Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CEONICL Y CEÊDDOR: CYLCHGRAWN MISOL, At wasanaeth Cerddoriaeth yn mhlith y Cymry. O DAN OLYGIAETH TN CAEL EI Y TONIC SOL-FFA D, EMLYN EVA.NS, GYNORTHWYO TN NODIANT gan M. O. JONES, A.C. Cyf. III. Rhif 36. MEHEFIN 1, 1883. Pris 2g OYNWYSIAD. Cerddorìaelh:—"Rhosyn cyntaf yr Haf" (Theýrst Rose o/ Summer); Rhan.gan, gan Gwilym Gwent. Y diweddar Mr. John Owen (Owain Alaw) Offeryniaeth Adolygiadau Lloffion Bywgraffyddol Congl yr Hen Alawon Y gerddoriaeth yn y Sol-ffa Barddoniaeth—Bwrdd y Golygydd ... Hanesion... Hysbysiadau TUDAL 469 471 471 472 474 475 477 478 478 Y DIWEDDAR MR. JOHN OWEN (OWAIN ALAW).—Parhad. Ar ol rhoddi braslun o hanes bywyd Mr. Owen fel yua, ein gorchwyl yn awr ydyw taflu cip- olwg ar ei yrfa gerddorol. Am flynyddau lawer llanwodd sefyllfa bwysig yn ein Cyngherddau a'n Heisteddfodau fel chwareuydd, datganydd, ar- weiuydd cerddorol, a beirniad. Yn y eysylltiad olaf, ni chlywsom neb erioed yn awgrymu nad oedd yn berffaith onest a chydwybodol, er mai o brin y gellid honi ei fod yn rhyw feirniad cadarn iawn—h. y., diysgog dros ei farn ei hun, os y digwyddai fod ei gydfeirniaid yn teimlo'n wa- hanol Yn y cysylltiadau eraill yr oedd bob amser yn chwaethus a gorphenol; nis awyddai i roddi o'i flaen ei hun, nac o flaen eraill, dasgnas gaüai ef, a hwy, ei chyflawni i berffaith foddlon- rwydd. Serch hyny, y mae yn dra sicr mai fel cyfan- soddwr (gan gynwys yn hyn y golygydd neu y casglydd) yr â ei enw i lawr i oesau dyfodol. Yn yr ugain neu y deng-mlynedd-ar-hugain cyntaf o'r ganrif bresenol, yr oedd sefyllfa gerddorol y Dywysogaeth yn hynod o isel; ond etto yr oedd arwyddion gobeithiol, a'r rhai a sylweddolwyd yn nghyhoeddiadau y Millsiaid o Llanidloes, ac er mai pell o fod yn gywir na chyflawn ydoedd gramadegau a chyfansoddiadau y tri wŷr talentog a gweithgar hyn, yr oeddynt yn welliant an- nhraethol ar eiddo eu blaenoriaid. Tua'r adeg hon y daeth Mr. John Ambrose Lloyd i'r maes— cyhoeddwyd ei dôn "Wyddgrug" yn "Y Gwlad- garwr" am Ebrill, 1835—ac er nad oes genym ni, o leiaf, unrhyw hanes am Mr. Owen am flyn- yddoedd ar ol hyn, ystyrir y ddau fel yn perthyn i'r un cyfnod. Ganwyd Mr. Lloyd yn 1815, a Mr. Owen yn 1821, felly nid oedd y gwahan* iaeth mewn oed ond ychydig, ac yn sicr, gwnaeth y ddau hyn fwy na'r un dau gerddor ag sydd wedi eu cymeryd oddiwrthyra, a dweud y lleiaf, dros ein cerddoriaeth a'n cyfansoddiadau cerdd- orol Cymreig; wrth feirniadu eu cynyrchion dylid cymeryd i ystyriaeth, nid sefyllfa bresenol cerddoriaeth yn Nghymru, nac arddull y cyfan- soddiadau a droir allan yn awr, yn unig, ond hefyd sefyllfa gerddorol y wlad ac arddull y darnau a gynyrchid ddeng-mlyaedd-ar-hugain a deugain mlynedd yn ol, pan y daethant hwy gyntaf i'r maes. Yr oedd cyfansoddiadau Rich- ard Mills yn dra gwahanol i'r hyn yr oedd eiddo ei flaenoriaid dawnus ond di-ddysg D. Siencyn Morgan, D. Harris, John Williams, John Ellis, &c, ond nid i'w gydmaru a'r gwahaniaeth dra- chefn rhwng y blaenaf, a'r hyn a ymddangosodd yn ol-llaw o eiddo Ambrose Lloyd ac Owain Alaw; ac er o bo?ibl fod tuedd yn yr oes or- gromatig ac an-felodus hon i ddiraddio melodion swynol a diatonaidd, a chynghaneddion syml ond cyfoethog y gwŷr hyn, y mae yn dra sicr fod anadl einioes yn eu cyfansoddiadau, ac y bydd- ant fyw dros fachigyn etto ta beth fydd tynged cynyrchion Uawer a berthynant i "Ysgolion ne- wydd" y dyddiau rhai'n. Am Mr. Owen fel cyfansoddwr nid oes o'n blaen yr un hanes hyô y flwyddyn 1851, pryd y derbyniodd y wobr am yr anthem "Deborah a Barac" yn Eisteddfod Rhuddlan. Yn Eistedd- fod Madog yr un flwyddyn bu yn gyd-fuddugol a Mr. Ambrose Lloyd am y gerddoriaeth oreu ar "Weddi Habacuc." Yn 1855 cawn ef yn fuddugol ya Llundain ar "Gân Mair" (Magni- ficat); ac yn Nadolig y flwyddyn ddylynol ar "Y Ddaeargryn," yn Eisteddfod Cymi-odorion Dir- westol Merthyr. Bu hefyd yn fuddugol ar an- them ddirwestol "Och! annuwiol," y wobr o 20 punt am ba un a gynygid gan Gymanfa Ddir-