Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fapppR.Y.tëYMRYi 3kt ma*mmttî\ €itẃ&mîmthf &t*t gn mhîitít B ^smrg DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. MEHEFIN, 1887. Rhif. 47. CYNWYSIAD. Y diweddar "Ceiriog" ........ Yr Ysgol Gerddorol ............ Hen Alawon ......... ........ Nodau beirniadol.ar fywyd ac athrylith Mozart Rhestr o enwau prif Gerddorion ......... euawd—Y Glowr a'r Morwr ....... 33 33 34 85 35 Y DIWEDDAR " CEIRIOG." fMAE Mr. Nicholas Bennett, Glanyrafon, ger Trefeglwys—hen gyfaill i'r diweddar Ceiriog Hughes—-wedi bysbysu ei fod wedi — derbyn yr englyn canlynol oddiwrth Ceiriog, yr hwn a ddywedai ar y pryd ei fod am ei gaeí ar ei feddfaen ;— " Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd, Oarodd fyw'n naturiol: Carodd gerdd yn angherddol, Dyma ei lwch, a dirn lol." Yn ei ewylìys, hefyd, dywedai ei fod am gael angladd anghyhoedd, a'i gorff i'w gladdu yn mynwent Llanarmon. Dyffryn Ceiriog. a bod tablet ei goffadwriaeth i gael ei rhoddi vn yr eglwys blwyfol, yn a<?ns i eiddo ei fam. Ei fod yn dewis gwasanaeth Eglwys Loegr wrth ei gladdu, a bod cais i'w wneyd am blanu ywen Wvddelig uwchben ei fedd. Y mae ein beirdd, fel ein cerddorion, yn cael eu tori i lawr yn gvnarol : dim ond 54 oed oedd yr enwog Ceiriog Hnghes ! Efe oedd Bardd- gerddor goreu y genedl. Y mae bron yr oll o'n cerddorion goreu yn feîrdd iawn hefyd. ac efallai mai ychydig o farddoniaethy mae y rhan am'af o honynt wediei osnd allan mewn geiriau. Ychydig iawn o'n beirdd goreu sydd yn meddu clust y cerddor ; gan hyny, ychydig iawn o'u barddoniaeth svdd ynganadwy. Pe gellid—ac fe ellid—gosod meddylddrychau godidog y prif- feirdd. yn eu hawdlau pengamp. mewn llinellau rhyddion—pe cymerai rhywun cymhwvs at hvnv —ceid felly ganeuon ymarferol er eu priodi â cherddoriaeth. Carai Ceiriog, meddai, "eiriau cerddorol;" pwy o'n cerddorion, gan hyny, na'i °arai yntau ? Ychydig iawn o gyfathrach personol fu ^yngom ni a Cheiriog ; eto dygwyddodd i ni öaraw arj'ei gwmni rai^troion, a dìfyr, os nad buddiol, oedd ei gyfeillach. " Carodd feirdd," meddai; carodd gerddorion befyd. Cyfiawnodd ef, yn nghwmni y diweddar Owain Alaw, waith mawr ; a gwnaethant wasanaeth i farddoniaeth a cherddoriaeth yn Nghymru. Cenir clod y diweddar Brinley Richards, ond pwy wnaeth y gân i'r Tywysog ] Byddai yn anhawdd peidio canu yn dda ar y fath beniDion swynol; er, rhaid addef, fod y felodedd yn dda odiaeth. Eto y geiriau dynodd y cerddor allan. Ychydig iawn o glod gafodd Ceiriog yn y fustes hon ! Mae gan bron bob un o'n cerddorion blaenaf ddarn o gerddoriaeth dda a phoblogaidd ar eiriau o waith Ceiriog. Ni fyddai yn weddus i ni enwi y cyfryw yn awr; gŵyr ein cerddorion am danynt heb i ni eu henwi. Credwn fod y rhan fwyaf o ganeuon Ceiriog wedi eu hymbriodi â cherddoriaeth gan wahanol gerddorion ; ond efallai na cha llawer o honynt weled goleu dydd, am eu bod yn feddiant i gy- hoeddwr neilíduol. Yr ydym wedi cynghori rhai i fod yn ofalus Geìlid ysgrifenu llawer ar Ceiriog yn ei gys- ylltiad cerddorol; ond efallai fod amryw o'n cerddorion yn fwy cymhwys at hyny na ni. Beth am Mr. Emlyn Evans ? Daeth efe i gyff- yrddiad aml ag ef. Dymunwn heddwch i'w îwch, a syrthied deuparth o'i ysbryd ar ein beirdd ieuainc. YR YSGOL GERDDOROL. Gwobrau ! Gwersi ! ! Gwobrau ! ! ! (Diolchir i bersonau am gynyg gwobrau, gyda thestynau, i'r adran hon, er líes ein cerddorion Bydd hawl gan roddwyr y gwobrau i nodi beirniaid eu hunain.,> Gwobrau Dau Fisol. Rhif. III. (39).-Cyfres IF.-ChwechoWersi Gwe^er ein rhifyn diweddaf am fanylion y testyn hwn. Testyn Rlûf. II (38). don." -"Am yr Antbem- Y FEIRNIADAETH. Derbyniwyd naw o gynyrchion ar y testyn hwn—rhai lled dda i gyd ; ond o'r braidd y gellir dyweyd fod un o'r ymgeiswyr wedi cynyrchu