Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUAD YR OES. Ehif.'I.] IONAWR, 1830. [Cyp. IV. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. THOS. THOMAS, O GRUGYBWBACH, GWEINIDOG YR EFENGYL YN NGHEFNARTHEN A'R PENTREF. 3L .AE yn arfeiiad gan y rhan fwyaf o ddynolryw i osod i fynu gof-adeiladau neu ryw argofion ereill er cofFadwriaeth am eu henwogion, yn gystal ag er cefn- ogaeth i'r werin ddyfodol i fod yn ym- drechgar a llafurus fel eu hynafiaid; ac nid ydym ninnau wedi ein gadael heb warant bennodoì o'r dWyfol Air, er ein calonogi a'n cyfarwyddo i gadw mewn coffadwriaeth enwogion teyrnas y Cyf- ryngwr: oblegid 'Coffadwriaeth y cyf- iawn sy fendigedig.' Tueddwyd finnau ddefnyddio fy ysgfifell i'r dyben o gof- resu un o bererinion Sîon fu yma yn ffyddlon yn gwasanaethu Duw, yn ef- engyl ei Fab, yr hwn sydd wedi gor- phen ei daith filwrjaethus, a chyrhaedd yr orphwysfa, lle nad oes gofid na gel- yn yn blino neb o'r preswylwyr. Ganed Mr. Thoinas yn Nghwmyron- en, plwyf Llan Fair ar y bryn, swydd Gaerfyrddin, ar y Sydd o Hydref, 1766; enw ei dad oedd Efan Thomas, a'i fam Johanna, yr hon a fu farw pan nad yd- oedd gwrthddrych y coflant hwn oud 2 flwydd oed. Yr oedd ei rieni yn ael- odau rheolaidd gyda yr Anymddibyn- wyr yn Nghefnarthen, ac arwyddion o dduwioldeb i'w weled ynddynt; ac yn hyn raae'n hawdd casglu, í Mr. Thom'as gael manteision crefyddol yn ei ddydd- iau boreuol, yr hon fraint yr oeddìlaw- eroedd yn ymddifaid o honi yn yr oes hòno. Pan yn 4 blwydd oed, daeth Crugybwbach yn etifeddiaeth iddo, ar ol Mr. Thomas Jones, ei ewythr, ac yno symudodd Mr. Thomas a'i dad y flwyddyn hon. Yn mlynyddau ei gynnydd, a dydd- îau ei nerth, nid oes genym hanes iddo gael ei adael i ymdroi fel Uawer o ieu- enctid ei sefyllfa mewn pechodau gwa- radwyddus, er ei fod yn gyfarwydd yn y peth a elwir yn gyffredin, llawenydiL* diniwed: yr oedd o dymherau siriyPa llawen, ac yn hofií yn fawr gyfeillioa o' r fath pa le by nag y byddai Nid oes genym chwaith un gwybodaeth am un- rhy w argraffiadau neillduol am grefydd a feddiannodd ei feddwl nes yn 25 oed ; ond er iddo gael ei adael yn moreu ei oes fel plant ereill, i ddilyíi ei bteserau, gallasai y nefoedd ddywedyd fel am Paul: ' Mae hwn yn llestr ethoiedig î mi, i ddangos fy enw ger bron dynion.' Dwfn ac anchwiliadwy yw ffyrdd Ie- hofah, pan yn gadael gwrthddrychau ei gariad borcu i ddilyn yr un Uwybrau ag ereill o'r annuwiolion dros gyhyd amser ag y gallai'r diafol benderfynu " a dywedyd yn ei iaith uffernol, nid oos i mi berygl o golli y rhai hyn o'm teyrnas, ac ni feddaf neb mòr ffyddlon â hwy o fewn i'm talaith; ond" lle yr amlhaodd pechod, rhagor yr amlhaodd gras, ac mae'r caffailiad yn cael ei ddwyn oddiar y cadarn er ei fawr siom- edigaeth, a phen-arglwyddiaethol ras i gael y gogoniant byth âm y gwaith. Yn y flwyddyn 1781, pan yn 25 oed, wrth wrandaw y parchedig Mr. Davies, o'r Alltwen, yn pregethu yn Nghefnar- then, pan oedd y gwr parchedig yn dar- lunio y farn fawr ddiweddaf, a'r ddwy blaid a fydd yno yn ymddangos o flaen y Barnwr; meddyliodd Mr. Thomas y byddai ynrhaididdo yntau ymddangos yno; a dechreuai fyned yn ymholi yn ei feddwl gyda pha un o'r d'dwy blaid y byddai ef yn debyg o fod; a dilynodd yr argraífiadau hyn ei feddwl mòr