Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rlwddìd. Cyf II.] AWST, 1903. [Rhif. 17 Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YE, ARGLWYDD IESÜ. Yr adran nesaf a gymerwn mewn llaw ydyw Matthew xviii. 15—20. Cawsom achlysuron o'r blaen i gyfeirio at rai o'r ymadroddion sydd ynddi, ond gan fod yr adran drwyddi yn ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc o ddysgyblaeth eglwysig teilynga genym astudiaeth fwy trwyadl a manylach. Darllena fel y canlyn :— Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd. Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yn ngenau dau neu dri -o dystion y byddo pob gair yn safadwy. Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys : ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a'r publican. Yn wir, rneddaf i chwi, pa bethau bynag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef : a pha bethau bynag a ryddhaoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef. Trachefn, meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddiin oll beth bynag ar a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt. O holl ddysgeidiaeth ein Harglwydd Iesu Grist, y paragraph hwn yn ddiddadl ydyw y mwyaf pendant a diamwys ar y mater sydd genym dan ystyriaeth. Fel y dywed Dr. Lindsay yn ei gyfrol (^diweddar ar The Church and the Ministry in the early Centuries:—" Dyry y geiriau hyn gÿtarwyddiadau pa fodd i ymddwyn tuag at droseddau a throseddwyr o fewn y gym- deithas Gristionogol, ac edrychir arnynt yn gyfFredin fel y warant Ysgrythyrol dros weinyddu dysgyblaeth yn yr eglwys." Hyd y gwyddom, derbynir hwynt fel: y cyfryw gan bawb o ddisgyblion Crist, a mawr yw y defnydd a wnaed ohonynt erioed. Gweíir hefyd eu bod yn cymeradwyo, ac yn wir yn gorchymyn, mewn achosion neillduol, ddiarddel aelodau o eglwys Crist. Ac yr ydym yn credu mai y geiriau uchod, yn yr ail adnod ar bymtheg, " bydded ef i ]bi :megis yr ethwig a'r publican," ydyw