Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rhoddiü. Gyf 1J AWST, 1902. [Rhif 5. Ffynon y Cedyrn.* Yna y canodd Israel y g.ân hon : Cyfod, ffynon ; cenwch iddi. Ffynon a glodd- iodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, yn nghyd á'r deddfwr, á'u ffyn. Ac o r anialwch yr aethant i Mattanah.—NüMBBi xxi. 17, 18 Y MAE darlleniad arall i'w gael o'r geiriau hyn, cliriach a mwy persain:— Yna y canodd Israel y gân hon : Cyfod, ffynon ! Cenwch yn ol iddi ! Ti, ffynon, a gloddiodd y tywysogion, A gloddiodd penaethiaid y bobl, A'r deyrnwialen ac â'u ffyn : O'r anialwch y caed rhodd ! Nid oes nemawr ddim yn meddu y fath swyn i'r teithiwr, na dim sydd yn apelio mor gryf at y dychymyg hanesyddol a ffynon o ddwfr, ac yn enwedig hen ffynon. Gan mor awgrymiadol ydyw o ddibyniaeth hollol dyn a phob peth byw arni; gallwn hebgor llawer o ddoniau gwerthfawr, ond nis gellir hebgor hon. Gan mor awgrymiadol heíÿd o'r golud dihysbydd sydd yn natur, —darpariaeth rasol Duw ar gyfer anghenion ei greaduriaid. Dywedir fod Ffynon Gwenfrewi yn Sir Fflint yn bẃrlymu allan yn agos i saith mil o alwyni o ddwfr bob mynud. Beth, ynte, ped agorid ffenestri'r nefoedd, a phe rhwygid holl ffynonau'r dyfnder mawr! Y mae i ffynonau le amlwg yn hanes gwareiddiad a chrefydd yn mhob oes. Dyddorol yw darllen am forwynion Groeg a merched yr Hebreaid yn more oes y byd yn cyrchu at y ffynonau gyda'u dyfrlestri, a thrachefn yn mrig yr hwyr yn dod allan i ddyfrhau eu diadelloedd. * Pregeth a draddododd y Parch. M. O. EVANS, (iwrecsam, ynnghyfarfod Pen Blwydd cyntaf yr Eglwys Pydd, yn Hope Hall, Gorphenaf 13,1902,