Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Claìs Rbpddìd. Gyf II.] RHAGFYR, 1903. [Rhif. 21. Dysgyblaeth Eglwysìg. GALLU YR AGORIADAU. PENNOD ydyw hou megis rhwng cromfachau. Cyn myned yn mhellach gyda dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu, cymerwn egwyl fèr i daflu golwg dros syniadau ac arferion tô ar ol tô o wyr blaenaf yr eglwysi. Alaethus yw meddwl pa ddefnydd a wnaed, ac a wneir eto, o ymadroddion graslawn Gwaredwr y byd, Gwelsom yn barod pa beth a fëddyliai Efe wrth agoriadau teyrnas nefoedd. Disgwyliai i'w ddisgyblion ddilyn ei esiampl Ef wrth eu defnyddio; fod yn addfwyn a gosbyngedig, ac yn barod i aberthu eu hunain er achubiaeth y coìledig. Anfonai hwynt allan i bregethu y Gair, a bodyn daer ar ddynion, mewn amser ac allan o amser, Eu gwaith ydoedd, " argyhoeddi, ceryddu ac anog gyda phob hir-ymaros ac athrawiaeth." Yr oeddynt i wneuthur eu hunain "yn bob peth i bawb fel y gallent yn hollol gadwrhai." Dewisodd ddeuddeg, mewn modd arbenig, i'w hanfon fel cenhadon drosto, nid o fysg mawrion byd a phen- aethiaid y bobl, ond o blith pysgotwyr a phublicanod gwlad Galilea. Anogai hwynt i ymddwyn fel defaid yn nghanol bleiddiaid, ac i ymostwng am yr isaf i weini ar eu gilydd. Efe ei Hunan ydoedd yr esiampl fawr, " Yr Hwn pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn ; pan ddioddefodd ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn." Yr oeddynt i fyned rhagddynt, heb ddiffygio na digaloni, nes dwyn barn i fuddugoliaeth; ond yr oeddynt i orchfygu nid trwy lu, ac nid trwy rym arfau. Ysprydol ydoedd arfau eu milwriaeth hwy, sef, y genadwri am y groes a'r hanes am drefn i gadw. Traddodi hwnw oedd eu gwaith, mewn lledneisrwydd cariad, a chyda mwyneidd-dra doethineb. Ni osodwyd arnynt i orfodi neb, nac i arglwyddiaethu ar neb; trwy wasanaethu yr oeddynt i