Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ERICAMIDD. Oyf. 19, Rhif. 9. MEDI, 1858. Rhif. oll 225. JBttcíj&raüljoìratDl. BYR GOFIANT AM MISS ANN WIL- LIAMS, PADDY'S RTJK 0. Merch ydoedd Ann i Mr. Hugh ac Eliza Williarns p'r lle uchod. Mae ei thad yn un o ddiaconiaid hynaf, ffyddlonaf, a pharchusaf Orist yn y lle uchod, a'i mam yn un o'r nod- weddion perffeithiaf oTr wraig a ddarlunia y gwr doeth yn Diar. 31: 10, &c, ag a welais erioed. Nith hefyd oedd Miss W. i'r Parch. B. W. Ohidlaw, D.D., yr hwn nid oes neb yn fwy adnabyddus i'n cydgenedl yn y wlad hon nag ef. Ganwyd Ann Tach. 12, 1838. Oyf- Iwynid hi gan ei rhieni i ras, gwasanaeth a go- fal y Tri yn un yn ei mabandod, ac ar ol hyny gannoedd o weithiau yn eu herfyniadau o flaen gorsedd gras; a gwnaethant eu goreu fw dwyn hi i íýny, fel y gwnant i'w plant i gyd, yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a chawsant weled hefyd nad oedd eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Bendithiwyd eu hym- drechion, atebwyd eu gweddiau, a gwobrwy- wyd eu llafur mewn modd amlwg a hynod iawn. Derbyniwyd Ann i gyflawn aelodaeth yn yr eglwys pan yn ddeg oed, dan arwyddion amlwg a hynod foddhaol o oruchwyliaethau deniadol a sancteiddiol gras ar ei hysbryd.— O'r dydd hwn hyd y nos yr hunodd yn yr Iesu addurnodd ei phroffes mewn modd mor ddys- glaer nes cau genau beirniadaeth am gtefýdd, a denu sylw a gorlioffder pawb. Mor bell o fod yn ddolur llygaid i'w brodyr a'u chwiorydd bu yn hyfrydwch golygon i edrych arni gannoedd o weitbiau. Oaf nodi rhai o brif arbenigion ei chrefydd. Un peth yw neillduolrwydd ei phrofîad cref- yddol. Nid oedd yn ymwybodol o fyned drwy y process o " argyhoeddiad, troedigaeth," &c, &c,—ni chafodd grefydd yn ol y " rise and progress" ond yr oedd ganddi grefydd, a hono'yn un wirioneddbl. Yr oedd yn llythyr agored i Grist a cìdaiilenid gan bawb; ond ni wyddai pa bryd na pha fodd y cafodd grefydd. Mwy na thebyg yw na fu erioed hebddi—iddi 33 < gael ei neillduo i Dduw a'i sancteiddio o'r bru. Gofynais iddi yn ngwydd ei pherthynasau, ac ar drothwy tragywyddoldeb, " A wyddai hi am y fynyd yn ei bâdgofiánt yn yr hwn tìi theimlai gariad at y Gwaredwr, a chasineb at bechod?" Camsyniodd natur y gofyniad, a dywedodd nad oedd yn eithaf boddlon i'w at- eb, ond wedi ei dwyn i gyflawn ddealltwriaeth o hono, petrusodd ychydig, ac yna atebodd yn bwyllus a phendant, na wyddai—ei bod yn caru yr Iesu ac yn gas ganddi bechod erioed er ei hadgof cyntaf. Barna yr ysgrifenydd ei bod fel Ioan y Bedyddiwr ac eraill—yn llawn o'r Ysbryd Glan o'r groth. Y mae rhai o'r fath weäi ac yn bod—er enghraifft y diweddar John Livingstone o Scotland, ac wedi hyny yr enwog John Brown o Haddington. Yn ei chyflwr hi yr oedd gras y nef fel wedi rhag- flaenugweithrediadau difaol y llygredd gwreidd- iol ar ei chyfansoddiad moesol i raddau mawr, ac yr oedd grasnsau yr Ysbryd, a rhinweddau ein crefydd ogoneddus wedi cael eu himpio ar dynerwch cyfansoddiad naturiol hynaws a di- niwed. Peth arall oedd absenoldeb yr ysgafnder, j gwegi, a'r chwanogrwydd i ddifyrweh cnawdol sydd yn anurddo cyrnaint ar broffeswyr ieuaine yn y dyddiau hyn, yn gysylltiedig â sirioldeb cyneíin a llonder parchus ei gwedd. Y mae rhai dynion, ie. rai merched ieuainc ar enw crefydd yn y dyddiau hyn, mor ynfyd o gnawdol yn eu hymadroddion, ac mor glafaidd gan chwantau cnawdol yn eu hyrnddygiad nes ein gwneyd yn glaf o ffieiddrwydd wrth ed- rych arnynt. Ond nid oedd yn Ann William8 y dynesiad lleiaf at gysgod y fath bethau—yn hytrach yr oedd yn gwrthneidio yn reddfol ao yn arswydlawn oddiwrthyntr tra ar yr un pryd yr eisteddai gwen siriol ar ei gwynebpryd tuag at bawb, ac yn hyn yr oedd yn Ilewyrchu allan y tangnefedd a'r purdeb oedd oddifewn. Yr oedd absenoldeb ysgafnder yn cydfyned ag ab- senoldeb sarugrwydd yn ei hachos, yn nglyn ar yr un pryd a phresenoldeb parhaus addfwyn- der a sirioldeb calon a gwynebpryd. Peth arall:—yr oedd nid yn unig yn ffyddlon yu