Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhan 9.] MEDI, 1829. [Cyf. III. OWAIN GLYNDWR. YMAE y pendefig hwn yn un o'r rhai hynotaf raewn hanesydd- iaeth Gymreig, am hyny trueni fyddai i'w goffadwriaeth gael ei gladdu yn y ty wyll wch,ac i'w ymegniadan er rhydd- hau ei wlad o dan lau caethiwed, fod yn anwybodns i'r rhai hyny a garanten gwlad a'u cenedl. Gelwiti ef weith- iau Owain Glyndyfrdwy, a chan y Saeson yn gyffredin Owen Giendowei; ac yr oedd yn adnabyddus i'w gydoes- olion dan yr enw Owain ab Giutfÿdd. Ei dad, Gruffydd Fychan, ydoedd y degfed o Bleddyn ab Cyiífyn, Tywys- og Powys, yr hwn a gyfrifid gan yr henafiaid. yn y llinell fenywaidd, yn gyff i deuluoedd Rhys ab Tewdwr, a Gruffycld ab Cynan. Ac yr oedd ei fam yn hânedig o Llywelyn, Tywysog diweddaf Cymni; o ganlyniad yroedd Owain â bonedd mawr yn perthyn idd ei waedoliaeth. Y mae lle ei enedig- aeth yn anhysbys; eithr yn ol pob tebygolrwydd, fe'i ganed naill ai yn Glyndyfrdwy, yn swydd Feirionydd, neu yn Sycharth, yn swydd Dinbych ; o leiaf Owain yn achlysnrol a anneddai yu y ddau le dywededig. Ond yn mha Je bynag eí ganed, cymmerodd ei en- edigaethle,ynol yrawdurdodan mwyaf ciedadwy, ar yr 28ain o Fai, 1354; ac, o rlioddwn glnst i chwedlan, dy- wedir i arwyddion a rhyfeddodati ym- ddangos ar yr amgylehiad, fel rbag- fynegion o'r gorchestion a gyflawnid ganddo niewn amserau dyfodol. Tad Owain ydoedd dra chyfoethog, ac yn ymsymmud niewn cylch uchel yn y Uywysogaeth, o ganlyniad nid es- genlusodd ddwyn ei fab i fynu yn mhob dysgeidiaeth gyihaeddadwy yn yr am- seropdd hyny ; ac efe a fu yn myfyrio y cyfreitliiau Seisnig, ac a alwyd i'r Llŷs, ond nid oes wybodaeth a arferodd e/e ei ddonian nen beidio. Yn ei ddyddian ieuangaidd yr oedd yn dra flafriol i fy wyd milwraidd ; a chanlyn- odd Richard II. yn ei ryfeloedd yn Ffrainc a'r Iwerddon, yn nghyd a'r rhaicartrefol rhwng teulnoedd Ÿork a Lancaster, pa rai a gychwynwyd tna'r amserau hyn. Yr oedd Owain yn dra fl'yddloni Richard, acymddengysiddo gaeleiddyrchafugan y brenin dywed- edig i fod ynfarchog; o herwydd mewn papyryn yn Colliti's Peemge, gelwiref wrth yr enw Sir fìwen de Glendower. Wedi diorseddn Richárd yn J399, ar esgyniad Harri IV, Owain Glyndwr, y pryd hyn yn r.ghyloh pump a dengain oed, a ymneilldiiodd idd ei diriogaeth- au, gan alaru rwymp ei arglwydd, ac heb fawr obaith o gael yr un ffafr ar ddwylaw y brenin piesennol. Priod- odd yn ienanc â merch Syr l)avid Hanmer, swydd Callestr; a dywedir fod ei fywyd teulnaidd yn dia ded- wydd, a chanddo luosawgrwydd o blant. Ychydig flynyddan cyn hyn, ymraf- aeliodd Owain àg un Reginald, Ar- glwydd Grey o Rnthin, tiroedd pa rai a derfynent y naill ar y llall. Tnedd- wydArglwyddGrey i gymmeryd n>edd- iant o gyfran o <iir gwyllt a beithynai iOwain, ond íe'ihennillwydyn ol trwy gyfraith; ac, o achos hyn, cynddaredd a ferwai yn mynwes Grey at Owain, a'i ddysgwyliad yn barliaus ydoedd am gyfleusdra er ymddial. Ac wedi i Richard gael ei ddiorseddn, Grey a ail feddiannodd y tir trwy allu a thrais ; ac er cwyn Owain ger bron y senedd, ni chafodd ond ei ddiystyru, a'i eiddo trwy anghyfiawiider a gymmerwyd oddi arno. Ond nid digon hyn o ym- ddial gan Grey, herwydd pan yr oedd Harri IV, yn y flwyddyn 1400, yn ym- harotoi yn erbyn yr Alban, ni roddodd efe y wýs a anfonasai y brenin at Ow- ain, ac am nad ymddangosodd yn y fyddin, yr hyn nis gallasai, efe a gy- hoeddwyd yn deyrnjfradwr. Nid cysurns teimladau Owain dan ormes o'r fath hyn; ac wedi gweled pethau yn myned yn ei erbyn cyn bell- ed, nid yn unig efe a ail-feddiannodd ei dir, oud a ymrnthrodd i diriogaeth- au Arglwydd Grey, ac a atafaelodd mewn cyfran helaeth o honynt. Yr oedd Grey y pryd hwn yn y llŷs Seis- nig, pan gyrhaeddodd y newydd ef, 33