Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

)tf. 24, Rhif. 4. EBRÎLL, 18 83 Rhif. oxl 280. Bti£Ì)üraeiI)oM. COFIANT DAVID THOMAS, IEU., OATA- SAUQUA, PA. " Cyfion yw rhoddi cofia.nt Dynion boíflewion, a phlant, A gwragedd llwyrwedd a llon, Diwaelaidd y duwiolion, Yn gryno, a'n gwroniaid A'u mawlrhwydd noethrhwydd wrth-raid, A'n gwir enwog gywreinion, Yn rahob swydd er Uwydd wyr Uon." Ond wrth ysgrifenu hanes y rhai sydd wedi meirw, nid yw yn ddigon o esgusawd i'r darllen- wr meddylgar fod gan y bywgraffydd barch i a chariad at wrthrychau ei ysgrifau,. ond dylai fod yn mucheddau y rhai sydd wedi "huno" ryw- beth gwerth ei gofnodi a'i efelychu, a bod y "gweithredoedd sydd yn eu canlyn" y fath ag y gellir elwa wrth adolygu eu "llwybrau yn y glyn." Cymeriad felly yw yr un sydd genym n\ i ymwnend ag ef yn y coíiant hwn. David Thomas, Ieu., mab David ac Eliza- beth Thomas, Catasauqua, Pa., a anwyd Ohwef- ror 5ed, 1837, yn Castell Du Dyfynog, Swydd Brycheiniog, D. 0. Daeth i'r wlad hon gyda ei rieni yn 1839, pan ddechreuodd yr antnr- iaeth o ba un y mae pentref helaeth Oatasau- qna„wedi ymgodi, yn nghyd a'r amryw ffwrn- eisiau sydd yn goleuo dyffryn prydferth y L.e- high. îfid oedd efe y pryd hyny ond dwy- flwydd oedf ac yn gallu siarad dim ond y Gymraeg, wrth barablu yr hon y rhoddai lawer o ddifyrwch i'r gweithẅyr. Derbyn- iodd ei addysg mewn llenyddiaeth yn ysgolion y pentref uchod, yn nghyd ag Allentown, Nazareth, Poughkeepsie a Mount Holly—gyda phriodoldeb y gellir dywedyd am dano, " Yn ifane hoywlanc hylawn, Mawr oedd ef fal tnôr o ddawn, Yfai ddysg yn ufndd iawn,—a'i changau Mawr ranau mor aniawn ; A denodd sylw pob. dynion Pan yn Uanc (y penddu llon!) Mewn cyneddfau ff'rydiàu íi'raeth, Yn fwy daeth na'i gyloedion." Fel gwneuthurwr haiarn addysgwyd ef yn y gelfyddyd yn ei ardal ei hun a chan ei dad à'i frodyr, a gwnaeth daflu ei hun mor Uwyr i'r gwaith nes yr oedd yn ymddangos na bnas- ai neb mewn ychydig flyuyddau yn gwybod rhagor nag ef yn y cyleh oedd wedi ei ddewis iddo ei hun. Yn y flwyddyn 1859 aeth tua Canal Dover, Ohio, lle bu am tua blwyddyn yn arolygu al* ffwrnes haiarn—dychwelodd i Hokendauqua, lle yr oedd yn gydarolygwr a'i frawd, Mr. Samuel Tliomas, dros ffwrneisiau mawr y lle hwnw. Yn y flwyddyn 1861 ym- unodd mewn priodas a Miss Addie Miller^ merch Benjamin a Oatharine Müler, Canal Dover, Ohìo—yr hon sydd wedi ei gadael i'w orfucheddu ef yn weddw ienanc alarus—gall fábwysiadu iaith y Salmydd, ''Lover anä friend thou hast put out ofniy sight" Yr Arglwydd fyddo yn dirion wrthi." Dydd Llun, Medi 18, 1862, y cyfarfu âTr ddamwain a fu yn achos o'i ymddiíadu ef o'i fywyd naturiol. Wrth iddo ymgyrhaedd at ddattod bloclc mawr oedd wedi bod ganddo yn codi darn anferth o haiarn, darfu iddo goìli ei fantoliad a thynodd y bloch i'w ganlyn, pan y syrthiodd tuag ugain troedfedd, pryd y taraw- odd y bach oedd yn y Uoc7c yn ei ben nes try- wanu yr ymenydd. Cymerwyd ef i fyny gan gredu ei fod wedi marw, ond trwy drugaredd yn mhen ychydig ymddangosai fod y ffun werthfawr wedi cael aros. Gwnaed pob ym- drech fedrai meddygon goreu y wlad er ei ad- feryd, ac ymddangosai ef fel yn gwella yn dda, pryd yr ymwelodd mewn cerbyd ag Allentown ac Easton. \"r amser yma yr oedd ef a'i gyí- eillion yn hyderus iawn y buasai yn fuan yn feddianol ar ei gynefinol iechyd—ond buan iawn chwalwyd eu gobeithion i'r llawr gan adglafychiad a gymerodd le Hydref 22ain. Oddiar yr amser hyny yr oedd "brenin y dy- chryniadau" wrth ei waith yn ddystaw ond sicr. Dydd Llun, Tachwedd lOfed, pan yn cyfranogi o ychydig luniaeth, cymerwyd ef gan lewygfeydd—er ei ddirfawr boenau medd- ianai ei hun mewn tawelwch tra am tua dwy awr y gorweddai megys ar arteithglwyd, pryd yr ymgododd llanw yr afon ddu yn uwch ac yn uwch nes pallodd y tafod, tywyllodd y golygon dysglaer, ac yn dawel heb ymdrech ■ ■ -- ■ ■ '