Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA :DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNBDD. Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lw\r-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol ; i beiilio na rhoddi na rhynyg y cyfryw~i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Anughy- medroldeb." CYF. III.] EBRILL, 1842. [RHIF. XXI. ANGEU TRWY YFED DIODYDD MEDDWOL. RHODDODD John Henry Gell, Ysw. Coroner tros Westminster, yr hysbysiad canlynol am farwolaethau a ddaeth o dan ei ymehwiliad mewn uu fiwyddyn, y rhai y cafwyd allan mai yfed y diodydd meddwol a fu y prif aehos o honynt 1. James Phillips, 40 oed, wedi boddi yn ddamweiniol. Buasai yn yfed.—Gorph. 27, 1833. 2. Elizabeth Martin, 64 oed, wedi llosgi yn ddaniweiniol; yr oedd ynfeddw pan gy- merodd ei díllad dân.—Awst 5, 1833. 3. Allan Alliugham, 72 oed, marw yn ddamweiniol, trwy gwymp; yr oedd yn feddw ar y pryd.—Awstl(J, 1633. 4. Alexander Macpherson, 45 oed, marw yn ddamweiniol, trwy godwrn; ynfeddwy pryd hyny.—Awst '26, 1833. 5. John Jacob Schmid, 32 oed, marw oddi wrth iddo dori ei wddf pan oedd ei feddwl wedi ei gynhyrfu trwy yfed gormod. —Awst 30,1833. 6. George Bathurst, 33 oed, a gaed wedi boddi; yro?dd ganddo £400 wedi eugad- ael iddo pau ddechreuodd ymroi i yfed, a byddai weithiau yn wallgof, o dan ddylan- wad gwirod.—Medi 13, 1833. 7. Mary Steers, 55 oed ; cafwyd wedi boddi : buasai yn yftd.—Medi 30, 1833. 8. James Horam, 45 oed; marw yn ddamweiniol, trwy godwm, pan yn feddw. —Hyd, 11, 1833. 9. William Williams, 55 oed ; apoplcxy; buasai yn yfed y nos o'r blaen, yr oedd yn ddarostyngedig i lewygon oddi wrtii yj'ed.— Tach.l 1.1833. 10. Susan Steward, 33 oed ; bu farw trŵy yfed i ormodedd. Yr oedd mewn am- gylchiadau gweddol dda.—Tachwedd 29, 1833. 11. Henry Higgens, 48 oed ; apoplexy ,- wedi ei achosi gan r/fed gormodol.—Tach. 30, 1833. 12. John Dunn. 37 oed ; apóplexy; bu- asai yn feddw bob dydd.—Rhagfyr 17, 1833. 13. EÜza Briganshaw, 20 oed .' a gafwyd wedi boddi : yr oedd wedi troi yn butain | ar yr heol ; dy wedasai pan mewn gwirod, y í boddai, neu y gwenwynai ei hun. 14. Richard Hurlès Pontifis, 40 oed ; 'j gwallgo/wyd, ac a gafwyd wedi ymgrogi; I deuai yn fyhych adref yu feddw, lawer o'r j nos.— îon. 25* 1834. 15. John Rearnes, 30 oed; gweithiwr | gydag adeiladwyr priddfeini; marw trwy I ymweliad Duw ; buasai yn yfwr mawr ar ! amserau ; yr oedd ynfeddw y nos oflaen et. farwolaeth.—Ebrill 3, 1834. 16. Wm. Duggind, 40 oed ; bufarw trwy yfed gormodol; yr oedd yn ddyn mewn sef- yllfa dda.—Ebrill 23, 18"34. 17. Edward Rowley, 22 oed; boddi yn ddamweiniol; buasai yn yfed ar hyd y dydd, aeth i'r dwfr, gaüasai iwfio, ond suddodd heb symud.—Msá2\, 1834. 18. Robert Blair, 39 oed; gwallgof- rwydd, gwenwynodd ei hun; yr oedd ei wraig wedi ei adael mewn canlyniad i'w arferiadau meddwol; yr oedd wedi bod yn yfedcya cvmeryd gwenwyn.—Mehefin 12, 1834. 19. James Brittlebank : marwolaeth naturiol ; yr oedd yn feddw, a buasai yn ymladd ; tân-iddew, (erysìpeles,) a fu y canlyniad.—Meh. 25, 1834. 20. Thomas Sims, 55 oed; gwallgof- rwydd, torodd ei„wddf; meddwyn mawr, yr oedd yn feddw cyn cyflawni y weititred.— Meh. 25, 1834. 21. Wm. Keith, 35 oed; boddi yn ddam- weiniol; gallasai nofio ; búaaai yn yfed cyn