Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl ; i beiilio na rhoddi na cbynyg ycyfryw i ueb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yraehosion a'r achlysuron o anghymedroldeb." CYF. IV.] MAI, 1843. [Rhif. XXXIV. SYLW AE JER. XLYIII. 10. Melldigedig jyddo yr hicn a wnelo waithyr Árglwydd yn dwyllodrus, a melldigedig fyddo yr hwn a attalio cigleddyf oddiwrth waed." Mae hyny i'w weled yn y geiriau hyn, fod gan yr Arglwydd elynion yn y byd hwn, a milwyr yn rhyfela a r gelynion hyny ; a gwaith, a gweithwyr yn dwyn y gwaith hwnw yn mlaen. Y gelynion a olygir yma oedd y Moabiaíd; y milwyr oedd y Caldeaid, y gwaith oedd darostwng y gen- edl falch hòno, sef y Moabiaid ; y gweith- wyr oedd Nebuchodonozor brenin Babilon, a'i fyddin, y rhai a fygythir â melldith ofn- adwy os byddai iddynt fod yn esgeulus ac yn dwyllodrus yn eu gwaith. Mae gan yr Arglwydd elynion ar y ddaear eto, a mil- wyr yn rhyfela yn eu herbyn ; a gwaith, a gweithwyr yn cario y gwaith yn mlaen. Y prif elyn ydyw meddwdod, yr Iiwn sydd ganddo yn nghylch 600,000 o ddynion yn ei feddiant yn Mrydain, yn garcharorion, o ba rai y mae yn dinystrio yn nghylch 60,000 bob blwyddyn. Y milwyr ydyw y " rhai sydd yn dilyn yr Oen i ba le bynag yr elo;" y gwaith ydyw darostwng a di- nystrio y fasnach feddwol yn ei holl ranau, a'i hymlid allan o'r byd ; y gweithwyr yd- yw gweinidogion y gair, athrawon yr Ys- golion Sabbothol, yn nghyd a'r holl Rech- abiaid a'r Dirwestwyr yn mhob man. Fel y dywedodd yr Arglwydd wrth Saul gynt, " Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i'w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fynu o'r Aifft. Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinystria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ẁr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ŷch ac yn oen, yn gamel ac yn asyn." Felly y mae yn dywedyd wrthym ninau yn awr, " Cofiais yr hyn a wnaeth meddwdod i ti Israel fy mhobl, y modd y gosododd efe i'th erbyn ar y ffordd, ac y lladdodd y rhai olaf o honynt, yr holl weiniaid o'th ol di, a thi yn lluddedig ac yn ddiffygiol ; am hyny, bydded i ti dỳnu ymaith ei goffad- wriaeth oddi tan y nefoedd: nac anghof- ia hyn. Dos yn awr, a tharo feddwdod, a dinystria yr hyn oll s^'dd ganddo, yn ddis- tyliio, yn fragu, yn ddarllaw, yn werthu, yn brynu, yn yfed, ac yn feddwi." Y mae meddwdod yn elyn i'r corff ac i'r enaid, i'r meddianau, i'r eglwys, ac i'r deyrnas; gan hyny, fe ddylai yr holl deyrnas, a'r holl eglwys, a phob teulu, ie, pob enaid a chorff ddeffroi a dyfod allan i'r maes yn erbyn y gelyn sydd yn dinystrjo y byd. Yma y gallwn glywed llais Arglwydd y lluoedd yn cyhoeddi melldith ofnadwy uwch ben gweithwyr twyllodrus, a milwyr dicg a di- galon. I. YÇyhoeddwr. II. Yr hyn a gyhoeddir.