Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ClaìS Rhpddìd. Gyf. l.J HYDREF, 1902. [Rhif. 7. Pregeth gan y Parch. N. Bevan. Actau iv. 14.—"Ac wrth %veled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hyny." Hen wirionedd adnabyddus ydyw fod erledigaethau ac ymosod- iadau o bob math, y rhai a fwriedir er drygu a dinystrio eglwys Dduw, yn profi er daioni iddi. Yn lle ei gwanychu a'i hatal i fyned rhagddi, y maent yn troi yn faeth a bywyd iddi. Parant iddi fyned rhagddi yn gyflymach. Yn Ue ei gwneud yn llai amlwg, codant hi i fwy o hynodrwydd ; yn Ue cyfyngu ar ei dylanwad, helaethant gylch ei gweithgarwch. Y mae yr ystorm yn y goedwig yn peri i'r derw wreiddio yn ddyfnach, a gafael yn sicrach yn y ddaear. Ac felly erledigaeth ar eglwys Iesu Grist. Yn lle bod yn angeu iddi ac yn atalfa ar ei llwyddiant yn y byd, cynorthwyant i'w gwreiddio yn ddyfnach, i'w dad- blygu ac i helaethu cylch ei defnyddoldeb. Nid oes angen gwastraífu amser i amddiffyn yr eglwys, nac i brofi ei hawl i fodoli. Ei dylanwad ar y byd heddyw, y gwaith a wnaed ac a wneir ganddi, ergwaethafgelynionacymosodiadau, dyna yw y ddadl oreu o'i phlaid, a'r prawf cryfaf o'i hawl i fodoli. Ar ei Sylfaenydd y gwnaed yr ymosodiad cyntaf. Dacw y gelyn yn llwyddo i gael Pilat i'w gondemnio i farwolaeth. Wele Ef yn cael ei arwain ymaith i ben bryn Calfaria i'w ddienyddio —yn cael ei arwain fel oen i'r lladdfa. Mi welaf y gelyn yn pwyo yr hoelion dur drwy ei draed a'i ddwylaw, ac i wneud yn sicr o'i orphen, dacw un yn trywanu y bicell fain i'w ystlys Ef. Dyna ben ar y cwbl. Sonir byth mwy am ei honiadau, ei ddysgeidiaeth, a'i deyrnas, oddieithr mewn gwawd. Farce oedd y cwbl. Dyna'r curtain i lawr ar yr olygfa olaf yn mywyd y twyllwr hwnw. O nage ! Honyna ydyw y scene olaf yn yr act gyntaf. Aiff y curtain i fyny eto ar foreu y trydydd dydd. Druain o'r gelynion ; ychydig feddylient hwy, pan yn ei godi ar