Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA ÜDIRWESTOL GWYNEDD. " Yr wyf yn yrarwymo yn wirfoddoli Iwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl : i beidio na rhoddi na chyuyg ycyfryw i iteb arall; ac y'mhob raodd i wrtlisefyll yraehosion a'r aclilysuron o anghymedroldeb." [CYF. IV. MEHEFIN, 1843. Rhif. XXXV.] Y LLEW A'R MEDDWYN. V mae rhyw gyffelybiaeth rhwng dyn ang- hymedrol, neu Jeddwyn, yn ei ffyrnigrwydd i lew. Nid ydwyf yn gwybod a ydyw y llewod yn yr anialwch yn anwaraidd wrth eu giiydd ai peidio, fel y mae meddwon tuag at eu gilydd. O! fel mae y rhai hyn ar ry w amserau, yn rhuthro ae yn rhwygo er.awd eu gilydd yn waeth na'r tigcrs. Wrth ddarllen lianes y llew a'r meddwyn, y cefais allau fod y cyntaf yu fwy hynaws nag ydyw y diweddaf. Hanesyddiaeth a ddywed wrthym, na wna y llew gynyg cy- ffwrdd àg un hod dynol, oddieithr pan y hyddo yn wancus ac yn newynog amfwyd, ond y meddwyn sydd yn fwy barbaraidd pan y byddo yn llawn, nac mewn modd arall. Y mae y llew hefyd yn fwy tirion a thadol i'w gydmar a'i rai bach ieuainc, nac ydyw y meddwyn i'w wraig dirion, a'i blant. Gadewch i ni eto gydmaru y ddau yn nghyd, yn eudychweliad adref at eu teulu- oedd. Mi a welaf y llew, ar ol chwilio y goedwig am luniaeth i'w rai bychain, yn dyfod adref yn y fath natur dda, fel ag y mae y llewes a'i rhai bach yn llawenychu wrth ei weled yn dyfod, a phob un yn dangos y fath arwydd o lawenydd a gor- foledd yu ei ddychweliad; ac fel yu dy- wedyd, " Dyma ein tad yn dyfod adref ag ymborth i ni, a'n mam," a rhedant i'w gyfarfod ef: ac O! fely byddaut yn chwar- eu ae yn llamu o'i ddeutu, ac yn codi eu traed bychain, ac a neidiant ar ei gefn, ac yntau yn eu caru hwy, ac a orwedda i lawr rhyngddynt, a dangosa bob arwydd ofwyn- eidd-dra fel tad tirion. A ydyw y meddwyn mor dirion a thadol i'w wraig a'i blant, yn ei ddychweliad adref o'r tafarn-dy? Yn mhell o hyny ! Y meddwyn a arhosa oddi- cartref am ddau neu dri o ddiwruodau, os nad wythnos ; a'i deulu heb un briwsionyn i fyw arno : a phan ddychwela adref, y rnae yn ddeng mil gwaeth na bwystfìl an- wâr ; ei wraig yn ei ddychweliad, yn dych- rynu yn ei meddwl; ei blant bychain yn rhedeg ymuith fel llygod o fiaen y gath, neu fel ysgyfarnog o fiaen y milgi; ac os digwydd iddo gael gafael yn un o honynt, O! fel byddant yn ei ofui,fel pe baent gyda'r wiber. Llawer o blant sydd wedi cael eu harchoili yn fawr trwy ddilyn arfer ddrwg eu rh'ieni, ac yn cael eu cario i'r beddrod gyda nodau o anfoddlourwydd Duw, oher- wydd dilyn arferiadau anfad eu rh'ieni. Ië, liawer hefyd o wragedd a phlant harddwych a glàn, a yfodd i'w mwrdro gan ddwylaw y creuloniaid hyn, yn eu bywyd a'u hiechyd. Mr. Dodd a ddywed yr uniawa wir, mai y meddwyn yw " Gormesw r cymedr- oldeb—yspeiliwr moesgarwch—dinystrydd natur a rheswm—gweithredydd y darllaw- ydd — cymwynaswr y diod-dŷ—gofid ei wraig—blinder ei blant—gwaríh iddo ei hun—gwawd ei gymydogion—goleh-dwb symudoì, (a wallüng swill tub,)—delw y bwystfil, ac anghenfil o ddyn."