Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD. "' Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrtbod â Gwlybwr Meddwol ; í beidio na ihoddi na ohynys y cyfryw i tieb arall ; ac yn mhob modd i wrthsefyîl yr achosion a'r achlysi medroldeb." ysuron o Annghy- CYF. III.] AWST, 1542. fRHIF. XXV. SYLWADAU AR FEDDWDOD, A'I EFFEITHIAU AR Y CYFANSODDIAD DYNOL, A'R TRÜEM ANRHAETHOJ. Y MAE Y DIODYDD DINY8TRIOL HYN YN EI DDWYN AR DDYNION YN YR YMARFERIAD O HONYNT. YR elfen sydd yn peri meddwdod yn mhob diodydd meddwol yw y peth a elwir Alcohol: cymaint o'r elfen hon ag sydd gynwysedig uiewn gwin, porter, cwrw, a gwirodydd ereill, dyna yr hyn sydd yn peri meddwdod. Mae yr elfen hon, ynddi ei hun, ac heb ei chymysgu â gwlybyron ereill, mor llymdreiddiol fel nas gellidder- byn ond ychydig iawn o honi i'r cylla heb iddi fod yn angeuol ; am hyny nis gellir ei defnyddio heb ei chymysgu â rhyw wlybyron ereill; ac felly mewn amrywiol raddau o gymysgiad y mae yn cael ei defn- yddio, o'r gwirodydd poethaf hyd y ddiod wanaf. A chan fod mwy o'r elfen hon yn cael ei chynwys mewn gwirodydd poethion nag mewn diodydd meddwol ereill, dynayr achos paham y maent hwy yn gweithredu yn fwy grymus ar y cyfansoddiad dynol, ac yn peri meddwdod yn gynt na diodydd llareiddiach ; a phan y mae dynion yn cy- meryd yr unrhyw i raddau gormodol ar un waith y mae'r effeithiau yn mron yn ddi- attreg—Ueddfir y synwyrau, a chyfnewidir ansawdd y corff yn ebrwydd—teflir pob nerve o'i phriodol weithrediad, yr hyn sydd yn gosod y dyn yn y perygl mwyaf. O drueni mawr y natur ddynol! Y Duw mawr wedi gosod deddfau natur i ddyn i weithredu bob ffordd er ei les, ac yntau yn defnyddio moddion i ddyrysu gweithrediad- au y deddfau hyny er ei ddinystr ei hun. O resyni mawr, a sarhad ar waith yr unig ddoeth Dduw! oblegid pan yfir y diodydd afreidiol hyn, y maent yn ebrwydd yn twymno y gwddf, y fynwes, a'r cylla, ac oni bydd yr yfwr wedi ymarfer gryn lawer â hwynt, fe gyfyd gwrid annaturiol i'r wynebpryd, ac efallai y daw dagrau o'r llygaid, yr hyn sydd yn dangos yn amlwg fod eu hyfed yn artaith ar y cyfansoddiad, a chewch weled fod y rhai sydd yn my- nych arfer eu hyfed yn myned yn gyffred- in yn llesg o gorff, yn salw o wedd, a'u llygaid yn bantiog, a henaint anmhrydlawn yn eu goddiweddu yn fuan, a chewch eu gweled hwynt hefyd, o herwydd yr awydd hulodaethus i'r lìymaid, yn gyntaf peth yn y bore yn cymeryd gwydryn o hono, ac felly yn lleddfu eu chwant i'w boreubryd, a thrwy hyny yn gosod eu cylla i ballu yn eu dyledswyddau. Onid yw hyn yn sarhad ar Awdwr natur, ac yn bechod dirfawr ? Dyn yn tynu, trwy ymarferyd â diodydd afreidiol, efTeithiau afiach arno ei hun. Nid yw pob dyn ag sydd yn ymarfer â hwynt ddim felly, meddai rhyw un. Ydyw pob dyn, meddaf innau. Er, fe ddichon corff o gyfansoddiad cryf, yn enwedig gyda llafur dygn a dyfal, wrthsefyll ei niweidiau amryw flynyddau, eto y mae rhai o'i beir- iannau corfforolaf yn cael eu hanmharu yn íuan, ac felly ynpallu yn eu dyledswyddau, a hyny yn dechreu meithrin anhwylderau, y rhai, oni ymattelir oddi wrth yr achos o honynt, ynt yn sicr o ddinystrio y dyodd- efydd. Cedwch yn mhell, fy anwyl gyd- ddynion, oddi wrth ddrws ei thŷ hi, oblegid oi thraed hi a ddisgynant i angeu, a'i cherddediad a sang uffern. Mae y diodydd meddwol, yn y lle cyntaf, yn niweidiol iawn i'r afu. Yn mhob naw allan o ddeg o bobl sydd yn arfer yfed y slotiach poethion, mae yr effeithâu yn gweithredu ar yr afu, a hyny trw y beri enyniad (inflamation) ynddi, drwy hir