Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CEMADWR AMERICANAIDD. Cyf. 23, Rhif. 12. RHAGFYE, 1862, Rhif. oll 276. <£rctetl)0üatt PWY YW HON! Can. 8 : 5, Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch, ac yn pwyso ar ei Hanwylyd! Mae Llyfr y Caniadaa yn cynwys math o gydymddyddan cariadlawn, yn gosod allan y gymdeithas nefol sydd yn cael ei dwyn yn mlaen rhwng Orist a'i bobl,—gofid yr eglwys a'i cholled yn nhir ei gwrthgiliadau—a'r modd y mae yn llwyddo i adnewyddu ac ad-enill y gymdeithas. Olywir yma lais y Priodfab, sef y Gwaredwr; llais y briodferch, sef yr eglwys; Uais gwylwyr y ddinas, sef swjddwyr eg-' lwys Dduw; a llais "merched Jerusalem," sef rhyw rai yn teimlo yn gynhes at yr eglwys ac yn ymofyn am adnabyddiaeth helaethach o rinweddau ei Hanwylyd. Sylwn I. Ar sefyllfa eglwys Dduw yn y byd pres- enol—mae yn dra thebyg i bererin mewn anialwch. 1. Nid y byd hwn yw ei chartref—dyeithr ydy w yma. Gan " gredu a chyfarch, a chyfaddef mai dyeithriaid a phererinion oedd- ynt ar y ddaear," Heb. 11: 13. Y nef yw cartref tragywyddol y saint. " Nid yraa mae ngorpbwysfa i, Mae hono fry yn nhŷ fy Nhad." 2. Mewn anialwch mae anghyfieusderau ac anfanteision i'w dysgwyl. Felly y mae y Oristion yn cyfarfod ag anghyfleusderau ac anfanteision yn yr anialweh ysbrydol lle y mae yn preswylio. 3. Mewn anialwch y mae rhwystrau i'w dysgwyl—inae'r ffordd yn ddi-sathr, mae y drain a'r dyrysni ar y ffordd, creigiau i ddringo drostynt ar 'brydiau, ac afonydd anhawdd eu rhydio i. fyned trwyddynt. Felly y mae rhwystrau lawer ar ffordd y Oristion ar ei daith ysbrydol. Ond rhwystrau ag y mae yn rhaid myned drwyddynt ydynt, mewn trefn i gyr- haedd y Ganaan nefol. 4. Mae peryglon mynych mewn anialwch. Felly y mae ar ffordd y Oristion ar ei daith tua'r nef. Mae'r gelyuion ysbrydol megys Uewod rheìbus a rhuadwy, ac y mae eisian gwylio rhagddynt yn barhaus. 5. Mewn anialwch y mae cael afweinydd medrus, gofalus a ffyddlon, yn werthfawr. Felly y mae mewn ystyr ysbrydol. Yr oedd gan Israel Duw arweinydd anffaeledig ar eu teithiau'hwy, yr oedd "angel ei gynrychioldeb ef" yn eu harwain, yr oedd y golofn o'n blaen &c. Felly y mae gan y Oristion arweinydd, "Ac a'u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn i fyned i ddinas gyfaneddol." Salm 107: 7. 6. Mewn anialwch y mae cael cwmni <iyd- bererinion yn ddifyrns a hyfryd. Felly y mae; i deulu Duw. Oyd-ymddyddan arn beryglon y daith, am werth yp arweiniad, am ddiogelwch allawnder y cartref ar ol ei gyrhaedd sydd dra hyfryd i'r pererinion. " Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lafarasant bob un wrth ei gymydog" &c. Mal. 3: 16, 17. "Fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni" &c. 1 Ioan 1: 3. "Deuwch, gwrandew-ch, y rhaioll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid." II. Agwedd yr eglwys. îfid aros fel un am gartrefu yn yr anialwch y mae, ond dyfod i fyny o'r anialwch. Mae hyn yn arwyddo 1. Ymdrech i ymddad'rysu oddiwrth ysbryd ac egwyddorion ac arferión Ilygredig y byd hwn. Os nad ydym yn gwneud hyny nid ydym yn dyfod i fyny o'r anialwch, ond yn cartrefu ynddo. ' 2. Ymdrech i gynyddu yn ngrasau yr efeng- yl. Nid cynydd mewn amser a nesu yn nes i angau sydd yn arwyddo ein bod yn dyfod i fyny o'r anialwch, ond cynydd mewn gras, mewn nefolrwydd ysbryd, mewn hoffder yn nghymdeithas y saint, mewn hiraeth am ein cartref fry, ac awydd am fod yn addfed i gyr- haedd y fro nefol. Fel hyn y rnae y saint yn dyfod i fyny o'r anialwch. "Ac y mae pob yn sydd ganddo y gobaith hwn ynddo ef yn ei buro ei hnn, megys y mae yntau yn bur." 1 Ioan 3; 3. "Gan fod genyf chwant i'm dâtod " &c. Phil. 1: 23. "Am hyny yr ydym yn ymorchestu, pa un bynag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddct ef'-aOor. ö: 0. 8. Cofìer mai ar "i fyny " 'f loaent yn dyfo^.