Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CENHADWR AMERICANAIDD. Oyí. 23, Rhif. 7. GOEPHENAF, 1862, Ehif. oll 271. (ftraetljoìratt. GWINLLAN DUW. [Terfyniad o tu dalen 211.] Oaethiwed, fel ei harferir yn y De, sydd yn wahanol hollol i'r hwn a sonir am dano yn nghyfraith Moses. Nid yw yn bren o dyfiad ein gwlad. Nid yw yn natariol i'r tir; eaf- odd ei atgludo i'n glanau gan genhedloedd Ewrop, yn groes i ewyllys (bona Jidé) y tref- edigion yn yr anialdir gorhewinol hwn. Cyn- rychiolwyr trefedigaeth Virginia, lle cafodd caethiwed ei ddwyn i mewn gyntaf, drachëfn a thrachefn a wnaethant gyfreithiau yn gwa- hardd atgludiad caethion, ond llywodraethwyr neillduedig gan goron Lloegr a wrthwynebas- ant y cyfryw gyfreithiau, nes y cafodd caeth- iwed le cadarn i'w draed ar ein glanau—cof- adail ar unwaith o ormesiaeth Brydeinig, a chariad at aur. At Loegr, ei brenhinoedd a'i swydclogion y rhaid i ni edrych fel y drwg achoswyr o blanu ar dir rhyddid America y gyfundrefn dreisiol waethaf fu erioed dan yr haul—cyfundrefn o ran ei natnr mewn eitliaf rhyfel â Datganiad ein rhyddid, ac â dyben ac ysbryd ein llywodraeth. Y frathgyllell nid yw ddim ond yr nrddull Americanaidd o'r côrgledd neu y bidog Ys- baenaidd, eríýn creulonaidd a gwaedlyd, cyn- rychiolydd teyrnasiad dychryn (reign of terror) —urddfreiniedig tan nodded chwìl-lys yr Ys- ' Jj baen, y dull mwyaf gorthrymus a arferwyd yn Ewrop. Ysbryd y frathgyllell—egwyddor yr hon sydd mewn rhyfel uniongyrchol a datgan- ol yn erbyn bywyd ein Gweriniaeth Gristion- ogoi, sydd wedi nodweddu gwleidiadaeth y De, Oristionogaeth y De, a bywyd cyffredin y De. Dyma yr ysbryd sydd wedi seiÿdlu brawdle y Barnydd Lynch, ac sydd wedi llyg- ru maelerfa yr U. D., (U. 8. mart^ wedi dy- rysu athroniaeth, duwinyddiaeth a hanesiaeth, wedi gosod attalfeydd ar y pwlpud, yr argraff- wasg a'r esgynlawr. Dyma y tyb-ysbryd ofn- adwy hwnw sydd wedi crogi pregethwyr, LynchÀo boneddigesau, a llosgi negroaid; efe eydd wedi difoesoli y genedl yn gyffredinol, 19 gan gren cam feddyliau am anrhydedd, ym- wthio i ymladd gornest, ac wedi darostwng ein Feuaddau Deddfwneuthurol (Legislatŵe LTallë), yn lladd-dai dynion ; defnyddir clybiau yn lle rhesymeg, a hyrddgecraeth yn lle hy- awdledd. Y ddau ysbryd aflan tramoraidd hyn sydd wedi tyfu gyda thyfìant y genedl, wedi tew- ychu ar chwys a gwaed y gorthrymedig, wedi ymgryfhau wrth arferu ei hun ar drachwant y Gogledd, hyd onid ydynt yn awr yn ceisio cyflawni trwy rym arfau yr hyn o'r blaen a effeithient trwy eu dichell politicaidd. Yr ydym wedi darllen am y sarff wedi fferu yn yr oerfel, yr hon wedi ei chynhesu trwy gymwynasgarwch y cabanwr, a ymlidiodd blant ei cbymwynaswr dros y drws. Oaeth- iwed, pechod mawreddog America, wthiwyd \ arnom yn nyddiau ein mebyd, oddefwyd yn \ lluniad y Uywodraeth gyffredinol, fel mater o \ angenrheidrwydd y pryd hwnw, ac ystyrid ef \ yn ddrwg diflanol, enw yr hwn ni wyr y cyf- í ansoddiad ddim arn dano, sydd wedi dynoethi j ei hun yn ei dir mabwysiedig, hyd onid yw 5 yn gysylltiedig â'r frathgyllell wedi hunio y \ meddwl cyffredin Deheuol. Mae wedi gor- 5 cliymyn deddfau i'r Gogledd, weüi ymarfogi \ hyd y dannedd âg arfau rhyfel, a'r rhai hyny \ wedi eu lladrata. Mae wedi cychwyn ei an- weswyr wrth y cannoedd o íiloedd i ysgubo gwreichion diweddaf rhyddid o'r tir, dros yr hwn y bu ein tadau yn colli eu gwaed. Gad- awer i'r baedd a'r anifail gwyllt o'r De, Davis a Beauregard, arweinyddion y llu gorthrymus, drwsio pren rhyddid America yn ol y ffasiwn Deheuol, distrywiant ef fel na bydd gwreiddyn o hono yn aros yn y tir. Hwn yw y rhyfel rhwng rhyddid a chaethiwed, nid yn unig caethiwed Americanaidd, ond caethiwed yr holl hil ddynol,—y gyfundrefn sy'n darostwng ylluaws i'r ychydig,—rhyfel rhwng gorthrwm. a rhyddid cyfansoddol, hyrddiad dau dra- gwyddol wrthwynebol, a phan el trwst y frwydr fawr hon heibio, bydd yr Eryr Amer- icanaidd, neu neidr gynffondrwst y De, wedi trengu am byth. Ond y genedl hon ni ihrenga, j mnwjôàm