Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR, À GYHOEDDIR DAN NAWDD AC AWDURDOD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. . " Dyrchafion faner yn enic ein Duw."—Salmydd. Rhif. 2.] MEDT, 1840. [Pris 3c. PREGETH, A DRADDODWYD GAN T PARCHEDIG JOHN PHELLIPS, TREFFYNON, ODDIWRTH RHtTF. XIV. 18. Canys yr hion sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion" [Parhâd o iu dal. 6.] 2. Os wyt ti am ddilyn yr Oen, ac am ẃeithredu oddiar yr un egwyddorion a Mab y dyn, rhaid i ti, nid yn unig ymatal á phethau cyfreithlon" ynddynt eu hunain, os bydd hyny yn angenrheidiol tuag at wneuthur'daioni, eithr hefyd, rhaid i ti osod dy wyneb trwy bob dylanwad o fewn dy gyrhaedd yn erbyn yr hyn sydd ddrwg, a gwisgo pob arf angenrheidiol tuag at dori ei goffa ef oddiar wyneb y ddaear. Prif amcan ymddangosiad Arglwydd y gogon- iant yn y cnawd, a'i weithredoedd ef ar y ddaear, oedd ymlid pechod allan o'r gread- îgaeth resymawl; ac i*r dyben hwn nid yn unig efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas, -eithr efe hefyd a osod- odd ei wyneb fel oallestr yn erbyn y gelyn, ac a gyhoeddodd ryfel yn erbyn drygwyr dynoüaeth, îe, i'r dyben o warthruddo cam- wedd, ac o ddiddjonu pechod, ac o achub pechaduriaid, efe a wisgodd wisgoedd d'íal yn ddillad, 'íe, gwisgodd zèl fel cochL ac a rodiodd i drigfa'r dreigiau, gan ddywedyd, " O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi- ■wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau : byddaf drangc i ti y bedd: cuddir edifeirwch o'm golwg." Yr oedd ef, nid yn unig trwy esiampl, ond hefyd trwy ei eiriau, yn dysgu, yn cyng- hori, ac yn rhybuddio, wedi llwyr ym- roddi tuag at gael pechod i warth, a thuag at gael pechaduriaid o faglau llygredigaeth. Dilynwyd ef yn hyn gan ei apostolion oll, ac y mae yn ofynol ar bawb a broffesant ufudd-dod i'w ddysg- eidiaeth ef, weithredu yn ol yr un rheol : ac onid at hyn yma y gelwir paẁb gan Gymdeithas Dirwest? Y mae'r miloedd galwyni o ddiodydd meddwawl a ddosparth- ir trwy'r byd, fel gwlawogydd trymion yn disgyn ar ddaear meibion dynion; ac wele ! yn tarddu i fynu gynhauaf toreithiog o ddrygioni, ocheneidiau, dagrau, wylofain, a gruddfanau! y mae'r dagrau yn syrthio i'r ddaear mewn distawrwjdd, a'r ocheneidiau yn cael eu taflu i dir angof, ond y mae'r drygioni fel pla dinystriol yn cael ei dros- glwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth; y mae'r meddwdod o hyd yn aros, ac yn par- haus agor llifddorau Uygredigaeth, gan ollwng y gelyn i mewn fel afon, yr hwn yn ei rwysg sydd yn lladd ei filoedd, ac yn distrywio ei fyrddiwn. Y mae'r achlysur o hyn oll yn yr arferiad o yfed diodydd meddwawl, a phe byddai yr achlysur wedi ei symud, darfyddai'r effaith o angenrheid- rwydd; gan hyny, wele'r Gymdeithas^hon wedi cael allan foddion, ond ymarferyd â hwynt, i lwyr ddileu meddwdod allan o'r tir, ac yn awr, fy nghyd ymdeithydd tua'r farn, onid ydyw yn ddyledswydd arnat i ddefnyddio'r moddion hyn? oni ddylit ti