Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. III PRIS CEINIOG. Rhii 1. WELYD (DARLUNIADOL.) CYHOEDDIAD ANENWADOL, ^lflf'jl" ATWASANAETH ~f^-fíf§^ YSCOLION SUL AC AELWYDYDD CYMRU. LLYFR NEWYDD. jfowti üliatt Ystwyth, ?ri$ 9qb flwen Glyndwr GAN L. J. R0BERT8, M.A. AROUYGYDD YSGOLION DYDDIOL. Dyma lyíryn hylaw yn ymdrin â Bywyd a Gwaith un o Brif Arwyr Cymru Fu, mi a aberth- odd lawer dros yr Hen Wlad, ac un y dylai yr oes hon fod yn gynefìn a'i hanes, yn neillduol felly pan y cyflwynir yr hanes hwnnw mewn modd mor ddyddorol, a chan un a gydnabyddir yn awdurdod ar " Owen Glyndwr." Llyfr a gryfha ein Cenhedlaetholdeb. o> Gyda DARLUNIAU o rai manau nodedig yn hanes y gwron. [CYNLLUN DDALEN.] OWEN GLYNDWR. wysog Cymru eu gilydd yn erbyn " Harri o Lancaster."* Un o bleidwyr mwyaf gwresog Owen ymysg y Ffrancod—neu efallai mai mwy priodol fyddai ei alw yn un o elynion mwyaf ffyrnig Harri IY.—oedd Jean de Hangest, Arglwydd Hugueville. Yr oedd ei holl íryd ar gynorthwyo Owen Glyndwr. Gwerthodd ei ystad yn Ayencourt,t a drwy gydweith- rediad Jean de Bieux, cadlywydd (Mareschal) Ffrainc, casglodd tua thair mil o fìlwyr. Yna, ar fore teg yng nghanol Gorffennaf, 1405, hwyliasant mewn chwech ugain o longau, a glaniasant yn Aber Dau Gleddau ym mis Awst. Croesawyd hwy yn llawen gan Owen Glyndwr, oedd â thua deng mil o filwyr yn eu disgwyl. Aeth y ddau lu ynghyd yn erbyn Hwlffordd. Yr oedd y Fflemingiaid yno, yn ol eu harfer, yn wrth- Gymreig eu teimlad, ac yr oeddynt yn awr yn ymladd yn selog dros frenin Lloegr. Wedi llosgi y dref, aeth y Cymry a'r Ffrancod ymlaen i Ddinbych y Pysgod,:j gan losgi a difrodi popeth oddiamgylch. Tra yr oeddynt hwy yma, Uosgwyd rhai o'r Uongau Ffrengig gan Arglwydd Berkeley, prif-lyngesydd Lloegr. Ar ol llosgi tref Caerfyrddin, aeth y cyngreirwyr ymlaen drwy Forgannwg hyd nes y daethant o fewn tua deng milltir i dref Caer Wrangon. * Gweler Rymer Foedera cyf. viii. t. 365, 382. Nid Agincourt fel y dywed Pennant. Tenby wrth gwrs ac nid Denbigh fel dywed rhai o'r haneswyr Seisnig. ARGREFFIR A CHYHOEDDIR OAN HUOHES A'I FAB, YN EU SWYDDFA, " PRINCIPALITY PRESS," OWRECSAM. VI