Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CENHADWR AMERICAMIDD. Cyf. 22, Riiif. 2. C II W E F R 0 R, 18 61 Rhif. oll 254. Bnd)ì)rattl)o&aetl). BYR GOFIANT AM MRS. MARGARET PHILLIPS. Ganwyd y cbwaer a enwir uchod inewn lle a eîwir Maesycniw, plwyf Llanliiddel, swydd Fynwy, D. 0., Mebefiu 15, 1806. Yr oedtl ei thad a'i mam yn grefyddol, ac felly dian iddi gael ei hyfforddì yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, er yn ienanc; a dylanwadodd hyn yn dda arni drwy ei hoes. Priododd â Mr. Evan Phillips, yn y flwyddyn 1824, 36 mlyn- edd yn oì, a bu yr undeb yn un dedwydd iawn cyhyd ag y parhaodd. Aethant ill dan at grefydd yn fuan wedi priodi. Derhyniwyd hwy ar yr un Sabboth cymundeb, i eglwys Groeswen, dan weinidogaeth y Parch Griffith Hughes. Symudasant i'r wlad hon yn y fiwyddyn 1833, ac arosasant -am ryw gymaint o amser yn nhalaeth New Jersey. Yna aethant i Nes- quehoning, swydd Oarbon, Pa. Wedi aros dwy íiynedd yno, aethant i Beaver Meadow, lle y buont ddeng mlynedd. Wedi hyny symudas- ant i Summit Hill, lle y buont hyd nes symud- wyd ein chwraer gàn angau i'w chartref tra- gwyddol, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 11, 1800. A bu farw yn yr Arglwydd. Oawsom dystiolaeth foddhaol o hyny. Ac ar y 13eg o'r mis uchod, ymggsglodd tyrfa luosog yn nghyd, a daearwyd ei rhan farwol yn Summit Hill, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. White (P.,) a'r Parch. Mr. 01iver (B.,) yn absenoldeb yr ysgrifenydd. Ond er wedi marw, mae hi yn llefaru ato. Yr oedd yn ei bywyd lawer o rinweddau teil- wng o efelychiad. Yn mhlith y cyfryw ni a grybwyllwn ychydig. Yr oedd yn un letygar. Nid anghofìodd le- tygarwch. Byddai yn ei hystyried yn fraint i gael lletya dynion teilwng. Yr oedd ei thŷ yn agored bob amser i genhadon hedd, a bu llaw- er o honynt yn Uetya dan ei chronglwyd. A medrai hi eu croesawu yn y fath fodd, fel y byddent, ar ol bod yn ei thŷ unwaith, yn deb- yg iawn o ddyfod yno yr ail waith, os buasent yn dyfod i'r.ardal. Ymhyfrydai yn eu cym- deithas. Ac er nad oecld hi yn un siaradus, eto hoffai yn fawr wrandoarnynt hwy yn siar- ad am bethau crefyddol. Teimlai Mrs. Phil- lips fod lletya dyeithriaid yn ddyledswydd Gristionogol. Gwyddai y gallai eu hymweliad fod yn lles i'r teuln, ac nid oes amheuaeth na chafodd hi a'r tenlu fendith lawergwaith wrth gyflawni y ddyledswydd hon. üh äosturiol oedd lii. Yr oedü yn llawn tostnri tuag at y tlawd a'r anghenog. Byddai yr olwg aruynt yn ei chynhyrfu i'w hymgel- eddu. Oarai hwy, nid ar air ac ar dafod yn unig. ond mewn gweithred a gwirionedd. Mae llaweryn dystion byw a phrofiadol o'i thosturi. Gellir dweyd arn dani gyda golwg ar hyn,— " Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Yr oedd yn meddic tymer dawel a heddychol, yn y tenln, yn y gymydogaeth, ac yn yr eg- Iwys. Yr oedd yn briod ffyddlon ac yn fam dyner. Oydnabyddai mai y gwr yw pen y wraig. Ni wnclai ddim o bwys heb ymgy- nghori â'i phriod. Yr oedd yn meddu ar deimladau a serchiaclau mam yn gyfiawn. Ac os oes gormodedd mewn cariad rhieni at eu plant, g\yyrai hi y ffordd hono yn hytrach na'r ffordd arall; ac fe allai pe na buasai wedi ym- glymu â'i phlant yn gymaint, na theimlasai y fath alar wedi golli y rhai a fuont feirw o'i blaen hi. Yr oedd ei holl gymyclogion yn ei hoffì. Dangosasant hyny yn ei mynych ym- weliadau â hi yn ei chystudd diweddaf, ac yr oedd hyny i'w weled yn eu galar ar eu hol ddydd yr angladd. A phe byddai pawb fel hi ni fyddai anghydfod byth yn eglwys Dduw. Peth gwerthfawr yw gallu dweyd am ddyn iddo dreulio 36 mlynedd mewn cymdeithas grefyddol heb fod dan gerydd unwaith, Dy- wredir hyny am ein chwaer. Nid oedd yn un erlidgar. Nid oes hanes iddi erioed son am wendidau a ffaeleddau dyn- ion yn eu cefnau. Mae rhyw'rai fel pe baent yn ymhyfrydu gwneud hyny. Ni theimlai y cyfryw yn ddedwydd yn nghymdeithas Mrs. Phillips. Pe dygwyddai i ryw un fyned ati,