Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Clais Rftpddìd. Gyf. II] TACHWEDD, 1903. [Rhif. 20. Pregeth gan y Golygydd. " Ac efe a ddy wedodd, Nac ofna : canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na'r rhai sydd gyda hwynt. Ac Eliseus a weddiodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, agor, attolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc ; ac efe a edrychodd: ac wee y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.'—2 Bbk.v., vi. 16-17. Gweinidog i Eliseus y prophwyd oedd y llanc y sonir am dano yn ein testyn. Ychydig a ddywedir am dano ; nis gwyddom hyd yn nod ei enw; ond er hyny rhaid ei fod yn wr ieuanc annghyffredin yn ei oes. Oblegid yr oedd wedi ei ethol i swydd o anrhydedd ac ymddiriedaeth mawr,—gweinidog i wr Duw, Eliseus y prophwyd. Newyddian ydoedd eto yn y swydd, oblegid yn y bennod o'r blaen gwr arall a'i llanwai, gwr o'r enw Gehazi. Profodd hwnw yn was anfuddiol; ceisiodd dwyllo ei feistr er mwyn budr elw; ac mewn canlyniad, tarawyd ef â'r gwahanglwyf. Ac wedi ei ddymchweliad ef, y Uanc hwn a etholwyd i lanw ei le. Etholwyd ef o fysg meibion y prophwydi. Yr ydych wedi sylwi fod rhai o lyfrau yr Hen Destament yn son llawer am ysgolion y prophwydi; rhyw ysgolion a sefydlwyd i ddechreu, gan Samuel, gyda'r diben o addysgu ieuenctyd Israel yn ngwirioneddau crefydd eu tadau, ac yn llenyddiaeth gysegredig y genedl. Ac mewn oes fel hon, pan sonir cymaint am ysgolion a cholegau, hynod iawn na buasai mwy o sylw wedi ei dalu i ysgolion y prophwydi gynt yn Israel. Y rhai hyny, hyd y gwyddom ni, ydoedd y sefydliadau addysgol cyntaf yn hanes pobl yr Arglwydd. A phe cesglid y cwbl at eu gilydd,y mae mwy o'u hanes ar gael, nag a feddyliech ar yr olwg gyntaf. Buont yn flodeuog iawn am oesau lawer a byddai canoedd o'r bobl ieuainc mwyaf deallus a duwiolfrydig yn y wlad, yn arfer eu mynychu. 'Does neb a wyr faint o ddylanwad a gawsant ar feddwl a bywyd y genedl Iuddewig, a thrwyddi hi hefyd, ar genhedloedd y ddaear hyd heddyw. Magwyd ynddynt gewri o ddynion,—meddylwyr, pregethwyr ac ysgrifenwyr na.welwyd erioed mo'i rhagorach. Yn mysg eu disgybliou yr oedd lluaws o brophwydi enwocaf yr Hen Destament, amryw o'r brenhinoedd a'r archoffeiriaid,— dynion a gerfiasant eu henwau yn ddyfnion yn hanes y ddyn- oliaeth.