Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. A GYHOEDDIR DAN NAWDD AC AWDURDOD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. Dyrchafwn faner yn enw ein Duw"—Salmydd. Rhif. 3.] HYDREF, 1840. [Puis 3c. SYLWEDD PREGETH, GAN Y PABCH. LOT HUGHES, DOLGELLAU. u Ac edrychwch arnoch eich hunain, hau trwy lythineb a meddwdod, ddisymwth"—Luc xxi. 34. Mae ein testyn wedi cael ei lefaru gan ein Harglwydd Iesu Grist, a hyny wrth ei ddisgyblion, gyda gofal mawr am eu de- dwyddwch rhag llaw; a hyny pan oedd dinystr Jerusalem a'r deml yn ymyl. Ac yna mae geiriau y testyn yn dyfod i mewn, a than ein hystyriaeth, " Ac edrychwch arnoch eich hunain," &c. Mae rhai yn diystyru y Dirwesíwyr, am eu bod yn profi eu siampìau, ac yn cadarnhau eu hareithiau oddiwrth yr Israeliaid yn yfed dwfr pan ar eu taith trwy anialwch maith Arabia, a meibion y Rechabiaid yn gwrfhod yfed gwin gan y prophwyd (Jer. xxxv. 6) ; a Daniel a'i gyfeillion duwiol yn gwrthod rhan o fwyd y brenin, a'r gwin a yfai efe (Daniel i. 8); ond wele ni heddyw wedi cael testyn ag sydd wedi ei lefaru gan ein Harglwydd ei hun, a hyny wrth ei anwyl- iaid yn y byd drwg,—" Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonau un amser drymhau trwy lythineb a meddw- dod."—Mae y gwaharddiad lnvn i'r cy- medrolion yn gystal a'r meddwon—i'r duw- iolion yr un modd a'r annuwiolion. Yma ni a gawn ystyried y pethau can- lynol:— L- Meddwdod yn ei natur. II. Meddwdodyn ei effeithiau. III. Meddwdod yn ei ganlyniadau. TV. Ycynyhor dwys a difrifol a roddir,— " Ac edrychwch arnoch ein hunain" rhag y pechod o feddwdod, " a dyfod y dydd hwnw arnoeh yn ddisymwth." rhag i'ch caìonau un amser drym- a dyfod y dydd hwnic arnoch yn Mae y gair meddwi wedi ei gymeryd oddiwríh y gair meth-win, nen win-meth : byddent yn arferol o wneyd diod oddiwrth fê!, a elwir meth; ac ar ol (i'r dynion) yfed yn helaeth o'r ddiod fethaidd, jma meddwant,—ac ar ol hyny mae pob un a yfa wlybwr meddwól mewn perygl ofeddwi; o herwydd ei fod yn effeithiaw ar y cyfan- soddiad dynol: ar y corff a'r enaid. I. \tl awr sylwn ar y pechod ofe.ddwdod yn ei natur. 1. Mae meddwdod yii arwyddo yí'ed un- rhyw wirod neu wlybwr meddwol : " Na fydd yn mysg y rhai sydd yn meddwi ar win." (Diar. xxüi. 20.) 2. Mae meddwdod yn ufydd-dod i hudol- iaeth syfrdanllyd; " Ac er hyny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusas- ant trwy ddiod gadarn; yr offeiriad a'r prophwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difäwyd hwy gan win, cyfeiliorn- asant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn." (Esay xxviii. 7.) 3. Mae meddwdod yn peri poenau, cys- tuddiau, a gofidiau mawrion ; " Fel hyn y dywed Arglwjdd Dduw Israel, Pob costrel % lenwir à gwin. A dywedant wrthyt tî, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel à gwin ? Pel hyn y dywed yr Ar- glwydd, Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, Ye, y breninoedd, yr offeiriaid a'r prophwydi, a holl breswylwyr Jerusa- lem, â meddwdod. Tarawaf hwy y naili.