Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

lílais Rbyddid. Cyf. VI.] RHAGFYR, 1907. [Rhif 9. "Y Ddiwinyddiaeth Newydd." TREM YN OL AC YMLAEN. Yn ystod yr wythnosau diweddaf, daeth allan lyfr newydd, ag y dymunwn i ddarllenwyr Llais RHYDDID wybod rhywbeth am dano. Nis gallaf wneud yn well, am y mis hwn, na difynu adranau o hono, a gwneud rhai sylwadau am yr awdwr, ac ar ei ddysgeidiaeth. Wrth draethu ar y Ddiwinyddiaeth Newydd, fel y gŵyr y darllenydd erbyn hyn, nid wyf yn golygu diwinydd- iaeth y Parch. R. J. Campbell, nac eiddo neb o'r rhai a adwaenir fel apostolion syniadau eithafol. Pell iawn ydwyf o gydweled â llawer o'u diwinyddiaeth hwynt. Byw yr ydym, er hynny, mewn oes nas dichon neb, os yn darllen a meddwl, aros yn ei unfan—oes na bu erioed ei chyffelyb am ei hymchwiliadau a'i darganfyddiadau. Agos ymhob cangen o wybodaeth, y mae golygiadau ein tadau, dyweder gan mlynedd yn ôl, erbyn hyn yn oedranus, ac yn prysur ddiíìannu. Ac y mae hynny yn wir, mewn modd arbennig, am Ddiwinyddiaeth ac Esboniadaeth Feibl- aidd. Tywyna arnom oleuni newydd, yn ddilyw o bob cyfeiriad, ac o dan ei belydrau, gweddnewidir llawer o gredoau cysegredicaf yr oesau a fu. Yn y gwybodaethau hyn gwnaed mwy o gynnydd yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf, nag a wnaed drwy gydol y milflwyddiant blaenorol. Dilys yw fod rhai eto yn ceisio gwadu y cynnydd, a bychanu ei ganlyniadau. Soniant yn goeglyd am dano fel ffiach mewn padell, yn gwneud crynswth o dân a mwg am funud awr, ond yn f uan i f yned heibio a diflannu. Ant hwy ymlaen i ail-adrodd yr hên gredoau, heb newid dim arnynt, ac i daeru fod popeth yn aros yn union fel y gadawyd hwynt gan feddylwyr yr amser a fu. A phe gallent hwy, diffoddent bob tewyn o oleuni newydd, a rhoddent atalfa ar bob cynnydd