Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

208 Y Tyst Dirwestol. LLrYFRAU. o—o—o Cadifor, Tywysog Eryri : —Chwareu gcrdd gan J. Lloyd Williams a Llew Tegid. Llyfr Geiriau—Cynhwysa ryw 62 tudalen o'r ymddiddan mwyaf bywiog. Rai blyn- yddau yn ol cawsom yr hyfrydwch o wrando y chwareu gerdcl ardderchog hon yn cael ei pherfformio gan nifer o efryd- wyr Coleg Bangor. O'r diwedd dyma hi genym yn argraffecìig. Ystyriwn hi yn drysor gwerthfawr iawn. Maerr plot yn un eyffrous. Mae Cadifor wecli ei adael heb dad yn ngofal ei fam Rhianon, y tywysog yn ddim ond plentyn a'r amserau yn rhai enbyd. yn galw am ddyn cryf i lywodraethu. Del Bledclyn Tywysog Deheubarth ar ymweliadaChastell Madog yn Eryri gyda gosgordd gref, neges hon- edig yr ymweliad yw edrych hynt y tywysog bach a'i fam, ond y wir neges yw ei roddi i farwolaeth, a rhoddi yr awdurdod yn llaw Bleddyn. Brochwel y Pen Cynghor- wr yw ysbryd drwg y weithred front. Ond nid yw y brad yn llwyddo, ond rhwystrir ef gan waith Rhys Glorwr a'r Wrach Gwenlliw. o—o—o Cylch Abrcd: neu hanes Trawsfudiad. Gan Nel Wyn. Cyfres ' Chwedl a Gwers.' Pris 6c. Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon. Wel, dyma siori wrth fodd calon plant Cymru. *'Nel Wyn ' ydyw enw neu fiug- enw yr awdures, ond y mae rhyw aderyn wedi sisial yn fy nghlust mai Llew Tegid ydyw 'Nel.' Llylr i blant Cymru ydyw hwn. Cred rhai pobl fod ysbryd dyn wedi marw yn myn'd i breswylio i ryw gre- adur neu gilydd. J )yma i chwi hanes dyn o'r enw Braham Ahmed yn ei hynt 0 un cyfîwr i'r llall Dechreua yn ddyn yn yr India, lladdwyd ef gan neidr, a chafodd ei hun mewn gwahanol ffurfiau.J yn hydd, yn wydd, yn bathew, yn gawrfil ac yn for- fil, a daeth yn ol drachefnyn ddyn Mae'n rhyfedd genym os na fydd darllen mawr ar y llyfryn difyr. Pryned rhieni ef os yn awyddus i gael eu plant i ddarllen llyfrau Cymraeg, a rhont hwn yn eu dwylaw, ni raid pryderu na ddarllenant ef drwodd. o—o—o Cymriir Plant. Y Ce?ddor. Yr Ym~ welydd Misol. Swyddfa Plughes a'i Fab. Gwrecsam. Mae'r tri am Dachwedd ger ein bron, ac y maent yn fyw a blasus fel arfer. Ceir darlun o'r Parch J. Hughes, Lerpwl, yn yr 'Ymwelydd.' Y mae y ' Cerddor' yn llawn fel arfer : gresyn fod y print mor fan hefyd. o—0—0 Cymanfa Ddirwestoi Gwynedd. Ad- rodcliad y Cyfarfod Blynyddol. — Ceir hanes cyflawn o'r gweithrediadau yng Ngholwyn Bay. Cynhwysa hefyd yr ad- roddiad gwerthfawr a ddarllenwyd ar y pryd gan Huwco Penmaen o hanes Cym- anfa Gorllewinbarth Dinbych, a chan Miss Prichard o eiddo Undeb y Merched. M yr Aniddig- Mae'tb faich yn fîinderus, gwn hyny yn dda ! Ond mae eraill dan fsichiau'n llawn cymaint eu pla, Ac y'nt yn cwyno ; Mae rhai yn ddiolchgar os cant ar eu taith, Ryw 'chydig o hindda, a haul arnbell tuaith, Cyn myn'd i orphwys. Wyt unig, 'rwy'n gwybod ; maeeraill 'r un fath, Ond nid 'ynt yn chwerw, ac ni roddant frath Ar a;r nac ar weithred : Maent hwy yn cael o'r llawenydd sy' draw— Mae'r fendith i tithau yn hwylus wrth law, Pe baet ond yn gweled. Mae'r byd niegis drych yn adlewyrch pob peth, Trc ato mewn gwg a chcì wg yn ddi feth ; Cei'r gwir ar dy gyfer ; Tro ato yn llawen a siriol dy wedd, Da'.\ heulwen i'th enaid, a chariad a hedd, I dreblu dy bleser. I'r rhai sydd yn llawen mae pobman yn rhydd— Mae gormod yn llwfr, ac maegormod yn brudd, Ymhlith ein cyd-ddynion ; Dos rhagot dan ganu, 'd yw'r ffordd ddim yn hir— Or.d edrycb i fyny daw'r awyr yn glir, A llonir dy galon. Cyí. GWRTHEYRN