Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymracs. CYF. XIV.] MAI, VJ10. [RHIF 164. Gymdeithas y Merched ieuainc, Llangoed. Dw.y flwydd oed yw y Gangen hon. Cyehwynwyd gyda rhyw haner ■dwsin o aelodau, ond gwelir oddiwrth y darlun fod cynydd mawr wedi cymeryd lle. Ar y dechreu, cadwyd y cyfarfodydd bob pyth- efnos, a cheid adrodd, canu, a thestynau i ddadleu a siarad arnynt. Yr ail auaf, trefnwyd i gael gwnio yn y cyfarfodydd, a'u cynal bob wythnos. '1 refnwyd hefyd i gael tê bob pythefnos. Y nòd oedd casglu digon o arian i gael Piano i Neuadd y Pentref. Rhoddid y te gan aelodau oeddynt yn selog gyda'r gwaith, a chan rai o aelodau Cangen y Merched. Yr oedd pob aelod yn rhoddi tair ceiniog am y te,. a chyda'r arian bwriedid prynu defnyddiau i'w gwnio. Ond ni fu angen prynu. oherwydd daeth defnyddiau yn rhad. Rhoddwyd arian y te a'r arian dderbynid am y dillàdau yn y Banc. Yn ystod y gáuaf presenol, llogwyd ystafell i gynal y cyfarfodydd. Ymunodd Cymdeithas y Blodyn Gwyn (Snowdrop Band), a chafwyd cyfarfodydd gwnio, a the, yn ystocî pa rai y ceid cynghori, canu, adrodd, a phapyrau, &c. Ỳr oedd rhai gwyr ieuainc hefyd yn eu horiau hamddenol wedi bod wrthi gyda chelfyddydwaith i'r un amcan. Chwefror 24, 1910, oedd y diwrnod benodwyd i werthu y nwyddau, &c. Daeth Mrs. Davies, Ceris, i agor y Ẁerthfa. Ár y cyntaf nid oeddid- yn meddwl am ddim ond ryw ddwy siop, un i werthu y nwyddau a wnaed yn y cyfarfodydd, a'r llaîl i werthu nwyddau