Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ciaìs Rbpddid. Cyf 1 ] RHAGFYR, 1902. [Rhif 9. At y Darllenydd. Hwn ydyw y nawfed rhifyn o Lais Rhyddid, a'r diweddaf yn y flwyddyn gyntaf o'i hanes. Yr ydym yn teimlo arnom rwyniau i ddiolch ani y gefnogaeth a gawsom gyda'r anturiaeth. Ar y dechreu yr oeddym yn teimlo yn bryderus pa beth a ddeuai o'r Cylchgrawn bychan hwn. Prophwydai rhai mai cyfyng fyddai ei gylchrediad a byr ei barhad. Ond ar ol naw mis o brawf arno yr ydym yn teimlo yn fwy calonog, ac yn barod i wynebu blwyddyn newydd yn fwy hyderus. Wrth edrych yn ol, rhaid i ni addef nad yw y misolyn yn agos y peth y dymunem iddo fod, nac ychwaith y peth y gobeithiwn ei wneud yn y dyfodol. Dichon ein caredigion wneud llawer i'n cynorthwyo drwy eangu ei gylchrediad a thrwy anfon ysgrifau dyddorol i ymddangos ar ei ddalenau. Y mae genym fwriad i ychwanegu at ei íaint, ac os y gwna ein dosbarthwyr, a'n darllenwyr yn gyffredinol, egni i ledaenu ychydig yn ychwaneg arno, gallem wneud hyny heb ddyoddef colîed arianol. Yn ein rhifynau nesaf yr ydym yn bwriadu cael cyfres o erthyglau ar ddysgyblaeth eglwysig. HofTem gael ymdriniaeth bwyllog a difrifol ar y mater. Beth yw dysgeidiaeth y Beibl ar y pwnc ? Beth yw amcanion a therfynau dysgyblaeth •? Ac a ydyw dysgyblaeth fel ei gweinyddir yn yr eglwysi yn awr yn seiliedig ar yr Ysgrythyr, ac yn ateb i'r dybenion proffesedig ? Gwahoddwn ein darllenwyr i draethu eu barn ar y cwestiynau hyn a'u cyffelyb, ac yr ydym yn gobeithio gallu taflu goleuni newydd ar lawer o agweddau i'r mater sydd yn awr wedi syrthio rywfodd allan o ystyriaeth yr eglwysi. Fel y dywedasom o'r blaen, rhoddir perffaith ryddid i'n darllenwyr draethu eu barn, ond iddynt wneud hyny o fewn terfynau gweddeidd-dra a moesau da.