Symud i'r prif gynnwys

Cyf. 19, Rhif. 6. MEHEFIF, 1858, RlIIF. OLL 222. Îjad)òi'aÜl)oframl. MR. MOERIS PUGH, DOLGELLAU. [O'r " Dysgedydd."] "Wrth ysgrifenu nodiadau ar fywyd a mar- wolaeth unrhyw berson, yr ydys yn golygu ei fod yn anwyl gan y rhai a feddant ran yn eu hysgrifeniad ; ac wrth gyhoeädi yr ysgrffen hono drwy y wasg, golygir fod y gwrthddrych yn adnabyddus i'r cylch ag y byddo yr argraff- iad yn cael ei ddarparu iddo, ac fod nodiadau ar ei fywyd a'i farwolaeth yn teilyngu eu sylw oddiar yr adnabyddiaeth hono. Y mae dyn yn dyfod yn adnabyddus i'w genedl weithiau ar gyfrif ei neillduoTedd corfforol, bryd arall ar gyfrif grym ei feddwl, yn fynych ar gyfrif y g-angen lenyddol fyddo yn ei dilyn, yn aml ar gyfrif neillduolrwydd ei foesau, ac yn amlach ar draul teilyngdod ei dduwioldeb. Y mae Sam- son, Goliath, a Hector, ar gyfrif y cyntaf; Paul, Eewton, a Foster, felly ar gyfrif yr'ai; Milton, Handel, a Lytton, felly ar gyfrif y trydydd; Socrates, Bacon, a Locke, felly ar gyfrif y ped- werydd; Ioan, William Jay, a John Roberts, Llanbrynmair, felly ar gyfrif y pummed. Nid ydyw y rhai hyn ond enghreifftiau. Gall per- son ddwyn ei hun i gymeradwyaeth ar gyfrif ei weithredoedd nerthol yn ngbylchoedd am- ryw o'r rhaniadau blaenorol. Yr oedd Foster yn feddyliwr dwfn ac yn ysgrifenydd rhagorol. Yr oedd Pàul yn feddyliwr dwys ac yn Grist- ion dysglaer. Yr oedd Milton yn rhagori fel bardd ac ysgrifenydd. Yr oedd yr hen J. R. yn rhesymydd da ac o dduwioldeb diamheuol. Nid ydym yn sier a ddylai y wasg gael ei beichio â hanesion bywyd a marwolaeth neb, pwy bynag, os na byddant wedi gwneyd rhywbeth i deilyngu sylw cyffredinol, ac yn ddefnydd addysg i'w hol-oeswyr. Gallai fod llawer o bapyr da wedi cael ei ddefnyddio i udganu clod un na enillodd ronyn o hono yn ei fywyd, er mwyn rhoddi rhyw swm o gysur i'w berthynas- au. Dylai y llygad fod yn graff, a'r meddwl yu dawel, pan yn goiygu bywgraffiad, rhag i'r eg- wyddor wasaidd a dirmygus hon lechu yn ddir- gel yn nghysgod ei frawddegaa. Ond tra y 21 dylid gadael heibio ysgrifenu yn ol y cynllun hwn, ni ddylid, ar uu cyfrif, esgeuluso y gwerthfawr a'r rhagorol, Llwyddodd Dieh Turpin i wneyd ei hun yn gymeriad cyhoedd- us. W\ fethodd y gwr a daníodd deml Diana yr Ephesiad a gwneyd son am dano ei hun. Ond nid ydyw cyhoeddusrwydd yr un peth a defnyddioldeb, pa faint hynag o ymdrech a wneir i'w gyrhaedd. Y mae cymeriadau rhai pobl yn ddamniol yn eu cyhoeddnsrwydd. Buasai yn well fod cofion o weithredoedd Tur- pin, Kingr Russ, a'u cyffelybj wedi disgyn i'r ddaear gyda'u cyrff. Y mae cyhoeddusrwydd cymeriad' da yn mwyhau ei urddas a'i ddef- nyddioldeb. Y mae pob un yn sefyll neu yn syrthio yn marn rheswm pur yn ol fel y byddo ei weithredoedd yn wasanaethgar i ddef- nyddioldeb: Y mae ein clorian yn cael Morris Pugh yn llawn bwysau yn ol y safon hon. Yr oedd yn gerddor da, ac yn Gristion gweithgar. Y mae amrywo'i gyfansoddiadau cerddorol yn Ngheiîtion Hafrenydd: ac y mae efe trwyddynt wedi ffurfìo cydnabyddiaeth â. llawer o feibion y gân. Ganwyd M. P. yn mis Mai, 1828, mewn lle a elwir Bwlchrhosawen isaf, yn mhlwyf Llan- fachreth, ger Dolgellau. Orydd oedd ei dad wrth ei alwedigaeth. Fodd bynag, ni chafodd efe Aveled a theimlo beth yw mwynderau ael- wyd tad a mam. Bu ei dad farw pan oedd efe yn ieuanc iawn, ac felty syrthiodd y gofal o'i ddwyn i fyny ar fodryb iddo, yr hon, am a wyddom ni, a gyflawnodd ei dyledswydd ato yn ol ei galluoedd a'i hamgylchiadau. Ond fel pob plentyn amddifad arall o'r dosbarth gweithiol, nid oedd efe i gael llawer o addysg, ond yr hyn a'i harosai oedd llafur. Felly yr ydym yn ei gael pau oedd o 15 i 16 oed yn dwyn yn mlaen y gelfyddyd o lifio coed gyda'i ewythr ar etifeddiaeth Syr R. W. Vaughan. Derbyniwyd ef yn aelod o Eglwys Annibyn- ol y Ganllwyd oddeutu yr amser hwn. Yr oedd cryn Iwyddiant ar grefydd yn y Ganilwyd y dyddiau hyny. Gwyrodd llawer o'r rhai a dderbyniwyd o gylch yr un amser a M. P. ar ol Satan. Nis gwyddom a oedd llawer o ddagrau yn cydfyned â theimladau y cyfaill