Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ldois Rbyddid Cyf. VI.] CHWEFROR, 1908. [Rhif 11. "Y Ddiwinyddiaeth Newydd." LLYFR Y PARCH. DAVID ADAMS, B.A. Eb, gwaethaf Clawdd Offa, y mae'r Ddiwinyddiaeth Newydd yn ymweled â Chymru, ac yn dechren dysgn siarad yn yr iaith Gymraeg. Megis ar ddamwain, rai misoedd yn ol bellach, digwyddais glywed fod ym mryd y Parch. David Adams ddwyn allan gyfrol newydd ar y mater; ac, wrth gwrs, enynnodd yr achlust ddisgwyliadau aiddgar yn fy mynwes. Adwaenir Mr. Adams gan ei oes fel tipyn o free-booter diwinyddol; ac achosodd rhai o'i gyn-lyfrau gryn lawer o ysgwyd pennau ymysg ceidwaid yr athrawiaeth. Hawlia glust o wrandawiad gofalus, oblegid y mae'n llenor diwylliedig, ac yn feirniad o urdd Eisteddfodol. Fel pregethwr a diwinydd, fel bardd a llenor, fel beirniad ac athronydd, hawlia le anrhydeddus yn ein gwlad. 0 ran èangfrydedd ac anibynniaeth meddwl, ac hefyd o ran teithi dadansoddol a rheswmyddol ei athrylith, saif wrtho ei hunan yng Nghymru, héb neb arall i gystadlu am y blaen. Pn cenedl ni, efe ydyw y corfforiad goreu o'r hyn a elwir yn modernism. Awchus, gan hynny, y disgwyliem am ei gyfrol newyàd. Ac i aros am dani, darllenais drachefn.rai o'i weithiau blaenorol, sef Paul yng ngoleuni'r lesu, a'i draethawd ar Ddatblygiad. Ac o'r diwedd, wele Yr Hê?i a'r Newydd* wedi cyrraedd; ac wrth ei gweled, gofynais yn ddistaw: A oes heddwch ? Darllenais hi'n ofalus ddwywaith drosodd, ac, yn wir, rai rhannau o honi gryn ddengwaith drosodd. Ac yn awr, pa beth a ddywedaf? Deisyfa yr awdwr oddi wrthym, nid trugaredd, ond barn bwyllog a diduedd. "Ar hyn o bryd,'' * Yr Hên a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth, gan y Parch. David Adams» B.A., Liverpool. Argraffwyd gan W. Hughes a'i Fab: Dólgellau- Pris 2s. 6c.