Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y ©IBWE^TWM. DAN NiWDD CYMANFA DDIEWESTOL GW^NEDD. " Ffrtcyth yr Ysbryd yio—Dirwest." g»aaj<KWBi ■■■■ ■ ■ iM—i—i.iiniBiii.iim Cyf.II.] MEDI, 1841. [Rhif. XIV. ARDYSTIAD CYMANFA DIBWEST GWYNEDD. Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i Iwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwól; i beidio na rhoddi na chynyg y cyj'ryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrtíi- sefyüyr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." SYLWEDD PEEGETH ODDIAR SALM XXXVII. 27. GAN T PARCH. WÍLLIAM HUGHES RICHAROS, O R AMERICA. " Cilia di oddiwrth ddrwg." O D y fath beth a drwg yn y byd, sydd amlwg oddiwrth reswm ac ysgrythyr. Y mae drwg naturiol, ac y mae hefyd ddrwg moesol. Wrth ddrwg naturiol y meddylir gwendid corfforol, afiechyd, adfyd, poen, marwolaeth, gwallgofrwydd, a chyffelyb bethau. Wrth ddrwg moesol y meddylir annghydffurfiad á chyfraith Duw, a thros- eddiad o honi: megys, aflendid, anghyf- iawnder, twylL, ac anngharedigrwydd; mewn gair, pob pechod. Yr ydym yn condemnio rhai gweithrediadau yn ereill ac ynomeinhunain fel yn ddrwg ac yn haeddu cospedigaeth: megys. anonestrwydd, llad- rad, creulondeb, a llofruddiaeth: ond yr ydym yn myned yn mhellach na hyny : Yr ydym yn gweled fod rhai tymherau ynom ein hunain ac ereill yn arwain i weith- redoedd drwg, megys ceníigen, llid, malais, a thrachwant; ac oblegid hyny yr ydym hefyd yn eu condemnio fel rhai drwg. Y mae yr Arglwydd yn gwneuthur yr un peth â ninau, mewn perthynas i'r cyfryw weith- redoedd a thymerau, yn ei air a'i raglun- iaeth : yn ei air trwy wahardd pechod mewn meddwl, gair, a gweithred, a thrwy fygwth cosp ofnadwy a thragwyddol ar y troseddwr, ac yn ei ragluniaeth trwy gysylltu gofid a thrueni gyda phechod fel ei ganlyniadau echrydus. Yr ydym yn dysgu fel hyn fod pechod bob amser yn cael ei ddylyn â gofid, a'i fod yn ddinystriol i'n dedwyddwch, ac yn cael ein hanog i'w gashau a'i adael. Eíe yw gwir achos yr holl drueni ag sydd yn y byd ; a phe gwaredid ni oddiwrth: bechod a'i effeithiau, gwaredid ni ar unwaith oddiwrth bob drwg. Gwahardda i ni gan hyny bob pechod yn ei air santaidd. " Cilia di oddi- wrth ddrẁg," hyny yw, oddiwrth pob drwg—drwg o bob natur—drwg yn gy- ffredinol. Oddiwrth y geiriau sylwn, yn I. Owahardda yr Arglwydd i ni bob pechod mewn gweithred, megys annuwiol- deb, annghyfiawnder, anrhugarogrwydd, a phob arìendid. Gẁahardda i ni eilun- addoliaeth, cymeryd ei enw mawr yn oí'er, a halogi y Sabboth; llofruddiaeth, Iladrad' creulondeb, annghyfiawnder, ac annhirion- deb; godiiieb, atìendid, ac annghymedrol- deb mewn bwyta ac yfed, mewn éysgu, ac yn y mwynhad o'n holl chwantau anifeil- aidd. Gwel Exodus xx. " Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygionì eich gweithredoedd oddi ger bron fy lly - gaid ; peidiwgh a gwneuthur drwg," Esay i. 16. Ezec.x*iii. 30, 31. "Ganeindysgu ni i wadu annuwioldeb, a chwantau bydol, a byw yn sobr, yc gyfiawn, ac yn dduwioì