Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR Golygydd Lleol —Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare R.oad. Adroddiad Bfynyddol yr Undeb YsgoSion. Mae yn debyg fod yr adroddiad hwn wedi dod i law y rhan fwyaf o aelodau yr Ysgol Sul. Mae yr Undeb i'w longyfarch am y modd destlus, cynhwysfawr, a chryno, y mae yn dwyn allan yr adroddiad yn y blynyddoedd diweddaf. Gobeithio ei fod yn cael ei ddarllen gan ein haelodau, fel y gallont weled y gwaith rhagorol a wneir gan yr Undeb. Ond ein hamcan yn galw sylw ato yn bennaf yw gweled pa le yr ydym yn sefyll yn y ddwy ysgol o'n cymharu âg ysgohon ereill y cylch. Mae yn perthyn i'r Undeb 51 o Ysgoíion Sul. Cyfartaledd Presenoldeb :—Yn Stanley Road, 57.1 y cant ; felìy y mae ugain o'r ysgolion yn sefyll yn uwch. Yn Bankhall 51.4 y cant,— 33 ó ysgolion yn uwch. JSTis gallwn deimlo yn foddhaol ar y safle hon yn ein ffyddlondeb i'r ysgol. Mae gwerth ac effeithiolrwydd gwaith yr Ysgol Sul yn cael ei golli i raddaii helaeth pan y mae 178 o aelodau Stanley Road ar gyfartaledd yn absennol bob Saboth, a 117 yn Bankhall, yn gwneud cyfanrif yn absennol bob Saboth o 295 cydrhwng y ddwy ysgol. Mae lle maAvr i wella. Feallai y bydd galw sylw at hyn yn werth i'r Cyfarfodydd Athrawon i geisio deffro yr esgeulus a helpu'r llesg. Yr Arholiadau.—Yr ydym wedi bod, mewn blynyddoedd blaenorol, yn sefyll yn llawer mwy anrhydeddus yn yr arholiadau nag yr ydym y flwyddyn hon. Dim ond 22 yn Stanley Road a 17 yn Bankhall wedi llwyddo yn yr Arhohad Ysgrythj^rol ; y Dysgu Allan, Stanley Road, 2, Banhhall, 1 ; yr Iaith Gymraeg, 9 yn Bankhall. Cerddorol, Stanley Road, 4 ; Banhhall, 14. Arholiad y Safonau.—Da gennym weled gwelliant yn yr Arholiad hwn. Saif Stanley Road yn 3ydd yn y rhestr, ond y mae Bankhaíl yn lled bell yn ol, sef 14eg. Mae hyn yn dangos fod gennym lawer o athrawon ffyddlon a medrus gyda'r plant. Nid oes unrhyw swydd bwysic- ach yn perthyn i eglwys Dduw. Bydded i bob athro fawrhau ei swydd trwy ffyddlondeb a diwydrwydd. Os oes athro neu athrawes anffyddlon yn y naill neu'r llall o'r ysgolion, cofied y cyfryw mai nid dibwys yng ngolwg y Nefoedd yw anffyddlondeb i ymddiriedaeth mor uchel. Nid ydym yn cofio fod ond un person wedi sefyll yr Arholiad Cyfundebol erioed o Stanley Road. Oni fyddai yn werth ceisio gan nifer sefyll yr arholiad hwn eleni. Byddai astudiaeth drwyadl o'r maes yn sicr o fod ÿn fendith i'r sawl lafuriant ar gyfer sefyll arholiad. Pwy rydd symbyliad i sefydlu dosbarth ar gyfer yr arhohad hwn y tymor nesaf ? Dywedwn eto : Darllenner yr adroddiad yn ofalus, a gofynned pob un y cwestiwn iddo ei hun : A wneuthum i fy rhan gyda'r Ysgol Sul yn ystod y flwyddyn trwy òrydlondeb, cyson- deb, a ffyddlondeb, yn y .gwaith sydd wedi disgyn i fy rhan fel swyddog, athro, neu ddisgybl ?—L.R. -G Cysegredîgrwydd y Saboth. Galwyd sylw arbennig at y pwnc hwn yn y Gymanfa gynhaliwyd yn Llanelli ym Mehefin. Anfonwyd allan gylchlythyr ar y mater, gyda dymuniad ar ei fod yn cael ei ddarllen ymhob cynulleidfa ac Ysgol Sabothol perthynol i'r Cyfundeb. Anogid hefyd ar fod sylwadau yn cael eu gwneud ar ei gynnwys. Dyfynwn un paragraff :— " Mae y Saboth yn sefydliad nas -gellir ei esgeuluso heb niweidio y Wladwriaeth, yn gymdeithasol, yn foesol, ac yn grefyddol. Mae natur ei hun yn galw am dano fel dydd o orffwysdra, ac yn cosbi y cenhedloedd sydd yn ei esgeuluso. Mae holl olwynion cymdeithas yn galw am dano, ac yn aneff- eithiolhebddo. Maemoesoldeb gwlad ymhob ystyr yn dioddef os na chadwn ef. Ónd yn bennaf oll, y mae crefydd yn y perygl mwyaf o golli ei gafael ar y wlad neu y genedl a'i hesgeuluso. Y gorchymyn ydyw, ' Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Saboth.' Yn yr ysgol yn Stanley Road, Awst lleg. darllennodd Mr. John Davies, yr arolygwr, y cylchlythyr, a gwnaed sylwadau rhagorol gan Mr. Robert Parry (Madryn), a Mr. Hugh Roberts. Darhenwyd y genadwri eilwaith yng ngwas- anaeth yr hwyr, ac yna cafwyd anerchiad grymus gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Dyfynnodd i ddechreu Esaiah lviii. 13, 14, " 0 throi dy droed oddiwrth y