Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR GAiR 0 GYFARGHiAO. Aiì ol llawer o oedi, yr ydys o'r diwedd wedi pen- derfynu dwyn allan mewn eysylltiad â'r eglwys yn Stanley Road, Ys Ymwelydd Misol, fel y gwneir er's cryn amser gan amryw eglwysi cyf- agos. Credwn y ceir ef yn gyfrwng gwerthfawr i adrodd i'n gilydd hanes pob digwyddiad a gymer le yn yr eglwys. Credwn hefyd y ceir ei amryw erthyglau yn wir ddyddorol ac adeiladol. Gosodir y colofnau ohono, sydd yn hollol at ein gwasanaeth ni, dan olygiaeth ein hanwyl frawd, Dr. Robert Roberts,yr hyn sydd sicrwydd digon- ol ara chwaeth dda yr hyn oll a ollyngir i mewn i'r colofnau hynny. Erfynnir am dderbyniad calonog i'r Ymwelydd gan ein holl aelodau. Nid ydyni yn awyddus am ennill ariannol oddi- wrtho ; amcanion ereill sydd mewn golwg gen- nym. Ond yr ydym yn dra awyddus am iddo dalu ei fîordd, a pheidio bod mewn uu modd nac i unrhyw raddau yn faich ar gyllid yr eglwys. Ac os bydd gan frawd neu chwaer rywbeth ar eu medclwl i'w ddywedyd, anfoner yr ysgrif i'r Golygydd, a rhoddir i'w chynnwys yr ystyriaeth dclyladwy. Y mae yn ein mysg yr heddwch a'r tangnefedd mwyaf perfíaith ; a hyderwn yn fawr y parha y brawdgarwch. Dymunem hefyd ddefnyddio y cyfieustra hwn i ddatgan ein dioìchgarwch am y ffyddlondeb a ddangìiosir gyda holl waith yr eglwys ; ac i erfyn hefyd am iddo barhau ae ymledu. Gwnaed pob un ohonom ei oreu i beri i'r Achos Mawr yn ei holl agweddau fod yn fwy llewyrchus nag erioed. " Yn gwneuthur daioni na ddiogwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn." Yr eiddoch yn gywir, ' GRIFFITH ELLIS Caniataer i ninnau ategu'n galonnog yr apel uchod. Nid heb lawer o bryder yr ymgymerwn â'r gwaith newydd hwn a ymddiriedir i ni. Bydd- em yn rhagrithio pedywedemnadydywy gwaith wrth ein bodd ; addawn i ni ein hunain lawer o bleser yng nghyflawniad yr hyn a ddisgwylir oddiwrthym ; ac y mae'r gefnogaeth a addawyd i ni gan frodyr llenyddol yn ein plith yn rhoddi lle i ni gredu y bydcl ein cyhoecldiad yn deilwng o eglwys Stanley Road. Ofnwn, fodd bynnag, na roddir iddo'r derbyniad a haedda. Bydded i'r eglwys a'r gynhulleidfa ddangos fod ein hofn- au yn ddisail. A pheidier a disgwyl goirmod gennym yn y dechreu ; coíier fod y gwaith yn newydd i ni. Beth bjnmag am y Pwyllgor, 'prentis ydyw y golygydd yn hyn o waitli ; ond diehon y gellir dweyd am dano cyn hir ei fod yn improver. . " Caffed amynedd ei pherfîaith vvraith." Dymunem alw syìw at gyfarfod neu ddau sydd i gymeryd lle yn y dyfodol agos. Clru'efror 21, cynhelir cyfarfod blynyddol yr eglwys, a mawr hyderwn y bj/dd. i'r hoil aelodau wneud pob ymdrech i fod yn bresennol ynddo. Heiyd,ar Mawrth 8,cynhelir eyfarfod cystadl- euol o elan nawdd Cymdeithas Lenyddol ac Ysgolion Sabothol Stanley Road. Deallwn mai hwn ydyw y cyfarfod cyntaf o'r fath i'w gyrmal yn ein plith, a mawr hyderwn y gwneir pob ymdrech i'w wneud yn llwyddiant. Apel- iwn yn neilltuol at ein cyfeilìion ieuainc—cìros 16 oed—i lafurio ar ei gyfer, ac i anfon eu }ien\\T- au i'r ysgrifennydd mewn pryd. Fel y sylwyd gennym yn yr anercíiiad ynglyn âg adroddiad blynyddol y Genhadaeth Drefol, parha'r cyngherddau dirwestol a gynhelir yn York Hall bob nos Sadwrn yn hynod lewyrchus. Ceir cynhulliad Uiosoo- bron yn ddieithriad ; traddodir anerchiadau dirwestol sydd yn rhwym ni gredwn, o wneud lles ; a sicrheir cantorion o radd ucheî. Ie, darperir gwledd i'r corff hefyd, a'r oll am ddwy geiniog. Bydded. i'n haelodau gefnogi'r cyngherddau hyn â'u ])resenoldeb. Ymhlith y rhai a dclisgwyîir yn ystod Chwefror y mae " The Calcott Male Yoice Choir," " St. James'Mission Party,"" Miss MillicentRichards' Concert Party. Erfyniwn ar i ysgrifenyddion y gwahanol gymdeithasau anfon adrod.diad o gyfarfodydd y mis i ni yn brydlon. Hefyd, os fyclcl gan rhyw frawd neu chwaer rhywbeth y dymunai iddo ymddangos yn YTa Ymwelydd Misol—rhyw ysgrif i'w chyflwyno, rhyw ddiffyg i alw sylw ato, neu gwestiwn i'w ofyn, anfoner mewn pryd i'r golygydd. AMEN. Byb iawn, a digon cyffredin, ar ryw ystyr, ydyw y testyn uchod, ond gall fod mwy ynddo nag y tybiodd llawer un, ac y mae iddo hanes. Y mae yn y Beibl o leiaf bedwar o fathau o " Amenau." 1. Yr Amcn dechreuol.—Defnyddir hwn yn nechreu ateb a roddir i un a fo newydd lefaru, megis yn ateb Benaiah i Dafydd—" Amen, yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin." 1 Bren. i. 36. Gweler hefyd Jcr. xviii. 6. Yn wir, nid yw y geiriau sydd yn eí ddilyn ond aralleiriad o gynnwys yr Amen ei hun Prin y w yr engreifîtiau o'r Amen dechreuol yn yr Hen Destament, ond yn y newydd y mae tua phedwar ugain o honynt, a'r oll o'r bron yn yr Efngylau yng ngeiriau yr Arglwydd lesu. Yno, fe'i ceir wedi ei gyfieithu i'r ymadrodd " yn wìr,' ac yn Efengyl loan fe'i dyblir yn barhaus, " yn wir,yn wir," ac fe'i dilynir yn ddieithriad gan y frawddeg, " meddaf i chwi." Pe gadewsid ef heb ei gyfìeithu yma fel mewn mannau ereill,