Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ciais Rbpdaid. Cyf IV.] EBRILL 1905. [Rhif 1 Addoldai Eglwys Rydd y Cymry. IV—CAPEL BIREENHEAD. Yr ochr arall i Afon y Ferswy y mae ein pedwerydd addoldy, yr ochr agoaaf i Gymru, yn " ninas y dyfodol," fel yr hoffa trigol- ion Penbedw alw eu tref. Trigiana llu mawr o'n cyd-genedl yn y dref hon, a chynyddant yn barhaus. Medda pob un o'r enwadau Ymneillduol Cymreig addoldai yno, yn nghyd ag Eglwys Loegr, a pharhant i estyn cortynau eu pebyll. Saif ein capel ni yn nghanol y dref, yn Claughton Road—heol lydan, adnabyddus a chyfleus. Y mae'r capel o fewn gwaith pum' munyd i'r Central Station, ac y mae'r cerbydau trydanol o Woodside Ferry yn pasio'r drws. Fel y gwelir, o ran golwg