Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

lílais Rbyddid* Cyf. VI.] MAWRTH, 1908. [Rhif 12. "Y Ddiwinyddiaeth Newydd." Dysgeidiaeth y Parch. Dayid Adams, B.A., AR Berson Crist. Yn yr ysgrif hon, y mae a wnelwyf â thair neu bedair pennod o lyfr y Parch. David Adams, sef ei ymdriniaeth ar Berson yr Arglwydd Iesu. " Y pethau yng nghylch Iesu o Nazareth," fel y cytuna pawb, ydyw y pethau, yn anad dim, a ysfcyrir yn bynciau sylfaenol ein crefydd ni. Mawr a fu y dadleu arnynt er yn fore, a thynwyd allan gredoau maawl a llafurfawr arnynt gan gynghorau cyffredinol yr Eglwys, i ddeffinio, fel y tybid, yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. A derbyniwyd y credoau hynny, am ganrifoedd lawer, fel gwirioneddau sicr a diymwad, gan Eglwysi Groeg a Rhufain, ac wedi hynny gan bob cangen efengylaidd o'r Eglwys Brotestanaidd. Ond yn awr ail-agorir yr holl gwestiynau, a gwneir hwy o newydd yn destynau beirniad- aeth a dadleuón. Gwneir' hynny, nid yn gymaint gan ddynion o'r tu allan i'r eglwysi, ond yn fwy o lawer gan athrawon diwinyddol yr oes. Yn Germany, yn enwedig, y mae prif ddysgawdwyr crefyddol yr eglwysi wedi crwydro ymhell oddi wrth yr hên safonau, ac yn dysgu syniadau tra gwahanol. Mynegaf yn fyr rai o ddaíiadau yr Hên Ddiwinyddiaeth ar y pwnc. Dylem gredu, meddant, mewn Un Duw, ond yr Un hwnnw yn Drindod o Bersonau, sef, Tad, Mab, ac Ysbryd Glân : y Tri yn ogyfuwch ac yn ogyd-dragwyddol â'u gilydd. A phan ddaeth cyflawnder yr amser, Un o'r Tri, sef, yr Ail Berson, neu y tragwỳddol Fab, a ymddanghosodd yn y cnawd. Drwy gyfryng- iad gwyrthiol o eiddo'r Ysbryd Glân, ganwyd Ef o wraig, heb dad. naturiol, ac heb gyfranogi o lwgr dynoliaeth syrthiedig ; ac eto yn ddyn cyflawn a phërffaith. Ynddo Ef, gan hynny, y mae Person Dwyfol mewn undeb a natur ddynol, a'r úndeb hwnnw yn gyfryw fel ag i gadw y Dwyfol a'r dynol heb eu newid,na'u cymysgu â'u gilydd. Y mae yn wir Dduw, ac yn wir ddyn, a phriodol y gelwir Ef " y dyn a'r Duwdod ynddo'n trigOi" Dyma'r golygiadau a dderbyniwyd gan agos bob cangen o'r Eglwys am bymtheg cant o flynyddoedd. Y mae'r geiriau a'r brawddegau wedi eu cydwau â phrofìadau â gweddiau, pregethau ac emynau, cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth, o'r hên dduwiolion. Fel un