Symud i'r prif gynnwys

152 €ìn fiaelodau Seneaaol- X. Mr. EDGAR REE8 J0NE8, A.8. Nid aeth neb ond odid erioed i fyny o Gymru i St. Stephens yn dwyn gydag ef gynnifer o ddisgwyliadau cyfeillion a ehydnabod am ddyfodol gwych a gwrth- rych yr erthygl hon ; ac y mae yn amheus a gychwynnodd neb ar fywyd cyhoeddus a chynifer o argoelion y byddai iddo sylweddoli'r disgwyliadau uchel hynny a'r aelod ieuanc a n r h y d e d^'d u s dros fwrdeisdref Merthyr Tydvil. Y mae gan Gymru 34 o aelodau yn ei chynrychioH yn Nhy y Cyffredin ar hyd y blyn- yddau, ond gellir dweyd am ran helaeth ohonynt eu bod yr un mor gymwys i gyn- rychioH rhyw ran arall o'r wlad; ond yn awr ac eilwaith y mae rhyw un neu gilydd o'r ethol- aethau yn anfon cenad i fyny i'r Senedd y teimlwn fod Rhagluniaeth wedi ei godi a'i gynysgaeddu i'r pwrpas arbennig o fod yn llais i anghenion a dy- headau neilltuol y genedl. Un o'r cyfryw yw Mr. Edgar Jones. Y mae iddo alluoedd naturiol mor nodedig, a chafodd y rheiny wrtaith mor dda, fel y gwnai gynrychiolydd y byddai unrhyw ran o'r wlad yn falch o'i wasanaeth; ond tu allan i Gymru, byddai adnoddau yn ei natur yn gorwedd yn gudd, a byddai rhai o deithi mwyaf nodweddiadol ei gymeriad heb fodd na chyfle i ddatblygu. Cymro ydyw, a Darlun gan] [J. Harris, Station Street, Aberdar. Mr. EDGAR REES JONES, A.S. Chymro cyfan,—o waed, o anian, ac o dafod. Y mae yn ymgorfforiad byw o rai o bethau gore Cymru ieuanc effro, aiddgar, a diwylliedig. Fel y gŵyr pawb, ni chafodd ein gwlad ni gynrychiolaeth gywir iddi ei hun,—ni chafodd lais yn llefaru iaith a dymuniadau dyfnion ei chalon, cyn dyddiau y gŵr mawr hwnnw, Henry Richard. Efe oedd y cyntaf ddangosodd ar lawr y Tŷ fod i Gymru ei hysbryd a'i hangen ei hun, a'i bod yn haeddu ac yn hawlio triniaeth arbennig. Yna, yng ngoleu gwawr dydd newydd yn ein hanes fel cenedl oedd yn cyflym dorri, daeth y diweddar Tom Ellis, Mr. Lloyd George, y Barnwr Syr S. T. Evans ac ereill ymlaen, i fynnu cydnabydd- iaethymarferol o'n safle wahaniaethol drwy sicrhau y mesurau hynny yr oedd y genedl yn hir addfed am danynt. Dyna'r adeg y codwyd yr adeilad gorwych hwnnw, — cyfun- drefn addysg Cymru; ac y mae y genhedlaeth bresennol godwyd ac a feithrinwyd rhwng ei furiau eisoes wedi dech- reu dihuno i'w cy- fleusderau, ac yn awyddus am gym- eryd rhan deilwng yn nhrafodaethau pwysig eu gwlad a'u hymerodraeth. Blaenffrwyth y rhai hyn yw Mr. Edgar Jones, a chynnyrch union- gyrchol breintiau mawr y dyddiau diweddaf, fel y gellir edrych arno fel cynrychiolydd neilltuol y bywyd newydd cenedlaethol. Ganwyd ef yng Nghwmaman, Aberdar, a mab ydyw i'r Parch. M. H. Jones, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac yn awr