gwyddom y bydd yn aesmwyth- ach" i drigolion duon Affrig, ac i Indiaid mel- yngoch gwyllt-diroedd y Gorllewin, yn nydd y farn olaf nag ì weandawye cysglyd, celyd, ac anghredjniol, yr Efengyl,—yr hon yw "gweinidogaeth yr Ysbryd." Y neb sydd gan- ddo glustiau i wrando, gwrandawed! Gymry America! Edrychwch na wrthodoch yr Hwu