Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl ; i beidio na rhoddi na chynyg y cyfryw i neb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yraehosion a'r achlysuron o Anghymedroldeb." CYF. IV.] MAWRTH, 1843. [Rhif. XXXII. MEDDWDOD—PRIF ELYN PRYDAINÜ PREGETH AR ESAU LIX. 19. (Parhad o Tudal 23.) 1. Fod llaw Duw î'w gweled yn y sef- ydliad Dirwestol, a amcanaf brofi yn gyn- taf, oblegid ei fod o'r un egwyddor a'r efengyl. Beth yw yr efengyl ond trugar- edd—trugaredd a brynwyd yn ddrud i'r trueiniaid ? Pa beth yw y Bibl ond go- leuni trugaredd ?—yr efengyl, ond fírwyth trugaredd?—y byd, ond chwareu-fwrdd trugaredd?—calon y credadyn,ond trysor- dy trugaredd ?—trugaredd yw y cwbl. Yn awr, gofynaf, pa beth yw ein hegwyddor, ein prif egwyddor, ond trugaredd ? Tru- garedd o hunan-ymwadiad i'r meddwyn—y creadur mwyaf truenus, a'r caeth-was mwy- af gwahanglwyfus sydd ar wyneb y ddaear heddyw. Na ddywedwch, yr Efengyl, ac nid Dirwest a raid ein hachub. Clyw ! adyn, dyna yw yi efengyl — bywyd yr efengyl—cariad Crist yn ein cymhell ni i droi ato fel y byddom byw. Y mae yn wir fod y fath feddyginiaeth yn cael ei chynyg i ddynion, trwy drugaredd, ganoedd o flyn- yddau cyn dyddiau John Wesley ; ond nid oedd yr afiechyd wedi cyrhaedd y pryd hyny i'r fath raddau o lygredd ag y mae ef yn awr yn ngolwg pobl Dduw. Yn awr, y mae yn bryd i ni ddefíroi, a rhodio yn fwy addas i'r hwn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid, a'r hwn a orchymynodd i'w bobl fyned a gwneuthur yr un modd. 2. Fod Ysbryd yr Arglwydd wedi dyrch- afu ei faner yn yr achos Dirwestol, yn erbyn ein gelyn, a brofaf oddiwrth eg- wyddorion a nodweddiadau y dynion sydd yn dwyn perthynas âe ef. Nid ydynt yn feddwon;—nid ydynt ddynion a ang- hredant y Bibl—nid ydynt ddynion ag sydd yn ymyraeth â llywod-ddysg, nac yn fyr o roddi ufudd-dod i'r llywodraeth a'r eglwys. Nac ydynt; y maent yn Grist- ionogion—wedi eu geni cddi uchod—wedi eu geni o'r Ysbryd; galarant ac a ochen- eidiant oblegid pechodau y bobl, megys ag y gwelir yn ein dinasoedd, trefydd, a'n porthiaddoedd, &c. Dynion a amgylch- ynant fôr a thir er mwyn achub eneidiau; dynion a wylant uwch bea gweithredwyr anwiredd, ac a erfyniant yn ymysgaroedd Iesu Grist na leiheid digonolrwydd trugar- eddau yr Ion tuag at ddynion—dynion, yn y rhai y preswylia Ysbryd yr Arglwydd. ac a gyfaddefant nad oes neb yn ddoeth, yn nerthol, nac yn sanctaidd allan o hono ef. Y maent yn ddyniou cyffelyb i'n hen dad Wesley. yr hwn a fabwysiadodd yr egwyddorion hyn gyntaf. Dynion nad yd- ynt yn rhodio yn ol y cnawd, eithr yn ol yr Ysbryd. Y mae yn wir mai ffrwyth yr Ysbryd yw Dirwest, a bod hwnw yn pre- swylio mewn dynion sanctaidd i Dduw. Gall fod rhai dynion da, na addefant hyn: ond credant mai cyfeiliornad ydyw, megys