Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rbpddid. Cyf VI.] EBRILL, 1907. [Rh.if 1. PRBüBTH kr y " Ddiwinyddiaeth newydd," gan y Parch. W. O. JONE£. 1 Thessaloniaid v. 19—22. " Na ddiffod'dwch yr Ysbryd. Na ddirmygwch brojfwydoliaethaw. Profwch bob peth: deliwch yr liyn sydd dda. Ymgedwch rhag pob rhith drygioni." Yn yr oes Apostolaidd yr oedd Ysbryd Duw, yn ol yr hanes, yn gweithredu mewn dulliau amiywiol a lliosog; yn llawer mwy felly nag mewn oesoedd diweddarach. Mewn mannau eraill dyry yr Apostol Paul restrau o'r doniau ysbrydol adnabyddus yn yr eglwysi. Wele un restr gwerth sylwi arni: " I un, trwy yr ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall ymádrodd gwyoodaeth, trwy yr un ysbryd ; ac i arall ífydd trwy yr un ysbryd ; ac i arall ddawn i iachau, trwy yr un ysbryd ; ac i arall wneuthur gwyrthiau, ac i arall, brofFwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd ; ac i arall, amryw dafodau ; ac i arall, gyfieithiad tafodau. A'r holl bethau hyn y mae yr un a'r unrhyw ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o'rneilltu megis y mae yn ewyllysio " (1 Cor. xii, 8-11). Nis gwyddom i sicrwydd, erbyn hyn, beth a feddyliai yr Apostol wrth rai o'r doniau a enwir ganddo, gan mor Iwyr y maent wedi diflannu Ond hyn a wyddom : Yn ei olwg ef yr oedd rhai ohonynt i'w prisio yn uwch na'r llcill. Cynghora ei ddarllenwyr i ddeisyfu y doniau goreu ; a'r ffordd i brofi eu rhagoriaeth ydoedd drwy sylwi ar eu heffeithiau ; pa rai ohonynt oedd fwyaf buddiol er goleuo ac adeiladu y gwrandawyr ? Tuedd rhai, mor fore a hynny, ydoedd dewisyn hytrach y doniau salaf; megfs, y gallu- oedd i wneud gwyrthiau; i iachau clefydon, ac i lefaru mewn tafodau dieithr. Yr oedd y rheiny yn achosi mwy o drwst a synedigaeth, ac oblegid hynny, mae'n debyg, yn fwy deniadol i'r lliaws. Ond ym marn yr Apostol, pethau cymharol dlawd a salw oedd y rheiny. Pwysicach a mwy defnyddiol yn ei olwg ef ydoedd doniau distaw, diymffrost, yr athrawon a'r efengylwyr.