Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CEONICL T CERDDOR: CYLCHGRAWN MISOL, At wasanaeth Cèrddoriaeth yn mhlith y Cymry. O DAN OLYGIAETH YN CAEL EI Y TONIC SOL-FFA D. EMLYN EVÄNS, GYNORTHWYO ÍN NODIANT gan M. O. JONES, A.C. Cye. III. Rhif 35. MAI 1, 1883. Pris 2g. JÖYNWYSIAD^ Cerildoriaeth:—"Ti Arglwydd a adwaenost ein ca- lonau;" Antliem Angladdol, gan y diweddar Bobert Roberts, Bangor. " íeuenctyd anwyl Cymru;" Tôn i blant, gan Caerfallwch. ' ' Ymgesglwch Gymr y dewrion;" Ymdeithdon Ddirwt stol, gany Golygydd. Y diweddar Mr. John Owen (Owain Alaw) Offeryniaeth Iiofíion Bywgrafiyddol Adolygiadaa Y gerddoriaeth yn y Sol-ffa Congl yr Hen Alawon—Bwrdd y Golygydd Hanesion... Hysbysiadau TUDAL 457 459 460 461 462 465 466 467 Y DIWEDDAR MR. JOHN OWEN (OWAIN ALAW). " Y mae y mwyafrif o'r boneddwyr oeddent yn fîaenllaw ar y llwyian Eisteddfodol bumtheg ae ugain mlynedd yn ol, yn awr wedi ei gadael trwy henaìnt neu farwolaeth ; " dyna ddywedai un o'n cyd-fisolion eerddorol Llundeinig yn ddi- weddar mewn erthygl ar Owain Alaw a'r Eis- teddfod—cyfieithiad o ba un a gyhoeddwyd yn ein rhifyn blaenorol, ac y mae y dywediad yna yr un mor gymhwysiadol at ein cerddorion ag ydyw at unrhyw ddosbarth arall o hyrwyddwyr a chefnogwyr ein hen sefydliad cenedlaethol. John Ambrose Lloyd, Ieuan Gwyilt, Alawydd, Cyndeyrn, a llu o rai ereill llai eu nôd, ydynt oll wedi ein gadael, fel nad oes yn awr yn aros ar ol claddu y prif-gerddor o Gaerlleon, namyn dau neu dri ar y goreu o'r rhai oeddent yn mlaenllaw fel cyfansoddwyr yn gyntaf ac yna fel beirniaid, chwarter canrif yn ôl. Diamheu fod gwybod- aeth cerddorol yn gj'ffredinol wedi cynyddu ac ymdaenu llawer yn ystod y blynyddoedd diwedd- af; y mae ein cyfansoddwyr yn fwy lluosog, yn fwy gwybodus—(neu dylent fod felly) ac yn fwy galluog all-round mewn cyfansoddi caneuon, can- igau, rhan-ganau, cantodau, oratoriau, ac operä- on, ac mewn chwareu ac ysgrifenu i offerynau, ond y mae yn ddi-ddadl cyn belled ag y mae a fyno a'r anthem, "cewri oedd ar y ddaear y dydd- iau hyny" ac hyd yn hyn nid oes yr un cyfan- soddwr diweddarach wedi myned y tuhwnt i'r nôd a gyrhaeddwyd ganddynt hwy. Un o brif aelodau y cwmpeini urddasol hwnw ydoedd yr hwn ag y mae genym yn awr y gor- chwyl prudd-bleserus i'w gyflawni, o ysgrifenu bras-linelliad o hanes ei fywyd a'i weithiau. Fel ag y sylwasom mewn rhifyn blaenorol, barnwyd genym mai gwell fyddai i ni ohirio ei hysgrifeniad hyd nes y llwyddem i gael y man- ylion angenrheidiol yn gywir, gan fod cynifer o wahanol hanesion parth amser a lle genedigaeth Mr. Owen, y swyddi a lanwrodd fel organydd, yr efrydwyr fuont dan ei addysgiaeth ac yn y blaen, wedi ymddangos yn ý newyddiaduron. H\vyrach mai cystal i'r ysgrifenydd nodi fod yr ysgrif o'i eiddo ar yr un gwrthddrych a ymddangosodd yn un o'n chwarterolion Cymreig yn ddiweddar, er yn wahanol yn ei threfniad—ac efallai yn ei chynwysiad yma a thraw—etto yn cynwys yr un materion o ran ffeithiau. Ganwyd Mr. John Owen yn Crane Street, CaerJleon-gawr (Chester), Tachwedd 14, 1821. Am y wybodaeth bendant yna yr ydym dan rwymau dioìchgar i Miss Owen, ac hefyd i'w hewythr Mr. David Williams, Phoenix Works, Caer, yr hwn a ychwanega yn ei lythyr, u Mab ydoedd i'r Cadben Owen yr hwn a long-ddrylliwyd yn ystorm 1837 neu 1838." Cyduna yr hanesion ydynt o'n blaen mai o Llanfachraeth, ger Dolgellau, y daeth ei rieni i Gaer; a nodir gan amryw fod y fam yn udisgynyddes o deulu y Rheinalltiaid—telynorion adnabyddus yn eu dŷdd oeddent yn preswylio yn y rhan hono o Feirionydd. Prin iawn ydyw ein gwybodaeth parth manylion boreu bywyd John Owen ; ymddengys fod ei rieni mewn sef- yllfa lled gysurus, a chan iddo gael ei eni a'i ddwyn i fyny mewn dinas fel Caer, tebyg iddo gael manteision addysg lled wych—uwch o lawer o leiaf nas gallasai ddisgwyl gael pe bae ei rieni wedi ymsefydlu yn eu carti'ef genedigol hwy. Ar ol gorphen ei addysg pi'entisiwyd ef i Meistri Powell ac Edwards, Cyllellwyr, yn ei ddinas en- edigol, ac mewn erthygl a ymddangosodd yn un o?n newyddiaduron cawn yr hanesyn canlynol